Toglo gwelededd dewislen symudol

Prinder staff yn amharu ar y gwasanaeth casglu sbwriel

Image of two waste and recycling crew members

4 Gorffennaf 2022

Image of two waste and recycling crew members
Rydym wedi dibynnu ar weithwyr rheng flaen megis y criwiau gwastraff ac ailgylchu i barhau i weithio'n galed dros drafferthion y blynyddoedd diwethaf.  Er straen pandemig byd eang a phwysau ar gyllidebau, mae gweithwyr allweddol y cyngor wedi gweithio'n ddi-flino i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau a'n bod yn ateb anghenion ein trigolion.

Fodd bynnag, mae'r argyfwng recriwtio cenedlaethol yn gadael ei ôl ac mae'r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu'n wynebu prinder staff.  Ar adegau mae hyn yn golygu colli casgliadau a gorfod gohirio gwacau biniau sbwriel a'r banciau yn safleoedd ailgylchu cymunedol.  Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau na fydd hyn yn amharu gormod ar ein trigolion.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rydym yn deall fod methu casglu sbwriel yn gallu fod yn drafferthus i bawb, gan gynnwys ein criwiau, trigolion a chwsmeriaid masnachol.

"Hoffem ddiolch i'r criwiau am eu hymroddiad a'u gwaith caled di-flino ac i drigolion a'n cwsmeriaid masnachol am eu dealltwriaeth.  Gallaf eich sicrhau chi ein bod ni'n gweithio'n galed i gadw'r gwasanaeth i fynd mor effeithiol â phosibl ac rydym wrthi'n ceisio recriwtio staff ychwanegol i geisio lleddfu'r pwysau ar y tîm presennol."

Rydym yn cynghori trigolion i gadw llygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Ailgylchu Powys a gwefan y cyngor am newyddion ar y trefniadau casglu:

Facebook: @recycleforpowys / https://www.facebook.com/recycleforpowys
Twitter: @PowysRecycles / https://twitter.com/PowysRecycles
Manylion casglu sbwriel: Diwrnod casglu biniau

"Er ei fod yn waith caled, mae bod yn rhan o'r tîm gwastraff ac ailgylchu'n gallu bod yn waith gwerth chweil", ychwanegodd y Cynghorydd Charlton.  "Byddem yn annog unrhyw un sy'n chwilio am waith yn lleol i ystyried cyflwyno cais i fod yn rhan o'r tîm.

"Mae'n bwysig i ni ein bod yn cyflogi pobl leol a byddem yn croesawu ceisiadau gan ferched sydd am fanteisio ar y cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Yn ogystal â chydweithwyr cyfeillgar a brwd, byddwch hefyd yn cael y boddhad o helpu'r cyngor i fod yn un o'r awdurdodau ailgylchu sy'n perfformio oriau ac yn cyfrannu at agenda'r cyngor o ran newid yn yr hinsawdd."

Am fwy o wybodaeth ar y swyddi presennol o fewn y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu, ewch i: Chwilio am swyddi ac ymgeisio amdanynt