Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwobrau Barcud Arian i ofalwyr maeth

Cllr Gareth Ratcliffe presenting the Silver Kite Awards to Karen and Danny Sherwood

21 Gorffennaf 2022

Cllr Gareth Ratcliffe presenting the Silver Kite Awards to Karen and Danny Sherwood
Mae cwpwl o Bowys sydd wedi bod yn maethu plant ers dros 25 mlynedd, wedi derbyn gwobr ddinesig am eu gwasanaeth arbennig a selog.

Derbyniodd Karen a Danny Sherwood wobr Barcud Arian gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn ystod seremoni arbennig yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae'r cwpwl wedi cynnig cartref croesawus a sefydlog i fabanod a phlant sydd wedi'u gosod yn eu gofal, gan gynnig cyfleoedd a chefnogaeth iddynt gyrraedd eu potensial ym mha bynnag faes.

Yn ôl yr enwebiad, fe'u disgrifir fel "eiriolwyr neilltuol i blant dan eu gofal, beth bynnag yw eu cefndir, oedran neu ddiwylliant."

Cafodd eu rôl bositif a chefnogol o fewn cymuned faethu Powys hefyd ei gydnabod, gan gynnwys mentora a chynghori darpar fabwysiadwyr i'w helpu trwy'r broses.

Meddai'r Cynghorydd Ratcliffe: "Wrth i Karen a Danny ddathlu 25 mlynedd o faethu, mae'n bleser cael cyflwyno'r wobr hon i'r ddau er mwyn cydnabod eu heffaith bositif dros y blynyddoedd ar blant dan eu gofal, i Wasanaethau Plant ac i'n teulu o ofalwyr maeth ar draws y sir."

Ychwanegodd: "O'r holl ddyletswyddau rwy'n cael fy ngalw i'w gwneud fel Cadeirydd Cyngor Sir Powys, mae'n anrhydedd cael cyflwyno gwobrau i bobl mor haeddiannol fel Karen a Danny.  Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith, ac am barhau i wneud hynny."

 

Yn y llun: Y Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn cyflwyno'r Gwobrau Barcud Arian i Karen a Danny Sherwood.