Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio prif wobrau'r sir i gydnabod busnesau gorau Powys

Image of people at launch of Powys Business Awards 2022

27 Mehefin 2022

Image of people at launch of Powys Business Awards 2022
Rydym yn chwilio am y cwmniau, mentrau cymdeithasol ac elusennau gorau ym Mhowys yn dilyn lansio gwobrau busnes blynyddol y sir.

Trefnir Gwobrau Busnes Powys gan Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth gyda chefnogaeth noddwyr er mwyn dangos yr amrywiaeth eang o fentrau llwyddiannus yn y sir.  Eleni mae wyth categori.

Cynhaliwyd y lansiad yn yr Hyb Busnes yn Y Drenewydd a dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae gennym gymuned fusnes unigryw, amrywiol a llewyrchus yma ym Mhowys ac mae'n hollol briodol i ni gydnabod llwyddiant.  Mae'r gwobrau hyn yn gyfle i ni wneud hynny.

"Rhaid creu'r amgylchedd iawn i ddechrau busnes a rôl Cyngor Sir Powys fel galluogydd yw helpu busnesau i ddatblygu.  Mae'n wych y bydd cyfle i fusnesau Powys wneud cais am arian o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau o wahanol fathau, yn arbennig trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin."

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau ar draws y Canolbarth i dyfu a ffynnu wrth i ni weithio i sicrhau Cymru wyrddach, tecach a fwy llewyrchus.  Felly mae'n bleser cael noddi Gwobrau Busnes Powys eleni eto.

"Mae'r gwobrau'n gyfle gwych i ddangos amrywiaeth ac ansawdd busnesau sy'n gweithredu, tyfu a llwyddo ym Mhowys.  Rwy'n annog pob busnes yn y sir i edrych ar yr holl gategoriau sydd ar gael ac i ystyried cyflwyno cais."

Y categoriau eleni yw:  Gwobr Busnes Newydd, noddwyd gan EvaBuild, Gwobr Entrepreneuriaeth, noddwyd gan Lywodraeth Cymru, Gwobr Microfusnes (llai na 10 aelod staff), noddwyd gan Welshpool Printing Group, Gwobr Twf (noddwyd gan y County Times), Gwobr Busnes Bach (llai na 30 aelod staff), noddwyd gan WR Partners, Gwobr Menter Gymdeithasol/Elusen, noddwyd gan Myrick Training Services, Twf Busnes Bach, noddwyd gan EDF Renewables a Thechnoleg ac Arloesi, noddwyd gan ForrestBrown.

O blith enillwyr y categoriau, bydd un yn ennill Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys, noddwyd gan Gyngor Sir Powys.  Hefyd, bydd y panel barnu'n gallu cyflwyno Gwobr Arbennig y Beirniaid i gydnabod cyrhaeddiad arbennig busnes neu berson sydd heb ennill un o'r categoriau.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Sul 31 Gorffennaf a chynhelir y seremoni wobrwyo yn Dering Lines, Aberhonddu nos Wener 7 Hydref.  Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein neu gallwch eu lawrlwytho o: https://www.powysbusinessawards.co.uk/entry-form .

Sefydlwyd y gwobrau hyn yn 2009, ac maent yn gyfle i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau o bob maint ym Mhowys i gystadlu am y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol ym mhrif ddigwyddiad y sir i fusnesau.

Dywedodd Ceri Stephens, Rheolwr Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth: "Mae Gwobrau Busnes Powys yn lwyfan gwych i fusnesau godi eu proffil.  Bydd y rhai sy'n cystadlu'n cael eu beirniadu'n annibynnol ar eu safonau rhagorol.

"Ar ôl heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf, bydd yn wych i fusnesau ddod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau yn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref."