Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwestiynau Cyson am Recriwtio

Sut ydw i'n gwybod os ydych chi wedi derbyn fy nghais?

Os ydych wedi gwneud cais am swydd ar-lein, fe fyddwch yn derbyn neges e-bost i gydnabod hyn, gan ddiolch i chi am eich cais. Os na fyddwch wedi derbyn yr e-bost hwn, edrychwch yn eich ffolder post sothach, yna cysylltwch â'r Tîm Recriwtio.

Os na allaf ddod o hyd i rai o'm tystysgrifau cymwysterau ac ati, a fydd hyn o bwys?

Bydd. Os byddwch yn cael eich cynnwys ar y rhestr fer, byddwn yn gofyn i chi ddod â chadarnhad o'ch cymwysterau i'r cyfweliad. Cysylltwch â chorff gwobrwyo'r cymhwyster a gofyn am dystysgrifau newydd (nid yw copïau'n dderbyniol).

Beth os na allaf wneud dyddiad/amser y cyfweliad?

Cysylltwch â'r tîm recriwtio. Fe fyddant yn cysylltu â'r rheolwr i weld a ellir trefnu dyddiad arall ai peidio.

Bydd y penderfyniad i ail-drefnu cyfweliad yn cael ei wneud gan Gadeirydd y Panel Cyfweld ac nid oes sicrwydd o gwbl y gellir caniatáu hyn.

A allaf gyflwyno CV yn lle ffurflen gais?

Na, er mwyn rhoi'r un cyfle i'r holl ymgeiswyr i wneud cais a chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol i dynnu rhestr fer, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais ar-lein.

A allaf gael adborth o'm cyfweliad?

Ar gyfer adborth o'ch cyfweliad, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio. Fe fyddant yn rhoi manylion cyswllt Cadeirydd y Panel Cyfweld i chi a fydd yn gallu eich cynorthwyo.

Lle allaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Gyngor Sir Powys a'r Maes Gwasanaeth yr wyf yn cael cyfweliad ar ei gyfer?

Mae gwybodaeth ar wefan y Cyngor am yr holl Feysydd Gwasanaeth; edrychwch ar y wefan.

Pryd fyddaf yn clywed am ganlyniad fy nghyfweliad?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Meysydd Gwasanaeth yn ceisio rhoi gwybod i ymgeiswyr ar ddiwrnod y cyfweliad, ond nid yw hyn yn bosibl bob tro. Os na fyddwch wedi clywed o fewn 5 diwrnod gwaith o'ch cyfweliad, cysylltwch â'r Rheolwr Recriwtio.

Pa amser y mae'r adran swyddi yn cau ar y diwrnod cau?

Mae pob swydd wag yn cau am 9pm ar y dyddiad cau oni nodir fel arall ar yr hysbyseb. 

Rwyf wedi anghofio fy enw defnyddiwr a'm cyfrinair.

Os ydych wedi anghofio eich enw defnyddiwr, fe fydd angen i chi anfon e-bost at recruitment@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826409

A allaf weithio i Gyngor Sir Powys os na allaf siarad Cymraeg?

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi ond efallai mai dim ond dymunol yw ar gyfer swyddi eraill. Bydd y Lefel Gallu yn y Gymraeg yn cael ei nodi yn y disgrifiad swydd.

Lle allaf weld y swyddi sydd ar gael?

Edrychwch ar ein gwefan: Swyddi Gwag, neu edrych yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol; mae ein holl swyddi gwag yn cael eu hysbysebu yn y lleoliadau hyn.

Beth os byddaf yn penderfynu tynnu fy nghais yn ôl.

Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio gan roi eich enw, teitl y swydd a chyfeirnod y swydd yr ydych yn dymuno tynnu eich cais yn ôl rhag ymgeisio amdani.

A allaf wneud cais am swyddi a gweithio i Bowys os oes gen i euogfarnau?

Nid yw cael rhybuddion neu euogfarnau yn y gorffennol yn eich gwahardd yn awtomatig o gyflogaeth. Dylai ymgeiswyr ddatgelu unrhyw rybuddion neu euogfarn yn y gorffennol ar eu ffurflen gais bob amser.  Os yw'r rôl yn amodol ar Wiriad DBS, ar ôl derbyn y Dystysgrif DBS bydd cyfweliad yn cael ei gynnal i drafod y rhybuddion a'r euogfarnau a ddatgelwyd.