Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymerwch ofal yn y gwres wrth ymweld â Sioe Frenhinol Cymru

Image of a person drinking from a water bottle

14 Gorffennaf 2022

Image of a person drinking from a water bottle
Mae ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru'r wythnos nesaf yn cael eu cynghori i gymryd gofal yn y gwres wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd tywydd.

Mae Rhybudd Ambr mewn grym ar gyfer gwres eithafol yn gorchuddio rhan o Bowys o ddydd Sul 17 Gorffennaf hyd at o leiaf ddydd Mawrth 19 Gorffennaf pan y gallai'r tymheredd gyrraedd 32C.

Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt erbyn hyn yn annog ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru i gymryd gofal yn y gwres trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn:

  • Yfwch ddigonedd o ddŵr ac osgoi gormod o alcohol
  • Ceisiwch gadw allan o'r haul rhwng 11am a 3pm
  • Cerddwch yn y cysgod, rhowch eli haul ar eich croen yn rheolaidd a gwisgo het gyda chantel llydan.

Mae'r grŵp diogelwch hefyd yn rhybuddio ymwelwyr i beidio â cheisio oeri mewn afonydd cyfagos gan y gallai hyn fod yn beryglus ac yn angheuol.

Mae'r grŵp, a ffurfiwyd yn 2017 ac sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys, yn gyfrifol am ostwng peryglon i'r cyhoedd a gwella diogelwch y rheini sydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch yn ystod cyfnod Sioe Frenhinol Cymru.

Dywedodd y Cyng. Richard Church, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Ddiogelach: "Y prif beryglon iechyd a gyflwynir gan wres eithafol yw dadhydradu felly mae'n bwysig fod ymwelwyr yn gwneud popeth y medrant i gymryd gofal yn y gwres.

"Os bydd ymwelwyr yn dilyn ein hawgrymiadau, fe fydd yn eu helpu i gymryd gofal yn yr haul ond fe fyddant hefyd yn gallu mwynhau eu hamser yn Sioe Frenhinol Cymru yn ddiogel.

"Mae'n bwysig hefyd y gall ymwelwyr osgoi'r temtasiwn o oeri mewn afonydd cyfagos. Gallai hyn beryglu bywydau a gallai fod yn angheuol."