Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Dechrau'n Deg wedi'i ehangu yn Ystradgynlais

family support

family support
Bellach, gall mwy o deuluoedd yn ardal Ystradgynlais gael cymorth Dechrau'n Deg.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae ar gael mewn ardaloedd wedi'u targedu i gefnogi teuluoedd i roi plant 0-4 oed Dechrau'n Deg mewn bywyd.

Mae'r cynllun ar gael ar gyfer rhai ardaloedd cod post yn y Trallwng, Y Drenewydd, Aberhonddu, Llandrindod, ac Ystradgynlais.

Gall teuluoedd wneud cais os ydynt yn gymwys a gwneud cais am le ar wefan Cyngor Sir Powys.

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol "Mae'r cynnydd o gefnogaeth Dechrau'n Deg i fwy o godau post yn ardal Ystradgynlais yn gam positif iawn.  Bellach gall rhagor o deuluoedd gael mynediad at ofal plant wedi'i ariannu, gwasanaeth estynedig gan ymwelwyr iechyd, cymorth rhianta a chymorth lleferydd ac iaith."

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol a Chynghorydd lleol ardal Cwmtwrch: "Mae ehangu cymorth Dechrau'n Deg i ardal Cwmtwrch yn hwb ardderchog i'n cymuned. Dwi wrth fy modd bod mwy o deuluoedd yn gallu elwa o gymorth ychwanegol. Hoffwn annog teuluoedd gyda phlant 0-4 oed i edrych i weld a ydynt yn gymwys oherwydd bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o deuluoedd.