Gofalu am yr amgylchedd
18 Gorffennaf 2022
Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol ym Mhowys yn troi pennau yn y dyfodol wrth iddynt deithio i ymweld â phobl yn eu cartrefi mewn cerbydau trydanol.
Mae'r cyngor sir sy'n bwriadu prynu ceir trydanol ac e-feiciau ar gyfer rhai o'i staff mewnol gofal yn y cartref a'r rheini sy'n gweithio i asiantaethau preifat, wedi derbyn £40,000 ychwanegol mewn nawdd oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Fe fydd yn talu hefyd i ychydig o weithwyr gofal i gael gwersi gyrru, fel y gall gynyddu hyblygrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth mae'n ei gyflwyno i drigolion sy'n agored i niwed.
Bydd y £400,000, a fwriedir i hybu capasiti gofal cymdeithasol, yn cael ei wario ar:
- 10 car trydanol i'w defnyddio gan staff gofal asiantaethau preifat
- Dau gar trydanol i'w defnyddio gan staff gofal mewnol
- Grantiau i asiantaethau gofal i'w helpu gosod mannau gwefru eu hunain
- 15 o e-feiciau ar gyfer staff asiantaeth gofal i'w defnyddio mewn trefi
- 20 o wersi gyrru i 20 o ddysgwyr gyrru
Dywedodd y Cyng Sian Cox, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Gofalu: "Mae ymroddiad ein gweithwyr gofal yn anhygoel, ac rwyf wrth fy modd y gallwn gynnig hyn iddynt a'n darparwyr gofal.
"Bydd cerbydau trydanol, mannau gwefru, a gwersi gyrru i bobl sydd eisiau dod yn ofalwyr yn cynyddu capasiti a hyblygrwydd ein gwasanaeth gofalu, gostwng ein hallyriadau fel cyngor, gwella ansawdd aer yn ein cymunedau, a'n helpu i symud ymlaen tuag at Bowys cryfach, tecach a gwyrddach."
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa gofalu, beth am ymuno â'n tîm a helpu pobl Powys i fyw'n well yn eu lle o ddewis a helpu'r amgylchedd fel y byddwch yn mynd: Chwilio am swyddi ac ymgeisio amdanynt