Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio gweledigaeth gan y Cabinet

Cllr James Gibson-Watt and Cllr Matthew Dorrance with a digital copy of the Vision for Powys

20 Gorffennaf 2020

Cllr James Gibson-Watt and Cllr Matthew Dorrance with a digital copy of the Vision for Powys
Mae Cabinet newydd Cyngor Sir Powys wedi lansio eu gweledigaeth ar gyfer y sir yn Sioe Frenhinol Cymru 2022.

Mae'r Cabinet wedi cyflwyno eu gweledigaeth i adeiladu Powys gryfach, decach a gwyrddach.

Mae dogfen newydd, a lansiwyd yn y sioe, yn amlinellu hyn, ochr yn ochr â'u haddewidion, blaenoriaethau, deilliannau a ddymunir a manylion cyswllt a phortffolios ar gyfer yr holl aelodau Cabinet.

Dywedodd y Cyng. James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai, cafodd cytundeb partneriaeth flaengar ei gyrraedd er mwyn caniatáu ffurfio gweinyddiaeth newydd i arwain Cyngor Sir Powys.

"Mae'r cytundeb hwn yn darparu sylfaen gref sy'n adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys. Rydym yn adeiladu ar hyn yn awr i osod amcanion a rhaglen waith eglur er mwyn diwallu'r hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni."

Mae'r ddogfen weledigaeth ar gael yma

LLUN: Y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd yn lansio'r ddogfen.