Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Prydau Ysgol am Ddim

Llinell Gymorth Covid-19 Benodedig i drigolion a busnesau Powys
Rhif ffôn 01597 826345.  Ar agor 9am - 1pm
Cewch wybod am Grantiau a Gostyngiadau, Budd-daliadau a Dyfarniadau, Cyngor ar Reoli'ch Arian a Dyled, a chefnogaeth a chymorth arall.

Os ydych ar incwm isel, gallwn eich helpu gyda chost prydau ysgol ar gyfer unrhyw ddisgybl mewn addysg llawn amser.

Os ydych yn cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim, hyd yn oed os na fydd eich plentyn byth yn cael cinio ysgol, gallwch chi wneud y canlynol:

  • Arbed hyd at £400 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd
  • Helpu eich ysgol ac ysgolion eraill ym Mhowys i elwa ar gyllid oherwydd eich bod wedi cofrestru
  • Gall cofrestru ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim golygu eich bod yn gymwys am help a chymorth arall.

Mae cofrestru'n hawdd ac yn gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi ddweud wrth yr ysgol.

Os yw eich plentyn yn penderfynu cael pryd o fwyd yn yr ysgol ar unrhyw ddiwrnod byddant yn cael y pryd o fwyd sydd ar gael i bawb.  Mae gan ysgolion Powys systemau sy'n golygu ei fod yn amhosib i ddisgyblion eraill wybod pwy sy'n cael prydau bwyd ysgol am ddim.

Pwy sy'n gallu cael prydau ysgol am ddim?

I gael prydau ysgol am ddim yn ysgolion Powys, rhaid i'r rhieni/gofalwyr fod yn derbyn un o'r canlynol:

  1. Cymhorthdal Incwm
  2. Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  3. Os ydych yn Geisiwr Lloches ac yn cael cymorth dan y Ddeddf Lloches a Mewnfudo.
  4. Credyd Gwarantedig Pensiwn y Wladwriaeth
  5. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - yn seiliedig ar incwm.
  6. Credyd Treth Plant - cyn belled nad ydych yn cael swm am ofal plant wedi'i dalu gyda'ch Credyd Treth plant, neu'n derbyn Credyd Treth Gwaith. Mae'n rhaid i adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fod wedi gweithio allan bod incwm eich aelwyd yn £16,190 y flwyddyn neu'n llai.
  7. Credyd Cynhwysol - cyhyd bod eich enillion blynyddol net yn £7400 neu'n llai.

Gallwch hefyd gael prydau ysgol am ddim os oes gennych hawl i daliad Credyd Treth Gwaith estynedig (run-on) am bedair wythnos ar ôl gorffen gweithio neu os ydych yn lleihau eich oriau gwaith i lai na 16 awr yr wythnos. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni mai taliad Credyd Treth Gwaith estynedig (run on) yw e ynghyd â thystiolaeth o'ch holl incwm er mwyn sicrhau eich bod chi'n cymhwyso.

Sut i gofrestru

  1. Os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor, nid oes angen i chi lenwi ffurflen.  Cysylltwch â ni a byddwn ni'n gwneud y gweddill i chi.
  2. Os ydych yn bwriadu gwneud cais am Fudd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor, gallwn ni wneud y trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim a grant gwisg ysgol ar yr un pryd.
  3. Gallwch hefyd gofrestru am brydau ysgol am ddim a grantiau dillad ysgol trwy lenwi'r ffurflen syml isod a chlicio Anfon.

Os ydych chi'n ceisio cwblhau ffurflen grant dillad ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 am ein bod ni wedi anfon llythyr atoch. PEIDIWCH Â DEFNYDDIO'R FFURFLEN HON. Fe welwch ar y wefan grant dillad y bydd y ffurflen yn barod yn fuan

a dylech wneud cais am y grant yn y fan honno

Llenwi'r ffurflen prydau ysgol Am Ddim a grant dillad ar-lein