Agor darpariaeth loeren ar gyfer AAA/ADY yn swyddogol
12 Gorffennaf 2022
Mae'r ddarpariaeth loeren newydd wedi'i lleoli gan Ysgol Penmaes o Aberhonddu yn Ysgol Gynradd Y Groes, ger Llandrindod.
Ar ddydd Llun, 11 Gorffennaf, agorwyd y ddarpariaeth yn swyddogol gan uwch arweinwyr o Ysgol Penmaes, Ysgol Gynradd Y Groes a Chyngor Sir Powys.
Mae'r ddarpariaeth loeren ar gyfer disgyblion o bob cwr o Bowys ond o fudd pennaf i ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth sy'n byw yn agos at ardal Llandrindod.
Datblygwyd y ddarpariaeth gyffrous gydag uwch arweinwyr o'r ddwy ysgol mewn partneriaeth gyda'r cyngor. Mae'n ffurfio rhan o strategaeth y cyngor - Dyfodol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ym Mhowys - sy'n edrych i wella darpariaeth addysgol i ddysgwyr sydd ag AAA/ADY.
Er bod dysgwyr yn mynychu'r ddarpariaeth loeren yn Ysgol Gynradd Y Groes, maen nhw'n parhau ar y gofrestr yn Ysgol Penmaes. Caiff y myfyrwyr eu dysgu gan staff arbenigol o Ysgol Penmaes sydd â llawer iawn o brofiad AAA/ADY.
Mae'r lleoliadau yn y ddarpariaeth leol, a benderfynir gan y cyngor, ar gyfer y dysgwyr hynny sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol a/neu anawsterau cyfathrebu difrifol yn unig.
Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, yr Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Un o uchelgeisiau strategaeth y cyngor sef Dyfodol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ym Mhowys, yw lleoli darpariaeth sy'n diwallu anghenion dysgwyr mor agos at gartref ag sy'n ymarferol bosibl.
"Rwyf wrth fy modd fod y ddwy ysgol wedi cydweithio i gyflwyno'r ysgol loeren hon ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion. Nid yn unig mae'r ddarpariaeth hon yn diwallu uchelgais y cyngor ond mae hefyd yn diwallu anghenion y dysgwyr hynny sydd ag anghenion addysgol arbennig / anghenion dysgu ychwanegol gan gynnig y cyfle gorau posibl y maent yn ei haeddu."
Dywedodd Clancy Brett, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Penmaes a Claire Lewis, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Y Groes: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu cyflwyno darpariaeth yn llwyddiannus sy'n diwallu anghenion y dysgwyr hynny sydd ag anghenion addysgol arbennig/ anghenion dysgu ychwanegol o fewn ein cymunedau lleol.
"Mae'r gweithio cydweithredol hwn wedi cynnig cyfleoedd hefyd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad staff ar draws y ddau leoliad, y mae dysgwyr o'r ddwy ysgol wedi elwa ohonynt."