Toglo gwelededd dewislen symudol

Ail-lansio Rhaglen Trawsnewid Addysg

Image of a primary school classroom

18 Gorffennaf 2022

Image of a primary school classroom
Cyhoeddodd y cyngor sir fod rhaglen i drawsnewyd addysg ym Mhowys wedi'i hail-lansio heddiw.

Cafodd Rhaglen Trawsnewid Addysg Cyngor Sir Powys ei hail-lansio gan y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu yn ystod derbyniad a gynhaliwyd yn Nhŵr Brycheiniog ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru (dydd Llun 18 Gorffennaf).

Fel rhan o'r ail-lansiad, bydd fersiwn ddiweddaraf o Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cael ei chyhoeddi, yn ogystal â gwybodaeth am y gwaith fydd yn cael ei wneud yn ystod ail don y rhaglen, rhwng 2022 tan 2027.

Datblygwyd y strategaeth yn wreiddiol ym mis Ebrill 2020 mewn ymateb i arolwg o Wasanaethau Addysg y cyngor yn 2019 gan Estyn.

Erbyn hyn mae'r strategaeth wedi cael ei diweddaru yn dilyn etholiadau'r cyngor sir nôl ym mis Mai, ac hefyd wedi'i hymestyn tan 2032 er mwyn cyd-fynd â'r cylch gwleidyddol.

"Un o flaenoriaethau cytundeb Partneriaeth Flaengar i Bowys yw sicrhau'r cychwyn gorau mewn bywyd i bobl ifanc," dywedodd y Cynghorydd Roberts.

"Rydym yn gweld pobl ifanc yn symud i ffwrdd o Bowys, yn enwedig ein cymunedau mwyaf gwledig.  Trwy bob un o wasanaethau'r cyngor, a thrwy ein partneriaethau ag eraill, mae angen i ni sicrhau'r addysg, hyfforddiant, swyddi a thai fforddiadwy sydd eu hangen ar ein pobl ifanc os ydyn nhw i aros yn ein cymunedau gwledig.

"Bydd cyflwyno'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn allweddol os ydym i wireddu hyn, ac rwy'n awyddus i weld y Rhaglen Trawsnewid Addysg yn symud ymlaen yn gyflym.

"Mae addysg ym Mhowys ac ar draws Cymru'n newid yn sylweddol wrth weld cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru ym mis Medi 2022.  Daw hyn â chyfleoedd newydd, ond hefyd heriau, ac mae'n hanfodol fod ysgolion ac athrawon Powys yn barod i gynnig y cyfleoedd gorau posibl i'n pobl ifanc ni.

"Mae newid bob amser yn heriol, a dylai cymunedau sy'n cael eu heffeithio fod wrth wraidd y penderfyniadau hynny.

"Rydym wedi ymrwymo i roi dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn a byddwn yn gwahodd syniadau gan gymunedau yn gynnar yn y broses, wrth i ni ddatblygu cynigion penodol a gwrando ar y rhai fydd yn cael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau.  Rwy'n hyderus y gallwn wneud penderfyniadau gwell, ac y gallwn weithio gyda'n gilydd i gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau fod pobl ifanc Powys yn elwa o system addysg lle gallant gystadlu â goreuon y byd."

I ddarllen y Strategaeth ddiweddaraf ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg.