Lansio prif wobrau'r sir i gydnabod busnesau gorau Powys
27 Mehefin 2022
Trefnir Gwobrau Busnes Powys gan Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth gyda chefnogaeth noddwyr er mwyn dangos yr amrywiaeth eang o fentrau llwyddiannus yn y sir. Eleni mae wyth categori.
Cynhaliwyd y lansiad yn yr Hyb Busnes yn Y Drenewydd a dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae gennym gymuned fusnes unigryw, amrywiol a llewyrchus yma ym Mhowys ac mae'n hollol briodol i ni gydnabod llwyddiant. Mae'r gwobrau hyn yn gyfle i ni wneud hynny.
"Rhaid creu'r amgylchedd iawn i ddechrau busnes a rôl Cyngor Sir Powys fel galluogydd yw helpu busnesau i ddatblygu. Mae'n wych y bydd cyfle i fusnesau Powys wneud cais am arian o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau o wahanol fathau, yn arbennig trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin."
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau ar draws y Canolbarth i dyfu a ffynnu wrth i ni weithio i sicrhau Cymru wyrddach, tecach a fwy llewyrchus. Felly mae'n bleser cael noddi Gwobrau Busnes Powys eleni eto.
"Mae'r gwobrau'n gyfle gwych i ddangos amrywiaeth ac ansawdd busnesau sy'n gweithredu, tyfu a llwyddo ym Mhowys. Rwy'n annog pob busnes yn y sir i edrych ar yr holl gategoriau sydd ar gael ac i ystyried cyflwyno cais."
Y categoriau eleni yw: Gwobr Busnes Newydd, noddwyd gan EvaBuild, Gwobr Entrepreneuriaeth, noddwyd gan Lywodraeth Cymru, Gwobr Microfusnes (llai na 10 aelod staff), noddwyd gan Welshpool Printing Group, Gwobr Twf (noddwyd gan y County Times), Gwobr Busnes Bach (llai na 30 aelod staff), noddwyd gan WR Partners, Gwobr Menter Gymdeithasol/Elusen, noddwyd gan Myrick Training Services, Twf Busnes Bach, noddwyd gan EDF Renewables a Thechnoleg ac Arloesi, noddwyd gan ForrestBrown.
O blith enillwyr y categoriau, bydd un yn ennill Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys, noddwyd gan Gyngor Sir Powys. Hefyd, bydd y panel barnu'n gallu cyflwyno Gwobr Arbennig y Beirniaid i gydnabod cyrhaeddiad arbennig busnes neu berson sydd heb ennill un o'r categoriau.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Sul 31 Gorffennaf a chynhelir y seremoni wobrwyo yn Dering Lines, Aberhonddu nos Wener 7 Hydref. Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein neu gallwch eu lawrlwytho o: https://www.powysbusinessawards.co.uk/entry-form .
Sefydlwyd y gwobrau hyn yn 2009, ac maent yn gyfle i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau o bob maint ym Mhowys i gystadlu am y cyfle i gyrraedd y rownd derfynol ym mhrif ddigwyddiad y sir i fusnesau.
Dywedodd Ceri Stephens, Rheolwr Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth: "Mae Gwobrau Busnes Powys yn lwyfan gwych i fusnesau godi eu proffil. Bydd y rhai sy'n cystadlu'n cael eu beirniadu'n annibynnol ar eu safonau rhagorol.
"Ar ôl heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf, bydd yn wych i fusnesau ddod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau yn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref."