Toglo gwelededd dewislen symudol

Entrepreneur yn brysurach nag erioed ers dod yn Fusnes y Flwyddyn Powys

Image of Aled Woosnam and Evie Williams from AL Technical, 23 Social and Severn Valley Events, at the launch of the Powys Business Awards 2022.

4 Gorffennaf 2022

Image of Aled Woosnam and Evie Williams from AL Technical, 23 Social and Severn Valley Events, at the launch of the Powys Business Awards 2022.
Mae'r entrepreneur ifanc, Aled Woosnam yn brysurach nag erioed ers ennill Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys fis Hydref y llynedd.

Mae Aled yn berchen ar AL Technical, busnes trydanol a chyfathrebu arbenigol, 23 Social, bar a gril blaenllaw, amlbwrpas yn y Drenewydd a phartner yn Severn Valley Events, bar symudol, arlwyo, busnes technegol a diogelwch.

Mae wedi cyflogi pum aelod arall o staff, gan roi hwb i'w weithlu i bron i 35 o weithwyr llawn amser a 45 o weithwyr rhan-amser, ers dod yn Fusnes y Flwyddyn Powys ac ennill Gwobr Entrepreneuriaeth y llynedd.

Mae Severn Valley Events, yn arbennig o ffynniannus gyda llawer o'r digwyddiadau a ohiriwyd yn ystod y pandemig bellach yn cael eu hatgyfodi yn 2022.

Ffurfiwyd AL Technical yn 2015 ac yna Severn Valley Events yn 2019 a 23 Social yn ystod y pandemig. Mae'r tri busnes wedi'u cydgysylltu.

Yn siarad yn lansiad y gwobrau eleni a drefnwyd gan Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG), dywedodd Aled: "Ers ennill Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys, rydym wedi dod yn brysurach nag erioed.  Erbyn hyn, mae pobl yn ymddiried mwy yn ein busnesau.

"Mae hefyd yn dangos i'n staff bod eu gwaith caled yn talu ar ei ganfed ac yn rhoi'r awydd iddynt lwyddo.

"Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth o safon ac rydym wedi gweithio'n galed amdano. Fy nghyngor i ar gyfer pob busnes ym Mhowys yw  'anfonwch eich ceisiadau'. Gwnaethom gais am dair neu bedair blynedd a dysgom rywbeth bob tro.  Drwy ymgeisio, agorwyd sawl drws i gysylltiadau newydd ac i fusnesau o'r un anian ry'n ni wedi dysgu ohonynt.

"Mae Powys yn sir ffyniannus i fusnesau o bob maint ac mae'r gwobrau'n rhoi llwyfan gwych iddynt."

Anogodd Ceri Stephens, rheolwr grŵp MWMG, i fusnesau ledled Powys i wneud cais am y gwobrau eleni. "Rydyn ni eisiau dod o hyd i'r perlau go iawn sy'n bodoli yn y sir gan hyrwyddo pam fod Powys yn lle gwych ar gyfer busnes" meddai.

Y categorïau eleni yw: Gwobr Cychwyn Busnes a noddir gan EvaBuild, Gwobr Entrepreneuriaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru, Gwobr Microfusnesau (llai na 10 o weithwyr) a noddir gan Welshpool Printing Group, Gwobr Twf a noddir gan The County Times, Gwobr Busnesau Bach (o dan 30 o weithwyr) a noddir gan WR Partners, Gwobr Menter Gymdeithasol / Elusen a noddir gan Myrick Training Services, Gwobr Twf Busnesau Bach a noddir gan EDF Renewables,  Gwobr Technoleg ac Arloesi a noddir gan ForrestBrown a Gwobr Datblygu Pobl a noddir gan Grŵp Colegau NPTC.

O enillwyr y categori, dewisir enillydd Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys, a noddir gan Gyngor Sir Powys. Yn ogystal, gall y panel beirniadu wneud Gwobr Arbennig y Beirniaid yn ôl eu disgresiwn i gydnabod cyflawniad rhagorol gan fusnes neu berson nad yw'n un o enillwyr categori.

Rhaid derbyn ceisiadau erbyn dydd Sul, 31 Gorffennaf a bydd y cyflwyniad gwobrau yn Dering Lines, Aberhonddu ddydd Gwener, 7 Hydref. Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein neu eu lawrlwytho yn https://www.powysbusinessawards.co.uk/entry-form .

Mae'r gwobrau, a ddechreuodd yn 2009, yn gyfle i bob busnes, menter gymdeithasol ac elusen o bob maint ym Mhowys gystadlu am gyfle i gyrraedd y rownd derfynol ym mhrif ddigwyddiad busnes y flwyddyn yn y sir.