Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru
5 Gorffennaf 2022
Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn un o bedwar a sefydlwyd led led Cymru gan Lywodraeth Cymru. Y nod yw atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio gwneud penderfyniad mewn tri maes allweddol.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys Arweinwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Is-Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (ar gyfer materion cynllunio) ac uwch gynrychiolwyr o'u sefydliadau.
Gwnaed nifer o apwyntiadau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 4 Gorffennaf. Etholwyd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn Gadeirydd am y 12 mis nesaf. Etholwyd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys yn Is-gadeirydd.
Bydd Dr. Caroline Turner Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys yn parhau i wneud dyletswyddau Prif Weithredwr y pwyllgor.
Mae'r pwyllgor wedi cael y dasg o ddatblygu trafnidiaeth ranbarthol, cynlluniau datblygu strategol a gwella lles economaidd.
Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.