Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dechrau Disglair i barc newydd yn Aberhonddu

Flying Start Brecon

13 Gorfennaf 2022

Flying Start Brecon
Mae maes chwarae newydd ar Gae Pendre, sydd nesaf at ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn Aberhonddu, ar agor yn awr ac yn cael ei fwynhau gan blant a theuluoedd lleol. Cafodd nawdd gan gynllun Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru a Chyngor Tref Aberhonddu ei sicrhau i gefnogi'r prosiect.

Mae ardal gaeedig gan y maes chwarae i blant 0-4 mlwydd oed, gyda chyfarpar cynhwysol i alluogi plant i ddatblygu eu sgiliau corfforol a chreadigrwydd. Fe fydd yr ardal hefyd yn gweithredu fel man awyr agored estynedig i'r lleoliad Dechrau'n Deg newydd sydd i agor yn ddiweddarach eleni.

Bydd y lleoliad Dechrau'n Deg newydd yn ffinio â Chae Pendre ar safle ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy. Bydd yr adeilad modiwlar newydd a ariennir hefyd gan gynllun Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru yn darparu gofal plant Dechrau'n Deg a ariennir, o ansawdd uchel i blant dyflwydd oed ac yn cael ei ddefnyddio hefyd i gynnal grwpiau a hyfforddiant rhianta. Yn ychwanegol at hyn, fe fydd lle i blant 3 a 4 blwydd oed i gael mynediad at ddarpariaeth y Cyngor Sylfaen a'r Cynnig Gofal Plant.

Bu oedi wrth godi'r adeilad modiwlar Dechrau'n Deg newydd yn ddiweddar ar safle Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy oherwydd materion na ellid eu rhagweld o ran gwasanaethau cyfleustodau o dan y ddaear. Roedd rhaid oedi'r gwaith cloddio tra bo darparwyr gwaith cyfleustodau yn ail-lwybro'r gwasanaethau. Disgwylir i'r adeilad newydd agor i blant a theuluoedd yn nhymor yr hydref.

Bydd y lleoliad newydd, a enwir yn Feithrinfa Enfys Fach, yn cael swyddfa fechan amlasiantaethol ac ystafell gyswllt lle y gall gweithwyr proffesiynol megis Ymwelwyr Iechyd a Therapyddion Iaith a Lleferydd gwrdd â theuluoedd.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Rwyf wrth fy modd fod arian Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu man agored mor wych i blant yn Aberhonddu. Mae gallu chwarae yn rhan hanfodol o dyfu i fyny ac yn helpu pobl ifanc i gymdeithasu gyda ffrindiau, gollwng stêm a bod yn greadigol.

"Rydym yn ymroddedig tuag at wella darpariaeth ar draws Cymru ac mae'r maes chwarae hwn yn enghraifft o'r hyn rydym eisiau ei gyflawni. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cynnydd gyda'r lleoliad Dechrau'n Deg hwn." 

Dywedodd y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chadeirydd Ymddiriedolwyr Lleoliad Cyn-ysgol Priordy: "Mae'n wych gweld plant yn chwarae ac yn gwneud y mwyaf o'r parc newydd - mae wedi bod yn wirioneddol brysur ac yn cael defnydd da. Y parc yw'r cam cyntaf o'r prosiect lleoliad Dechrau'n Deg newydd ac fe fydd yn fan awyr agored ychwanegol gwych ar gyfer ein plant Dechrau'n Deg a Chyfnod Sylfaen yn y dyfodol.

"Mae'r ganolfan Dechrau'n Deg newydd yn ddatblygiad cyffrous ac rydym yn gweithio i ddatrys yr oedi gyda gwaith daear fel y gall plant a theuluoedd gael y buddion llawn o'r buddsoddiad arwyddocaol"

Ariannwyd y wifren zip newydd i blant dros bum mlwydd oed gan Gyngor Tref Aberhonddu ac mae wedi profi i fod yn boblogaidd iawn gyda'r ifanc a'r rheini nad ydynt mor ifanc!

Dywedodd y Cyng. David Meredith, Maer Cyngor Tref Aberhonddu: "Mae Cyngor Tref Aberhonddu yn falch o allu cefnogi'r prosiect Dechrau'n Deg newydd trwy weithio gyda Chyngor Sir Powys i gynnig darn ychwanegol o gyfarpar ar gyfer y cyfleuster newydd cyffrous hwn. Mae llinell zip wedi cael ei gynnwys yn y parc diolch i nawdd gan Gyngor Tref Aberhonddu ac rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn cynnig elfen hwyliog a difyr i ddefnyddwyr y parc."