Gwobr Barcud Arian i hyrwyddwr casglu sbwriel
4 Gorffennaf 2022
Mae Gwobr Barcud Arian Cyngor Sir Powys yn wobr ddinesig a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, i gydnabod ymroddiad neilltuol i'r gymuned. Yn ogystal â bod yn Swyddog Prosiect Cadw Cymru'n Daclus i Bowys ers 15 mlynedd, mae'r wobr hefyd yn cydnabod ei gyrfa flaenorol yng ngwasanaeth amgueddfeydd y cyngor.
Enwebwyd Rachel gan James Thompson, Rheolwr Ymwybyddiaeth a Gorfodaeth Gwastraff y cyngor, fel diolch am ei gwaith caled dros y blynyddoedd. Trwy gydol ei hamser fel Swyddog Prosiect Cadw Cymru'n Daclus i Bowys, mae Rachel wedi ymroi i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol yn y sir. Mae wedi helpu ysgolion, grwpiau cymunedol, elusennau, busnesau, cynghorwyr ac unigolion lleol i weithredu'n uniongyrchol i helpu i wneud eu cymunedau'n lanach a gwyrddach.
"Mae'n hyfryd cael cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad Rachel i sir Powys yn swyddogol," dywedodd y Cynghorydd Ratcliffe, "ac er fod y wobr i Rachel yn bersonol, mae hefyd yn adlewyrchu gwaith caled gymaint o'r gwirfoddolwyr lleol ar draws Powys sy'n gwneud gymaint i geisio cadw'r sir yn glir o sbwriel.
"Mae Rachel a'i gwirfoddolwyr wedi gwneud gymaint i Bowys, nid dim ond casglu sbwriel ond hefyd annog prosiectau amgylcheddol, annog bywyd gwyllt a chynefinoedd natur a mentrau garddio ar draws y sir.
"Rwy'n gwybod o wirfoddoli gyda thasgau amgylcheddol lleol, gymaint y mae hyn yn gwella iechyd corfforol a meddwl y rhai sy'n cymryd rhan, yn ogystal â gwella'r amgylchedd lleol i'r gymuned gyfan."
Meddai Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadw Cymru'n Daclus: "Rwy'n hynod falch bod Cyngor Sir Powys wedi cydnabod cyfraniad Rachel ym Mhowys dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Mae Rachel wedi gweithio'n agos gyda'n partner awdurdod lleol ac eraill ym Mhowys i ddiogelu a gwella'r amgylchedd lleol sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ar draws y sir."
Llun: Cllr Gareth Ratcliffe, James Thompson, Rachel Palmer