Costau Parc Busnes Abermiwl
29 Gorffennaf 2022
Daeth yr honiadau yn dilyn cyfarfod o Gabinet Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth (26 Gorffennaf) pan gytunwyd ar gyllid ychwanegol i ddatblygu dwy uned fusnes newydd ar Barc Busnes Aber-miwl, ger y Drenewydd.
Mae costau adeiladu'r unedau busnes newydd, yn enwedig dur a choncrit, wedi codi'n sydyn yn ystod y cyfnod caffael ac adeiladu ac fe gytunodd y Cabinet ar £140,000 yn ychwanegol tuag at y costau adeiladu.
Cadarnhawyd newyddion am y cyllid fel rhan o ddiweddariad arfaethedig ar raglen gyfalaf £133.8m y cyngor ar gyfer 2022/23.
Mewn adroddiad i'r Cabinet, dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol; "Yn ystod y cyfnodau caffael ac adeiladu Parc Busnes Aber-miwl, cafwyd cynnydd sylweddol ym mhrisiau deunyddiau ac adnoddau, yn enwedig dur a choncrit, sy'n elfen sylweddol o'r prosiect, ac mae'r rhain wedi effeithio ar gyllideb wreiddiol y cynllun.
"Fodd bynnag, defnyddiwyd peirianneg sy'n ychwanegu gwerth i leihau effaith y cynnydd mewn costau, ond nid yw hyn wedi lliniaru'r effaith yn llawn. Bydd y gyllideb ychwanegol o £140k yn helpu i gyfrannu tuag at y cynnydd hwn."
Cwblhawyd y gwaith ar Gyfleuster Crynhoi Gwastraff Gogledd Powys, sydd ar yr un parc busnes Aber-miwl yn 2021 ac nid yw wedi'i effeithio gan y cynnydd diweddar ym mhrisiau deunyddiau adeiladu.
"Mae honiadau bod angen £140k yn ychwanegol ar gyfer y cyfleuster crynhoi gwastraff pwrpasol yn gwbl anghywir ac yn hollol gamarweiniol."