Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith atal llifogydd ar gyfer yr A44 ym Mhen-y-bont wedi'i gwblhau

Image of the storm water pumping station in Penybont

15 Awst 2022

Image of the storm water pumping station in Penybont
Mae'r gwaith i adeiladu gorsaf bwmpio dŵr storm er mwyn lliniaru llifogydd ar yr A44 ym Mhen-y-bont, canol Powys, wedi gorffen yn gynt na'r disgwyl.

Cafodd y gwaith ei gwblhau gyda grant o Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru.  Prif bwrpas y gwaith oedd atal llifogydd cyson ar briffyrdd, fel yr A44, yn ystod stormydd.  Bydd y system draenio bresennol ar gyfer priffyrdd yn parhau i weithio yn ystod tywydd arferol, fodd bynnag, pan fydd hi'n stormus a phan fydd yr afon yn uchel bydd synhwyrydd awtomatig yn cau'r falf i'r afon ac yn cyfeirio'r dŵr i'r orsaf bwmpio sydd newydd ei hadeiladu ac sy'n 6m o ddyfnder. Bydd y dŵr hwn yn parhau i gael ei bwmpio dros y bwnd llifogydd ac i'r afon tan fod y lefelau'n caniatáu i'r system arllwys y dŵr yn ei ffordd arferol gan ddisgyrchiant.

Bydd yr orsaf bwmpio nid yn unig yn helpu i gadw'r A44 ar agor yn ystod stormydd, ond mae ganddo hefyd y fantais ychwanegol o leddfu'r risg o lifogydd i bedwar eiddo preswyl ar Ithon Terrace yn ystod y tywydd mwyaf garw.

"Y cynllun ym Mhen-y-bont yw'r un cyntaf mewn rhaglen o brosiectau lliniaru llifogydd priffyrdd wedi'u cynllunio a fydd yn digwydd ar draws Powys." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Rydym wedi gweithio'n agos gydag Atkins (Prif Ddylunydd), Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a'r trigolion lleol er mwyn cynnig yr ateb gorau ar gyfer llifogydd sy'n broblem ar y ffordd sy'n rhedeg drwy'r pentref.  Bydd y cynllun hwn yn helpu i sicrhau y bydd yr A44 yn parhau ar agor yn ystod stormydd yn ogystal â lliniaru llifogydd posibl i'r eiddo cyfagos o ddŵr storm ffo.

"Mae'r contractwr lleol, P J Martin and Son wedi gwneud gwaith gwych yn adeiladu'r orsaf bwmpio. Oherwydd y bu'n rhaid iddyn nhw weithio mewn lle cyfyng iawn, roedd ystyriaethau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol yn flaenllaw oherwydd y cloddio dwfn a'r agosrwydd at y cwrs dŵr, ond mae'r gwaith wedi'i gwblhau fis o flaen ei ddyddiad targed ym mis Medi.

"Er yn gaffaeliad mawr i'r gymuned, bydd y cynllun hwn yn mynd i'r afael â phroblemau llifogydd ar y brif ffordd ac i'r tai yn union wrth ymyl yr orsaf bwmpio dŵr storm newydd, mae'n bosib na fydd yn datrys yr holl broblemau llifogydd ym Mhen-y-bont, yn anffodus."