Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Cynllun Adolygu a Chytundeb Darparu

Er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a'u tystiolaeth cefnogi yn gyfredol, mae'n ofynnol bod awdurdodau cynllunio yn adolygu eu Cynllun bob 4 blynedd o leiaf, o'r dyddiad mabwysiadu neu'n gynt os yw canfyddiadau'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) yn dynodi angen. Cafodd CDLl Powys (2011-2026) ei fabwysiadu yn 2018.

Mae Adroddiad Adolygu 2022 (PDF) [1MB] yn ystyried effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig ac yn cadarnhau'r broses adolygu sy'n dilyn wrth baratoi am CDLl Amnewid. Cytunodd y Cabinet ar yr Adroddiad Adolygu ym mis Chwefror 2022 ac fe'i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn ôl gofynion y gyfraith.

Cafodd Cytundeb Darparu ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Amnewid Powys ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth 2022 a chytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mehefin. Mae hyn yn golygu bod y broses baratoi ar gyfer y cynllun amnewid yn mynd rhagddi'n ffurfiol bellach, a rhaid i'r broses gydymffurfio â'r Cytundeb Cyflenwi.

Mae'r Cytundeb Cyflenwi (PDF) [544KB] yn cynnwys Cynllun Ymgysylltiad Cymunedau ac amserlen ar gyfer paratoi a mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid.

Gellir gweld y Cynllun Adolygu a Chyflewni ar-lein (gweler yr hyperddolenni uchod) neu ar gopi caled ym mhrif swyddfa'r Cyngor (Neuadd y Sir Powys, Llandrindod , LD1 5LG) yn ystod oriau agor arferol  (yn amodol ar gyfyngiadau Covid 19).

Gellir hefyd gweld copi caled o'r Cytundeb Darparu mewn 12 prif lyfrgell (a restrir yn y Cytundeb Darparu, tudalen 22): Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Rhaeadr, y Trallwng ac Ystradgynlais

Un o gamau cynnar pwysig y CDLl Amnewid yw Galwad y Cyngor am Safleoedd Datblygu Arfaethedig. Gelwir y safleoedd hyn yn "Safleoedd Ymgeisiol" - noder fod y cam hwn wedi ei amserlennu ar gyfer Hydref 2022 a bydd canllawiau llawn yn dilyn yn y man.