Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys

Image of a Wheatear bird, taken by Keith Noble

15 Awst 2022

Image of a Wheatear bird, taken by Keith Noble
Mae Partneriaeth Natur Powys wedi datblygu a chyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur cyntaf Powys mewn ymgais i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar draws y sir.

Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys yn cymryd yr amcanion o Gynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru Llywodraeth Cymru ac yn eu gosod yng nghyd-destun blaenoriaethau lleol. Mae'r cynllun wedi cael ei ddatblygu gan Bartneriaeth Natur Powys, sef grŵp o sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar draws Powys ac mae Cyngor Sir Powys yn rhan ohono.

Yn ganolog i gynllun Gweithredu Adfer Natur Powys yw'r uchelgais i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ym Mhowys drwy ganolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau adfer natur gwydn. Nod y cynllun yw arwain gwaith Partneriaeth Natur Powys, ysgogi syniadau am brosiectau, targedu ymdrechion cadwraeth natur, a chynnig sail resymegol dros weithredu'n lleol i gyflawni amcanion cenedlaethol.

"Mae Powys yn sir brydferth sydd â digonedd o dirweddau amrywiol a hardd, ond allwn ni ddim anwybyddu hynny hyd yn oed yn ein rhan hyfryd a gwledig o'r byd, mae'r dirywiad ym myd natur a bywyd gwyllt yn dal i fod yn broblem enfawr." Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Yng Nghymru, amcangyfrifodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 bod 1 o bob 6 o rywogaethau Cymru mewn perygl o ddiflannu a bod 73 o rywogaethau dros y 50 mlynedd diwethaf eisoes wedi diflannu a bod 666 o rywogaethau eraill dan fygythiad o ddiflannu.

"Ni allwn eistedd nôl ar ein rhwyfau, mae'n rhaid i ni weithredu, ac mae datblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys a'r cydweithio rhwng yr holl sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda'i gilydd ym Mhartneriaeth Natur Powys yn ddechrau gwych."

Caiff Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys ei lywio gan ac mae'n cyfrannu at y nodau a'r dyletswyddau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth ddiweddar megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016). Bydd y cynllun yn destun adolygiad parhaus gan Bartneriaeth Natur Powys a bydd yn esblygu dros amser mewn ymateb i wybodaeth newydd, ymgynghoriadau yn y dyfodol a newidiadau mewn deddfwriaeth, polisi, a chyfleoedd ariannu.

Gellir gweld y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys yma: Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Natur Powys yma: Partneriaeth Natur Powys

Credyd ar gyfer y llun: Keith Noble