Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Digwyddiadau canser yn helpu cleifion i uno'r dotiau

Brecon ICJ Delivery Partners Photo with chair of council and Dr Ruth Corbally

6 Gorffennaf 2022

Brecon ICJ Delivery Partners Photo with chair of council and Dr Ruth Corbally
Dyfarnodd y trefnwyr - rhaglen Gwella'r Daith Canser ym Mhowys - bod dau ddigwyddiad gwybodaeth taro heibio â'r nod o ddarparu cymorth i breswylwyr yn y sir sy'n byw gyda chanser yn agosach i'w cartrefi yn llwyddiant.

Mae'r prosiect a ariennir gan Gymorth Canser Macmillan yn cynnwys Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel partneriaid allweddol.  Ei nod yw sicrhau bod pob preswylydd o Bowys sydd â diagnosis o ganser yn cael cynnig sgwrs gefnogol bersonol gyda gweithiwr cyswllt hyfforddedig er mwyn archwilio a mynd i'r afael â'u pryderon allweddol.

Yn y digwyddiadau, a gynhaliwyd yn Aberhonddu ddydd Iau 23 Mehefin ac yn y Trallwng ddydd Llun 27 Mehefin, galwodd rhwng 30 a 40 o bobl i mewn i geisio cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth am eu diagnosis canser, eu pryderon a'u hanghenion. 

Rhoddwyd bag o bethau da ICJ i bob ymwelydd, yn cynnwys llenyddiaeth am y rhaglen, a gallent wrando ar sgyrsiau a siarad yn uniongyrchol ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol.  Roedd y rhain yn cynnwys Dr Ruth Corbally, Meddyg Teulu Canser Arweiniol Powys, Louise Hymers, Nyrs Ganser Arweiniol, gwasanaeth deieteg Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tîm Cyngor Ariannol y cyngor a'r gwasanaeth Cymorth i oedolion. 

Daeth staff Llyfrgelloedd Powys hefyd ag arddangosfa o lyfrau am ganser sydd ar gael i'w benthyca, ynghyd â Beiciau Gwaed Cymru sy'n darparu meddyginiaeth canser arbenigol i drigolion Powys , gyda'u stondin a'u beic.  Roedd Cyngor Iechyd Cymuned Powys sy'n eiriol dros gleifion y gwasanaethau iechyd yn bresennol a hefyd cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Dylan Owen, Pennaeth Comisiynu Cyngor Sir Powys, a fynychodd y digwyddiad yn Aberhonddu: "Mae nifer  o drigolion Powys eisoes wedi dweud wrthym fod eu taith canser fel bod ar daith ffair neu gludfelt.  Gall fod yn ddryslyd ac yn llethol yn aml, gydag amrywiaeth o brofion ac apwyntiadau ysbyty i ymdopi â nhw y mae angen teithio allan o'r sir ar bob un ohonyn nhw. Ar ôl cyrraedd adref, nid yw pobl yn gwybod yn iawn ble i droi am help gyda phethau fel delio â materion gwaith, rheoli teimladau o bryder, neu dalu'r biliau.  Yn yr un modd, efallai hoffai lawer rywfaint o gymorth ychwanegol i gasglu presgripsiynau, siopa, garddio, neu orchwylion cartref am eu bod yn teimlo'n flinedig/lluddedig oherwydd eu triniaeth. Gall y rhaglen ICJ helpu gyda'r holl bethau hyn, felly os nad oedd unrhyw un ohonoch yn gallu mynychu'r digwyddiadau ac os hoffech gael cymorth, cysylltwch ag un o'n partneriaid cyflawni."

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Macmillan yng Nghymru : "Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb fel y ddau hyn a gynhelir yn Aberhonddu a'r Trallwng yn darparu amgylchedd amhrisiadwy a chefnogol lle gall pobl sydd â chwestiynau am ganser gael atebion gwybodus a hefyd gael eu cyfeirio'n uniongyrchol at y cymorth sydd ar gael yn eu cymunedau. Roedd y ddau ddigwyddiad yn gadarnhaol ac yn boblogaidd iawn ac yn enghraifft wych o sut mae  sawl sefydliad ym Mhowys yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl sy'n byw gyda chanser."

Dywedodd Meinir Morgan, Arweinydd Rhaglen ICJ:  "Ein partneriaid cyflawni allweddol ar gyfer y rhaglen yw Ymddiriedolaeth Bracken, Credu a'r gwasanaeth cysylltydd cymunedol sy'n cael ei redeg gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Mae'r tri wedi ymuno â'r rhaglen ac roeddent yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad.  Mae ganddynt swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n benodol i ddarparu cymorth wedi'i deilwra gan ddefnyddio sgwrs gefnogol Macmillan a elwir yn asesiad cyfannol o anghenion (HNA). Cysylltwch â ni os hoffech gael cymorth. 

Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn y ddau ddigwyddiad -  y côr, y therapydd lleol a fu'n tylino dwylo, ac unrhyw un a gyflwynodd wobr.  Hefyd, mae'r ddwy ymddiriedolaeth ysbyty - Dyffryn Gwy ac Amwythig a Telford - yr ydym yn gwneud cysylltiadau cryf â hwy  oherwydd bod canran fawr o'n trigolion yn cael eu cyfeirio atynt.  Yn benodol, hoffwn estyn fy niolch yn olaf i aelodau ein fforwm - dau ohonynt yn rhannu eu straeon canser ond pawb a gyfrannodd ar y diwrnod ac sy'n cynnig mewnwelediadau gwerthfawr  i'r rhaglen sy'n  ein cadw i ganolbwyntio ar y person sy'n byw gyda chanser sydd yn graidd i'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni ym Mhowys."

Mae timau gofal lliniarol arbenigol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys hefyd yn bartner allweddol. Maent yn derbyn atgyfeiriadau'n uniongyrchol gan ymddiriedolaethau ysbytai neu feddygon teulu.  Aeth  tîm ICJ hefyd i ffair haf Ymddiriedolaeth Bracken a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 25 Mehefin, cyflwyno bagiau o bethau da a sgwrsio â nifer o bobl â diagnosis sydd wedi cytuno i rannu eu taith canser gyda'r tîm.

Gall preswylwyr gael rhagor o wybodaeth ar wefan ICJ: https://www.powysrpb.org/icjpowys I gael cymorth, gall preswylwyr hunangyfeirio at PAVO ar 01597 828649, Ymddiriedolaeth Bracken ar 01597 823646 neu Credu os ydych yn gofalu am  aelod o'r teulu/ffrind â chanser ar 01597 823800.