Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Canolfan archifau newydd wedi ei lansio'n swyddogol

archives
5 Hydref 2017 

archives
Mae canolfan newydd sy'n storio dogfennau hanesyddol yn ymwneud â sir Powys wedi cael ei hagor yn swyddogol yn Llandrindod yr wythnos hon.

Agorwyd y Gwasanaeth Archifau a Rheoli Gwybodaeth newydd yn swyddogol ddydd Llun gan Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris.  Mae hwn yn nodi buddsoddiad o £1.6m gan y cyngor i ddiogelu'r dogfennau pwysig hyn.

Mae'r dogfennau'n ymwneud â hanes y sir (er enghraifft, cofnodion y llysoedd a chofnodion hanes teulu) ac maen nhw'n dyddio'n ôl mor gynnar ag 1318.  Mae'r ganolfan, yn 29 Heol Ddole, Llandrindod, hefyd yn gartref i ddogfennau archif y cyngor sir.

Mae'r buddsoddiad wedi arwain at ailfodelu ac ymestyn unedau stad ddiwydiannol sy'n eiddo i'r cyngor i ddarparu cartref hirdymor ar gyfer y dogfennau hanesyddol.  Gosodwyd  offer i sicrhau bod lleithder a thymheredd yn yr adeilad yn cael eu rheoli ynghyd â gwell cyfleusterau i gwsmeriaid, gan gynnwys mynediad i bobl ag anableddau.

Dywedodd y Cynghorydd Harris: "Rwy'n falch iawn bod y prosiect hwn wedi'i orffen ar amser ac o fewn y gyllideb gan fod gennym nawr gartref hirdymor ar gyfer yr eitemau hynod bwysig hyn.  Mae hefyd yn darparu gwasanaeth llawer gwell i'n trigolion ac i bobl sy'n teithio o bob cwr o'r byd i gael mynediad at y dogfennau hyn, yn aml fel rhan o'u hymchwil hanes teulu."

Yn flaenorol, roedd y gwasanaeth wedi'i leoli mewn man cyfyng iawn ger Neuadd y Sir oedd â mynediad gwael i bobl ag anableddau ac hefyd roedd y lleoliad ar gau dros ginio.

Ychwanegodd y Cyng. Harris: "Mae'n bleser ein bod yn awr yn gallu cynnig gwell gwasanaeth i'n cwsmeriaid. Mae'r Gwasanaeth Archifau yn dod â llawer o ymwelwyr i Landrindod, ac yn eu tro maen nhw'n aros mewn gwestai a gwelyau a brecwast lleol, a hefyd yn bwyta allan ac yn siopa'n lleol.  Felly, mae'n gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol."

Os hoffech gael mynediad at y dogfennau sydd ar gael - efallai fel rhan o waith ymchwil ry'ch chi'n gwneud i'ch coeden deuluol - gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys trefnu apwyntiad i ymweld, yn www.powys.gov.uk/cy/archives/dod-o-hyd-i-archifau-a-chofnodion-lleol/lleoliad-ac-oriau-agor-y-swyddfa-archifau/