Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwobr Barcud Arian i hyrwyddwr casglu sbwriel

Image of Rachel Palmer receiving a Silver Kite Award

4 Gorffennaf 2022

Image of Rachel Palmer receiving a Silver Kite Award
Cyflwynwyd Gwobr Barcud Arian i Swyddog Prosiect Cadw Cymru'n Daclus, Rachel Palmer, i gydnabod blynyddoedd lawer o ymroddiad wrth annog gwirfoddolwyr i ofalu am yr amgylchedd lleol.

Mae Gwobr Barcud Arian Cyngor Sir Powys yn wobr ddinesig a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, i gydnabod ymroddiad neilltuol i'r gymuned.  Yn ogystal â bod yn Swyddog Prosiect Cadw Cymru'n Daclus i Bowys ers 15 mlynedd, mae'r wobr hefyd yn cydnabod ei gyrfa flaenorol yng ngwasanaeth amgueddfeydd y cyngor.

Enwebwyd Rachel gan James Thompson, Rheolwr Ymwybyddiaeth a Gorfodaeth Gwastraff y cyngor, fel diolch am ei gwaith caled dros y blynyddoedd.  Trwy gydol ei hamser fel Swyddog Prosiect Cadw Cymru'n Daclus i Bowys, mae Rachel wedi ymroi i gefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol yn y sir.  Mae wedi helpu ysgolion, grwpiau cymunedol, elusennau, busnesau, cynghorwyr ac unigolion lleol i weithredu'n uniongyrchol i helpu i wneud eu cymunedau'n lanach a gwyrddach.

"Mae'n hyfryd cael cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad Rachel i sir Powys yn swyddogol," dywedodd y Cynghorydd Ratcliffe, "ac er fod y wobr i Rachel yn bersonol, mae hefyd yn adlewyrchu gwaith caled gymaint o'r gwirfoddolwyr lleol ar draws Powys sy'n gwneud gymaint i geisio cadw'r sir yn glir o sbwriel.

"Mae Rachel a'i gwirfoddolwyr wedi gwneud gymaint i Bowys, nid dim ond casglu sbwriel ond hefyd annog prosiectau amgylcheddol, annog bywyd gwyllt a chynefinoedd natur a mentrau garddio ar draws y sir.

"Rwy'n gwybod o wirfoddoli gyda thasgau amgylcheddol lleol, gymaint y mae hyn yn gwella iechyd corfforol a meddwl y rhai sy'n cymryd rhan, yn ogystal â gwella'r amgylchedd lleol i'r gymuned gyfan."

Meddai Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadw Cymru'n Daclus: "Rwy'n hynod falch bod Cyngor Sir Powys wedi cydnabod cyfraniad Rachel ym Mhowys dros y 15 mlynedd ddiwethaf.  Mae Rachel wedi gweithio'n agos gyda'n partner awdurdod lleol ac eraill ym Mhowys i ddiogelu a gwella'r amgylchedd lleol sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ar draws y sir."

Llun: Cllr Gareth Ratcliffe, James Thompson, Rachel Palmer