Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailgylchu wrth fynd

Image of a recycle on the go litter bin

4 Gorffennaf 2022

Image of a recycle on the go litter bin
Mae biniau sbwriel 'ailgylchu wrth fynd' newydd yn ymddangos ledled y sir.  Bydd y biniau newydd yn rhoi'r cyfle i bob un ohonom i gadw'r momentwm ac ailgylchu ein gwastraff tra byddwn allan o gwmpas y lle.

Mae'r biniau newydd wedi'u rhannu'n ddau gyda hanner ar gyfer sbwriel cyffredinol a'r hanner arall ar gyfer caniau a photeli plastig y gellir eu hailgylchu ynghyd â'r eitemau a gesglir o gasgliadau wythnosol pobl wrth ymyl y ffordd.

"Mae pobl Powys wedi profi'n ailgylchwyr gwych." meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae'n ail natur i lawer ohonom ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl, a dyna pam ei bod mor bwysig i ni allu ailgylchu tra byddwn ni allan ac nid dim ond gartref.

"Mae'r biniau dau bwrpas newydd hyn yn ddelfrydol ar gyfer sicrhau nad oes sbwriel yn ein cymunedau hardd ym Mhowys yn ogystal â rhoi cyfle i ni ailgylchu ein cynwysyddion diodydd tra byddwn allan. "

Prynwyd y biniau gyda chyllid gan fenter Caru Cymru, mudiad Cymru gyfan dan arweiniad Cadwch Gymru'n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu, gofalu am yr amgylchedd a chael gwared ar sbwriel.