Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru

CJC Logo

5 Gorffennaf 2022

CJC Logo
Mae pwyllgor newydd i atgyfnerthu gweithio rhanbarthol ar draws canolbarth Cymru wedi cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn un o bedwar a sefydlwyd led led Cymru gan Lywodraeth Cymru. Y nod yw atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio gwneud penderfyniad mewn tri maes allweddol.

Mae'r pwyllgor yn cynnwys Arweinwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Is-Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (ar gyfer materion cynllunio) ac uwch gynrychiolwyr o'u sefydliadau.

Gwnaed nifer o apwyntiadau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 4 Gorffennaf.  Etholwyd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn Gadeirydd am y 12 mis nesaf. Etholwyd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys yn Is-gadeirydd.

Bydd Dr. Caroline Turner Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys yn parhau i wneud dyletswyddau Prif Weithredwr y pwyllgor.

Mae'r pwyllgor wedi cael y dasg o ddatblygu trafnidiaeth ranbarthol, cynlluniau datblygu strategol a gwella lles economaidd.

Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.