Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Banciau ailgylchu gwydr a phapur i'w symud o safleoedd ailgylchu cymunedol

Image of a glass recycling bank

31 Awst 2022

Image of a glass recycling bank
Er mwyn symleiddio gwasanaethau ailgylchu, bydd y banciau ailgylchu gwydr a phapur yn cael eu tynnu o'r safleoedd ailgylchu cymunedol ar draws y sir cyn bo hir. 

Pan gyflwynwyd y safleoedd ailgylchu cymunedol am y tro cyntaf, roedden nhw'n rhoi cyfle i bobl Powys ailgylchu eitemau cartref yn lleol. Fodd bynnag, gyda'r gwasanaeth ailgylchu wythnosol wrth ymyl y ffordd  bellach ar gael ar gyfer pob eiddo, gellir ailgylchu gwydr a phapur o gartref yn hawdd erbyn hyn.  Bydd banciau ailgylchu deunyddiau eraill, fel cardbord neu decstilau, yn aros yn y safleoedd ailgylchu cymunedol.

"Cafodd y penderfyniad i dynnu'r ddau ddeunydd yma o'r safleoedd ailgylchu cymunedol ei gytuno gan y cabinet yn gynharach eleni," esbonia'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, y Cynghorydd Jackie Charlton.

"Er i'r gwasanaeth gael ei nodi fel arbediad cyllideb i ddechrau, mae hefyd yn dyblygu gwasanaeth, mae ei ddileu felly yn caniatáu inni ganolbwyntio ein hadnodd estynedig ar sicrhau'r casgliadau wythnosol o ymyl y ffordd.

"Rydym yn sylweddoli bod rhai'n defnyddio'r banciau ailgylchu gwydr a phapur yn rheolaidd, ond  nawr y gall yr eitemau hyn gael eu hailgylchu'n hawdd bob wythnos o'u cartrefi,  ac ni ddylai tynnu'r banciau hyn o'r safleoedd ailgylchu cymunedol fod yn broblem.

"Os oes unrhyw un yn cael trafferth ffitio eu holl wastraff ailgylchu i'w blychau ar ymyl y ffordd, gall ofyn am focsys ychwanegol  ar-lein.  Wrth gwrs, mae modd mynd â gwydr a phapur i unrhyw un o'r pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar draws Powys."

Mae tynnu'r banciau hyn hefyd yn sicrhau na allant gael eu cam-drin mwyach gan y rhai sy'n tipio'n anghyfreithlon gan halogi'r deunydd, ac na all busnesau eu defnyddio'n anghyfreithlon.  Gall busnesau sydd angen gwasanaeth casglu ailgylchu gysylltu â thîm Ailgylchu Masnachol Powys am ddyfynbris am ddim.