Toglo gwelededd dewislen symudol

Cael hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru

Image of people launching a campaign outside a building

5 Gorffennaf 2022

Image of people launching a campaign outside a building
Mae ymgyrch sy'n annog pobl i Gael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel yn ystod Wythnos Sioe Frenhinol Cymru wedi cael ei lansio.

Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wedi lansio'r ymgyrch cyn i brif sioe amaethyddol Cymru ddychwelyd yn ddiweddarach y mis hwn (Gorffennaf).

Bydd yr ymgyrch yn gweld cyfres o bosteri a baneri yn cael eu harddangos mewn eiddo trwyddedig yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru, sy'n annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol mewn ffordd greadigol a doniol.

Mae'n un o gyfres o fesurau a fydd yn cael eu cyflwyno gan y grŵp diogelwch, a ffurfiwyd yn 2017 ac sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys. Nod y mesurau yw gostwng peryglon i'r cyhoedd a gwella diogelwch y sawl sydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch yn ystod cyfnod Sioe Frenhinol Cymru.

Mae mesurau diogelwch eraill a fydd ar waith hefyd yn cynnwys:

  • Llwybr cerdded diogel a adwaenir fel y Llwybr Gwyrdd
  • Bydd blychau amnest cyffuriau'n cael eu gosod ar lwybr mynediad i leoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch
  • Mae cefnogaeth lles i'w gynnig gan Fugeiliaid y Stryd gyda'r nos yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru
  • Canolfan les a meddygol a weithredir gan Sant Ioan Cymru o Neuadd y Strand

Dywedodd y Cyng. Richard Church, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Ddiogelach: "Bydd Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd wedi tair blynedd heb amheuaeth yn denu degau ar filoedd o ymwelwyr i Lanfair-ym-Muallt a'r ardal gyfagos.

"Tra ein bod yn croesawu'r sioe yn dychwelyd, mae'n bwysig fod ymwelwyr a thrigolion yn mwynhau'r digwyddiad amaethyddol blynyddol yn ddiogel. Er mai naws ddigrif sydd i'r ymgyrch hon, mae ganddi negeseuon diogelwch pwysig i'r sawl sydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

"Rydym eisiau i bobl yfed ac ymddwyn yn gyfrifol, gan ofalu am eu hunain a'u ffrindiau. Cyhyd ag y bydd pobl yn Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel, yna fe fyddant yn cael amser cofiadwy yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

"Rydym yn deall y bydd rhai o'r mesurau sydd ar waith yn gallu achosi aflonyddwch i drigolion sy'n byw yn Llanfair-ym-Muallt. Fodd bynnag, maen nhw'n angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cadw ymwelwyr a thrigolion yn ddiogel trwy gydol wythnos Sioe Frenhinol Cymru."

Dywedodd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: "Mae'r Sioe Frenhinol wedi chwarae rôl arweiniol wrth helpu i wella diogelwch o fewn a thu allan i'n ffens berimedr. Rydym yn canmol llwyddiant Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wrth estyn mesurau diogelwch i mewn i'r dref a dod â'r holl ddigwyddiadau amrywiol a gynhelir yn ystod wythnos y Sioe ynghyd mewn un lle.

"Bydd y mesurau yn gwella diogelwch pawb sy'n dod i Lanfair-ym-Muallt ac rydym yn annog ymwelwyr i ddilyn y cyfarwyddyd, ymddwyn yn gyfrifol a gofalu am ei gilydd. Gobeithio y cewch sioe wych."