Prydau Ysgol Cynradd Am Ddim i Bawb
Fe wnaeth pob awdurdod lleol ledled Cymru gwblhau'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i ysgolion cynradd ym mis Medi 2024. Roedd yr ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod pob disgybl ysgol gynradd yn gymwys i gael prydau am ddim.
Mae hwn yn gam pwysig pellach tuag at gyflawni ein huchelgeisiau cyffredin o fynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwgu tra yn yr ysgol.
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau mawr ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Mae'n gobeithio gwneud y canlynol:
- codi proffil bwyta'n iach ar draws yr ysgol gyfan;
- cynyddu'r ystod o fwyd y mae disgyblion yn ei fwyta,
- gwella sgiliau cymdeithasol a lles amser prydau bwyd; ac arwain at welliannau mewn ymddygiad a chyrhaeddiad;
- Yn y dyfodol bydd hefyd yn effeithio ar gyflenwad bwyd lleol ac yn cefnogi economi Cymru.
Dylai rhieni/gofalwyr plant oedran cynradd o gartrefi incwm isel wirio eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim (eFSM), er bod eu plant yn gymwys i gael pryd am ddim i bawb gan y gallech fod â hawl i hawlio'r Grant Hanfodion Ysgol.