Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Prosiect Profiad Ymwelwyr yn derbyn hwb Y Pethau Pwysig

Image of Lake Vyrnwy

8 Gorffennaf 2022

Image of Lake Vyrnwy
Bydd tri lleoliad allweddol i ymwelwyr ym Mhowys yn cael hwb ar ôl i'r cyngor sir sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau.

Mae Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i sicrhau £210,400 o gynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer ei Brosiect Profiad Ymwelwyr Powys, a fydd yn gweld cyfanswm o £268,000 yn cael ei wario i wella'r croeso i ymwelwyr ym Mhowys.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar leoliadau ymwelwyr allweddol yn Aberhonddu, Llandrindod a Llyn Efyrnwy. Yn ddiweddar, mae'r cyngor wedi cwblhau cynlluniau datblygu profiad ymwelwyr i asesu effaith y seilwaith presennol ar yr hyn sy'n cael ei gynnig i ymwelwyr a'r profiad ehangach.

Bydd y gwelliannau'n galluogi ymwelwyr i gyfeirio eu hunain yn fwy effeithiol pan fyddant yn cyrraedd lleoliad gan ddod o hyd a chyrraedd asedau ymwelwyr allweddol yn haws. Bydd y prosiect yn galluogi gwell rheolaeth o ymwelwyr a mwy o fwynhad a boddhad i ymwelwyr yn y lleoliadau ymwelwyr allweddol hyn.

Mae'r cyngor wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu'r prosiect gan gynnwys Brecon Buzz, Cyngor Tref Aberhonddu, Hafren Dyfrdwy ac RSPB Llyn Efyrnwy.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Llewyrchus: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi derbyn y cyllid pwysig hwn gan Lywodraeth Cymru.

"Rydym yn deall bod amwynderau twristiaeth lleol yn hanfodol i brofiad cyffredinol rhywun boed hynny ar drip diwrnod neu ar wyliau.  Maen nhw'n elfen bwysig o'n heconomi leol ac yn hanfodol i ymwelwyr a thrigolion.

"Bydd gwella'r seilwaith yn y lleoliadau hyn yn gwella profiad a mwynhad ymwelwyr ymhellach a gallai hyn golygu y byddant yn dychwelyd i Bowys ar gyfer teithiau dydd neu wyliau yn y dyfodol.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'n partneriaid a bydd eu cefnogaeth a'u harian cyfatebol yn helpu i gyflawni Prosiect Profiad Ymwelwyr Powys."

Cynllun Profiad Ymwelwyr Canol Tref Aberhonddu - £48,000

Bydd y cynllun hwn yn cynnwys mapiau tref newydd, pyst bysedd i gerddwyr, placiau treftadaeth, arwyddion wedi'u diweddaru, baneri croeso, codau QR ar gyfer teithiau cerdded cylchol o amgylch y dref ac o ganol y dref i gefn gwlad cyfagos.

Cynllun Profiad Ymwelwyr Llandrindod - £125,000

Bydd y cynllun hwn yn canolbwyntio ar brofiad ymwelwyr o amgylch y Llyn a'r Tŷ Cychod a bydd yn cynnwys agor mynedfa ar gyfer llithrfa ger y tŷ cychod ar gyfer mynediad i weithgareddau dŵr, man cysgodi/eistedd derw newydd, rhoi wyneb newydd ar yr ardal o amgylch y tŷ cychod i wella mynediad i bobl anabl, a chreu ardal ar lan y traeth a golygfan bywyd gwyllt.

Bydd pompren mynediad i bobl anabl yn cael ei gosod ym Mharc y Creigiau gerllaw.

Cynllun Profiad Ymwelwyr Llyn Efyrnwy - £95,000

Bydd y cynllun hwn yn cynnwys gwelliannau i'r maes parcio yn Yr Hen Bentref a Rhiwagor, gosod meinciau picnic a rheseli beiciau, gwelliannau i'r fynedfa i'r cuddfannau adar wrth ymyl y llyn a byrddau dehongli, gwelliannau i'r llwybrau cerdded ar ddau lwybr i wella mynediad, uwchraddio ardal picnic Llechwedd-du yn ogystal ag adfer rheiliau metel eiconig o amgylch y llyn.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad pwysig amwynderau twristiaeth lleol ar brofiad cyffredinol rhywun pan fyddant ar drip diwrnod neu ar wyliau. Yn aml, nid ydym yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan fyddant yn ymweld â Chymru, tra hefyd o fudd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal.

"Bydd y £2.9 miliwn o gyllid newydd rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn mynd i brosiectau a fydd yn ein helpu i wneud ein cyrchfannau'n fwy hygyrch ac yn fwy cynaliadwy, ac i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru."