Toglo gwelededd dewislen symudol

Angen barn ar fesurau diogelwch oedd ar waith yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru

Builth Wells RWS Safety Measures

8 Awst 2022

Builth Wells RWS Safety Measures
Lansiwyd arolwg am y mesurau diogelwch a oedd ar waith yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni.

Mae preswylwyr Llanfair-ym-Muallt ac ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru y mis diwethaf yn cael eu hannog yn daer i gymryd rhan yn yr arolwg, a rhannu'u barn ar y mesurau diogelwch a oedd ar waith.

Rhoddwyd y mesurau diogelwch ar waith gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym- Muallt, sy'n cynnal yr arolwg. Ffurfiwyd y grŵp yn 2017, a Chyngor Sir Powys sy'n ei arwain.

Ymhlith y mesurau a oedd ar waith eleni roedd:

  • Llwybr cerdded diogel o'r enw y Llwybr Gwyrdd
  • Cymorth lles wedi'i ddarparu gan Fugeiliaid y Stryd min nos yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru
  • Canolfan meddygol a llesiant, a oedd yn cael ei rhedeg gan St John's Cymru o Neuadd y Strand.
  • Ymgyrch yn annog ymwelwyr i yfed ac ymddwyn yn gyfrifol

Dywedodd y Cyng Richard Church, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Diogel: "Mae Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt wedi defnyddio'u profiad a'u gwybodaeth ac wedi rhoi mesurau ar waith i gadw ymwelwyr a thrigolion yn ddiogel gydol wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

"Rydym yn awyddus i geisio barn preswylwyr Llanfair-ym-Muallt ac ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru ar y mesurau diogelwch hyn.

"Bydd yr adborth gan breswylwyr ac ymwelwyr yn hanfodol, gan fod y grŵp yn adolygu'r mesurau i weld a oes modd gwneud unrhyw beth yn wahanol yn ystod sioeau'r dyfodol."

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/mesurau-diogelwch-wythnos-sioe-frenhinol-cymru, a fydd yn cau ddydd Mercher 31 Awst 2022.

Bydd trigolion Llanfair-ym-Muallt nad ydynt yn gallu llenwi'r arolwg ar-lein yn gallu ymweld â llyfrgell y dref yn Antur Gwy lle bydd staff y llyfrgell yn cynnig eu helpu gyda'r arolwg ar-lein