Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwblhau datblygiad tai cymdeithasol Y Drenewydd

The new low carbon apartments in Newtown. Photo credit Pave Aways

4 Awst 2022

The new low carbon apartments in Newtown. Photo credit Pave Aways
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bod gwaith ar ddatblygiad tai cymdeithasol newydd, carbon isel yng ngogledd Powys wedi ei gwblhau.

Mae Tîm Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys wedi datblygu adeilad tri llawr sydd yn cynnwys 26 o fflatiau un ystafell wely ar dir ger Clwb Bowlio'r Drenewydd.  Adeiladwyd y datblygiad gan y contractwyr Pave Aways.

Bydd y datblygiad gwerth £3.4m, a fydd yn eiddo i'r cyngor ac yn cael ei reoli gan y cyngor, yn darparu llety carbon isel y mae taer angen amdano, a fydd ar gael ar rent fforddiadwy ac wedi'i ddyrannu i geisiadau ar Gofrestr Tai Gyffredin Powys.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru £2.2m drwy ei Rhaglen Tai Arloesol tuag at ddatblygu'r fflatiau.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Rwyf wrth fy modd bod y gwaith wedi'i gwblhau a hoffwn ddiolch i'n partneriaid adeiladu Pave Aways am ein helpu i gyflawni'r datblygiad tai cymdeithasol hwn yn y Drenewydd.

"Ni allwn adeiladu'r Powys gryfach, decach, gwyrddach yr ydym am ei chael heb fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir.  Yr unig ffordd y gallwn gyflawni hyn yw trwy adeiladu tai cyngor o safon uchel.

"Nid yn unig mae'r datblygiad yma a'r ddau gynllun tai cymdeithasol arall rydym yn eu hadeiladu yn Y Drenewydd yn ateb anghenion y gymuned leol, ond maen nhw hefyd yn gynlluniau pwysig fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai."

Dywedodd Jamie Evans, Cyfarwyddwr Adeiladu Pave Aways: "Nid yn unig mae'r cynllun hwn wedi cyflenwi tai newydd i fanyleb uchel a fydd yn rhatach i denantiaid eu cynnal, ond mae hefyd wedi dod â sawl budd arall i'r gymuned.

"Yn ogystal â defnyddio busnesau a chyflenwyr o fewn 20 milltir i'r Drenewydd, gan ddod â hwb pwysig i'r economi, roeddem wedi cynnig hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith ar y safle, fel bod pobl yn cael cyfle i ystyried gyrfa ym maes adeiladu a dysgu sgiliau newydd.

"Gwnaethom hefyd gefnogi sefydliadau eraill yn yr ardal, er enghraifft trwy roi gliniaduron i ysgolion er mwyn i fyfyrwyr gael mynediad i ddysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo, a rhoi amser yn rhad ac am ddim i grwpiau nid-er-elw ac elsuennau oedd angen gwaith ar eu safleoedd."

"Mae'r dull arloesol o adeiladu er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â safonau carbon isel hefyd wedi bod yn brofiad o ddysgu i ni a'r is-gontractwyr, ac mae wedi arwain at wella'r sgiliau sydd bellach ar gael o fewn y sector adeiladu yn lleol," ychwanegodd Jamie.