Siarter a Safonau Gofal Cwsmer Gwasanaethau Cymdeithasol Newydd wedi'u mabwysiadu
22 Gorffennaf 2022
Mae'r ddogfen yn nodi ymroddiad y cyngor 'i ddarparu safon ragorol o wasanaeth yn gyson' trwy roi trigolion Powys fel canolbwynt i bopeth mae'n ei wneud.
Mae'n esbonio sut y bydd y cyngor yn gweithredu a'r hyn a ddisgwylir gan y sawl sy'n derbyn ei help yn gyfnewid am hyn.
Mae'r safonau y gall cwsmeriaid gwasanaethau cymdeithasol ddisgwyl y bydd y cyngor yn eu diwallu, yn cynnwys:
- Cysylltu â'r cyngor dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu dros e-bost
- Dod i weld staff y cyngor wyneb yn wyneb, neu staff yn ymweld â'u cartrefi
- Canmoliaeth a chwynion am wasanaethau'r cyngor
- Diogelu eu cyfrinachedd
Bydd y cyngor hefyd yn datblygu fersiwn 'hawdd ei darllen' o'r ddogfen hon.
Dywedodd y Cyng Sian Cox, yr Aelod Cabinet newydd ar gyfer Powys sy'n Gofalu: "Rydym wedi datblygu'r Siarter a Safonau Gofal Cwsmer Gwasanaethau Cymdeithasol newydd hyn, oherwydd rydym eisiau i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau deimlo fod: eu safbwyntiau a'u teimladau'n cael eu deall, yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, fod eu hawliau'n cael eu parchu, bod cyfathrebu dwy ffordd rheolaidd, a'u bod yn cael profiad positif."
Ychwanegodd y Cyng Susan McNicholas a'r Cyng Sandra Davies, yr Aelodau Cabinet newydd ar y cyd ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol (rhannu swydd): "Dywedwch wrthym ni beth yw eich barn, mae eich safbwyntiau yn bwysig i ni! Y ffordd hawddaf o wneud hyn yw trwy'r dudalen 'Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol' ar ein gwefan, y gellir cael mynediad ato yma: Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol
"Mae eich adborth yn wirioneddol ddefnyddiol bob tro, yn enwedig pan ein bod yn edrych i wneud gwelliannau i'n gwasanaethau."
- Gellir lawr lwytho'r siarter oddi ar y dudalen hon ar wefan y cyngor: Gofal a chymorth cymdeithasol