Tariffau Cerbydau Hacni
6 Gorffennaf 2022
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig codi'r tariffau ar ôl derbyn ceisiadau gan gwmniau cerbydau hacni'r sir.
Cynhaliwyd ymgynghoriad â gyrwyr tacsis trwyddedig Powys nôl yn y gwanwyn, gyda 31 o'r 33 a ymatebodd o blaid codi tariffau.
Ar hyn o bryd mae tariff dwy filltir Powys yn cyfateb i £5.40 ond y cynnig yw codi'r tariff i £6.
Bydd y cyngor nawr yn ymgynghori ar y cynnig i godi tariffau cerbydau hacni. Bydd y cyfnod ymgynghori'n cychwyn ddydd Gwener 8 Gorffennaf ac yn para pythefnos. Bydd yn cau ddydd Gwener 22 Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rydym yn ymwybodol iawn fod costau tanwydd uwch yn effeithio ar yrwyr tacsis y sir.
"Nid yw'r tariff presennol wedi newid ers 2018 ond mae angen i brisiau tacsis fod yn deg i yrwyr a pherchnogion cerbydau er mwyn gwneud bywoliaeth ond hefyd i fod yn fforddiadwy i'r cyhoedd sy'n eu defnyddio.
"Mae'r cynnydd a gynigir yn ryw 11 y cant a fyddai'n codi prisiau Powys yn debyg i gyfartaledd Cymru."
Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnydd hwn yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod o ddydd Gwener 8 Gorffennaf a'u hanfon at:
Rheolwr y Tîm Trwyddedu, Cyngor Sir Powys, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA neu ar e-bost at licensing@powys.gov.uk
Prisiau a gynigir
Cerbydau hyd at 4 teithiwr
TARIFF 1 (GYDA'R DYDD) 6.00 tan 23.00
- Galw a'r filltir gyntaf neu 9 munud o amser aros cychwynnol - £4.00
- Am bob 176 llath neu ran ohono - 20c | £2/filltir
- Amser aros - 20c/munud
TARIFF 2 (NOS) 23.00 tan 06.00 a Gŵyl y Banc
- Galw a'r filltir gyntaf neu 11 munud o amser aros cychwynnol - £4.50
- Am bob 160 llath neu ran ohono - 25c | £2.75/filltir
- Amser aros - 25c/munud
TARIFF 3 (NADOLIG A BLWYDDYN NEWYDD) 19.00 24 Rhag - 06.00 27 Rhag | 19.00 31 Rhag - 06.00 2 Ion
- Galw a'r filltir gyntaf neu 10 munud o amser aros cychwynnol - £6.00
- Am bob 160 llath neu ran ohono - 30c | £3/filltir
- Amser aros - 30c/munud
Cerbydau gyda lle i >4 teithiwr
TARIFF 4 (GYDA'R DYDD) 6.00 tan 23.00
- Galw a'r filltir gyntaf neu 11 munud o amser aros cychwynnol - £4.50
- Am bob 160 llath neu ran ohono - 25c | £2.75/filltir
- Amser aros - 20c/munud
TARIFF 5 (NOS) 23.00 tan 06.00 a Gŵyl y Banc
- Galw a'r filltir gyntaf neu 10 munud o amser aros cychwynnol - £6.00
- Am bob 160 llath neu ran ohono - 30c | £3/filltir
- Amser aros - 30c/munud
TARIFF 6 (NADOLIG A BLWYDDYN NEWYDD) 19.00 24 Rhag - 06.00 27 Rhag | 19.00 31 Rhag - 06.00 2 Ion
- Galw a'r filltir gyntaf neu 10 munud o amser aros cychwynnol - £7.50
- Am bob 160 llath neu ran ohono - 40c | £4/filltir
- Amser aros - 40c/munud
Pris baeddu hyd at £50