Toglo gwelededd dewislen symudol

Prinder staff yn parhau i rwystro casgliadau gwastraff ac ailgylchu

Image of recycling boxes and bin

19 Awst 2022

Image of recycling boxes and bin
Mae'r argyfwng recriwtio cenedlaethol yn taro'r awdurdod lleol ar draws pob sector, ond y meysydd gwasanaeth rheng flaen, fel y casgliadau gwastraff ac ailgylchu wythnosol, sydd fwyaf amlwg i'n trigolion.

Ers cryn amser, rydyn ni fel awdurdod lleol wedi bod yn cael trafferth recriwtio staff a chael staff ar gyfer cyfnodau o absenoldebau oherwydd salwch ac achosion parhaus o covid 19.

Mae'r depots wedi bod yn gweithio'n galed gyda'n tîm recriwtio ar raglen recriwtio dreigl dros nifer o fisoedd sy'n cynnwys hysbysebu ar gyfryngau lleol ar y we, defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â phosteri mewn cymunedau lleol i hysbysebu swyddi gwag.  Ar ben hynny, rydym wedi gwneud nifer o'n staff asiantaeth yn barhaol, wedi defnyddio criwiau priffyrdd pan allwn a rhoi cyfleoedd i'n staff presennol i uwchsgilio a hyfforddi fel gyrwyr HGV, ond mae hyn i gyd yn cymryd amser.

Yn y cyfamser, mae ein criwiau wedi bod yn gweithio'n galed iawn i gasglu gwastraff ac ailgylchu o'n trigolion trwy weithio oriau ychwanegol, gan ddal i fyny ar rowndiau a chasgliadau ailgylchu ychwanegol lle collwyd wythnosau.  Bu'n rhaid iddyn nhw fod yn hyblyg yn y gwres llethol ac mae pob yr un ohonynt wedi mynd y tu hwnt i'r galw i gadw'r casgliadau i fynd.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, "Rydym yn gwneud pob ymdrech i gael gweithlu llawn.  Ond bydd y frwydr i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu arferol ar draws y sir yn parhau i fod yn her yn y tymor byr.

"Cofiwch barhau i roi eich biniau a'ch blychau allan i'w casglu ar y diwrnod casglu arferol. Os na fydd modd cwblhau casgliad, gofynnwn i chi adael eich biniau du ar olwynion allan (byddwn yn dod nôl i'w gwacau cynted ag y medrwn), ond gofynnwn i chi fynd â'ch blychau ailgylchu yn ôl i mewn am wythnos arall.  Os nad ydych wedi derbyn casgliad erbyn 5pm, edrychwch ar-lein am fanylion pryd y byddwn yn dychwelyd i'w casglu: Diwrnod casglu biniau

"Mae ein staff i gyd yn parhau i wneud eu gorau i sicrhau nad yw'r casgliadau blychau ailgylchu yn mynd yn hirach na phythefnos heb gael eu gwagio, a bydd deunydd ailgylchu ychwanegol sydd wedi'i gwahanu ac sy'n cael ei adael mewn bagiau wrth y blychau yn cael ei dderbyn.

"Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddatrys hyn ac rydym yn gobeithio y bydd pethau'n setlo ac y gallwn ailddechrau ein gwasanaeth arferol yn fuan. Hoffem ddiolch i bobl Powys am eu hamynedd yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn rôl werth chweil sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, nid yn unig i bobl Powys, ond hefyd i helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ewch i'n gwefan ac ymgeisio: Swyddi a hyfforddiant