Gwobrau Barcud Arian i ofalwyr maeth
21 Gorffennaf 2022
Derbyniodd Karen a Danny Sherwood wobr Barcud Arian gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn ystod seremoni arbennig yn Sioe Frenhinol Cymru.
Mae'r cwpwl wedi cynnig cartref croesawus a sefydlog i fabanod a phlant sydd wedi'u gosod yn eu gofal, gan gynnig cyfleoedd a chefnogaeth iddynt gyrraedd eu potensial ym mha bynnag faes.
Yn ôl yr enwebiad, fe'u disgrifir fel "eiriolwyr neilltuol i blant dan eu gofal, beth bynnag yw eu cefndir, oedran neu ddiwylliant."
Cafodd eu rôl bositif a chefnogol o fewn cymuned faethu Powys hefyd ei gydnabod, gan gynnwys mentora a chynghori darpar fabwysiadwyr i'w helpu trwy'r broses.
Meddai'r Cynghorydd Ratcliffe: "Wrth i Karen a Danny ddathlu 25 mlynedd o faethu, mae'n bleser cael cyflwyno'r wobr hon i'r ddau er mwyn cydnabod eu heffaith bositif dros y blynyddoedd ar blant dan eu gofal, i Wasanaethau Plant ac i'n teulu o ofalwyr maeth ar draws y sir."
Ychwanegodd: "O'r holl ddyletswyddau rwy'n cael fy ngalw i'w gwneud fel Cadeirydd Cyngor Sir Powys, mae'n anrhydedd cael cyflwyno gwobrau i bobl mor haeddiannol fel Karen a Danny. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith, ac am barhau i wneud hynny."
Yn y llun: Y Cynghorydd Gareth Ratcliffe yn cyflwyno'r Gwobrau Barcud Arian i Karen a Danny Sherwood.