Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Cynllun Hyfforddiant Uwch am Ddim i Feicwyr Modur

Image of a motorbike and enhanced rider scheme logo

17 Awst 2022

Image of a motorbike and enhanced rider scheme logo
Gwahoddir beicwyr modur i ymuno â chwrs hyfforddi uwch am ddim i feicwyr i helpu i wella eu sgiliau gyrru beic a diogelwch ffyrdd Powys.

Mae tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn darparu'r cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim i unrhyw feicwyr modur sy'n byw ym Mhowys neu sy'n defnyddio ffyrdd Powys, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cynllun Hyfforddiant Uwch Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) i Feicwyr yr yn addas ar gyfer deiliaid trwyddedau beiciau modur llawn sydd am wella eu sgiliau gyrru beic, i'r rhai sy'n dychwelyd i yrru beic modur ar ôl seibiant, beicwyr sydd newydd lwyddo yn eu prawf, pobl sy'n uwchraddio i feic modur mwy pwerus yn ogystal â/neu'r rhai sydd am wirio safon eu marchogaeth.

Mae'r cwrs yn cynnwys sesiwn theori fer ar-lein a sesiwn ymarferol hanner diwrnod ar y ffordd (ar benwythnos) gyda hyfforddwr profiadol. Nid oes prawf, ond asesir sgiliau gyrru beic, a rhoddir hyfforddiant priodol i bob cyfranogwr a fydd, gobeithio, yn derbyn tystysgrif cymhwysedd DVSA ar ôl cwblhau'r cynllun.

Y dyddiadau ar gyfer cyrsiau sydd i ddod yw:

De Powys
Theori ar-lein: 1 Medi, Teithiau ar y ffordd - 3 a 4 Medi
Theori ar-lein: 29 Medi, Teithiau ar y ffordd - 1 a 2 Hydref

Canolbarth Powys
Theori ar-lein: 15 Medi, Teithiau ar y ffordd - 17 a 18 Medi
Theori ar-lein: 13 Hydref, Teithiau ar y ffordd - 15 a 16 Hydref

Mae niferoedd y lleoedd ar y cyrsiau rhad ac am ddim hyn yn gyfyngedig ac yn llenwi'n gyflym. Cysylltwch â ni i gadw eich lleoedd cyn gynted â phosibl: 01597 826924 or miranda.capecchi1@powys.gov.uk

Gwelwch y fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Hyfforddiant Uwch y DVSA i Yrwyr Beiciau Modur: https://youtu.be/9OjLHO-ASmk