Cymerwch ofal yn y gwres wrth ymweld â Sioe Frenhinol Cymru
14 Gorffennaf 2022
Mae Rhybudd Ambr mewn grym ar gyfer gwres eithafol yn gorchuddio rhan o Bowys o ddydd Sul 17 Gorffennaf hyd at o leiaf ddydd Mawrth 19 Gorffennaf pan y gallai'r tymheredd gyrraedd 32C.
Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt erbyn hyn yn annog ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru i gymryd gofal yn y gwres trwy ddilyn yr awgrymiadau hyn:
- Yfwch ddigonedd o ddŵr ac osgoi gormod o alcohol
- Ceisiwch gadw allan o'r haul rhwng 11am a 3pm
- Cerddwch yn y cysgod, rhowch eli haul ar eich croen yn rheolaidd a gwisgo het gyda chantel llydan.
Mae'r grŵp diogelwch hefyd yn rhybuddio ymwelwyr i beidio â cheisio oeri mewn afonydd cyfagos gan y gallai hyn fod yn beryglus ac yn angheuol.
Mae'r grŵp, a ffurfiwyd yn 2017 ac sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys, yn gyfrifol am ostwng peryglon i'r cyhoedd a gwella diogelwch y rheini sydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch yn ystod cyfnod Sioe Frenhinol Cymru.
Dywedodd y Cyng. Richard Church, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Ddiogelach: "Y prif beryglon iechyd a gyflwynir gan wres eithafol yw dadhydradu felly mae'n bwysig fod ymwelwyr yn gwneud popeth y medrant i gymryd gofal yn y gwres.
"Os bydd ymwelwyr yn dilyn ein hawgrymiadau, fe fydd yn eu helpu i gymryd gofal yn yr haul ond fe fyddant hefyd yn gallu mwynhau eu hamser yn Sioe Frenhinol Cymru yn ddiogel.
"Mae'n bwysig hefyd y gall ymwelwyr osgoi'r temtasiwn o oeri mewn afonydd cyfagos. Gallai hyn beryglu bywydau a gallai fod yn angheuol."