Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwarchod y Cyhoedd Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth

1. Rhagarweiniad

1.1    Mae'r polisi hwn yn berthnasol i wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu a ddarperir ar ran Cyngor Sir Powys. Mae'r gwasanaethau eu hunain yn cynnwys diogelwch bwyd, iechyd a lles anifeiliaid, iechyd a diogelwch, masnachu teg, rheoli llygredd, a phwysau a mesurau. Mae gan y Cyngor hefyd gyfrifoldeb trwyddedu yng nghyswllt ystod o faterion fel alcohol, gamblo a thacsis.

1.2    Mae Cyngor Sir Powys yn ymrwymedig i ddilyn ymarfer gorfodaeth da. Mae datblygiad y polisi hwn yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth, canllawiau a'r codau sydd mewn grym ac yn berthnasol i'r cyd-destun hwn, yn enwedig Cod y Rheoleiddwyr.

1.3    Mae'r polisi hwn yn disgrifio ein dull o gydymffurfio a gorfodaeth a'i fwriad yw sefydlu ffordd gyson o orfodi heb roi baich rhy drwm ar fusnesau a sefydliadau lleol, ac ar y cyhoedd. Rydym bob amser yn croesawu adborth drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.  Byddwn hefyd yn ystyried cynnwys unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella wrth ddiwygio'r polisi yn y dyfodol.

1.4    Wrth fabwysiadu'r polisi hwn, byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol yn gyson a theg, beth bynnag yw'r amgylchiadau.  Ni fydd penderfyniadau gorfodi'n cael eu dylanwadu'n andwyol gan oed, rhywedd, anabledd, iaith, hil, crefydd neu gred, rhyw neu dueddiad rhywiol y gwrthrych, dioddefwyr neu dystion.

1.5    Rydym eisiau ei gwneud yn hawdd i chi dderbyn ein gwybodaeth.  Cyhoeddir y polisi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ein gwefan. Gallwn hefyd gynnig y ddogfen mewn fformatau eraill fel tâp sain, print mawr ac mewn ieithoedd cymunedol, pe bai angen.  Ein cyfeiriad yw Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG. Ein cyfeiriad e-bost yw public.protection@powys.gov.uk.

      

2. Amcanion ein gwasanaethau

2.1     Y Blaenoriaethau Gorfodaeth Cenedlaethol ar gyfer Cymru yw:

  • Gwarchod unigolion rhag niwed a hybu gwella iechyd;
  • Sicrhau diogelwch ac ansawdd y gadwyn fwyd i leihau risg i iechyd pobl ac anifeiliaid;
  • Hyrwyddo amgylchedd masnachu teg a chyfiawn i bobl a busnesau;
  • Gwella'r amgylchedd lleol er mwyn cael dylanwad da ar ansawdd bywyd a hyrwyddo cynaliadwyedd.

2.2        Mae Cyngor Sir Powys yn mabwysiadu'r blaenoriaethau hyn er mwyn gwarchod iechyd, diogelwch a lles economaidd y bobl sy'n byw, gweithio neu'n ymweld â'r Sir gan geisio cynnal, ar yr un pryd, marchnad deg a chystadleuol lle gall busnesau cyfreithlon ffynnu.  Mae'r camau a gymerwn hefyd yn gyson â Gweledigaeth 2025, sef dogfen Cyngor Sir Powys i gefnogi a thyfu economi'r Sir.  Dywedwn ynddi y bydd gweithgareddau gorfodi teg a chymesur yn helpu i hyrwyddo busnes da ac y bydd rheoleiddio da, wedi'i orfodi'n deg, yn cefnogi busnesau cyfreithlon a'u helpu i dyfu.  Bydd y camau a gymerwn hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein preswylwyr mewn achosion lle'r ydym yn ymyrryd, er enghraifft i helpu pobl fregus, mewn materion iechyd a diogelwch, materion bwyd a diogelwch cynhyrchion.

2.3        Ymdrechwn yn rhagweithiol i annog cydymffurfio â'r gyfraith, gan weithio gyda busnesau ac unigolion i hyrwyddo'r nod hwn drwy:  

  • ddarparu cyngor ac addysg;
  • archwilio, ar sail gwybodaeth, i sicrhau bod busnesau ac unigolion yn cydymffurfio; a
  • ymateb yn gymesur os torrir y rheoliadau.

Ein pwrpas yn y pen draw yw sicrhau 'marchnad' sy'n gweithio'n effeithiol a bod sylw'n cael ei roi i unrhyw risg i iechyd a lles cymdeithasol ac economaidd.  Pan fo'r pwrpas hwnnw'n cael ei danseilio, defnyddiwn ein pwerau cyfreithiol i weithredu i ddatrys unrhyw sefyllfa anfoddhaol a sicrhau bod y rhai sy'n torri'r rheolau'n cael eu dal i gyfrif.  Dyma beth a olygir wrth y term camau gorfodi.

2.4        Ymrwymwn i weithredu'n bendant yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Yn erbyn rhai sy'n diystyru'r gyfraith neu sy'n fwriadol neu'n barhaus yn methu â chydymffurfio;
  • Lle mae risg ddifrifol neu ar unwaith i iechyd a diogelwch; a
  • Lle mae angen gwarchod pobl fwy bregus yn ein cymunedau rhag cael niwed.

 

 

3.Beth yw pwrpas y polisi hwn?

3.1        Pwrpas y ddogfen hon yw disgrifio ein polisi ar ein gweithgareddau gorfodaeth a chydymffurfio a rhoi arweiniad i'r rhai y bydd yn effeithio arnynt, yn enwedig - busnesau, defnyddwyr a'r cyhoedd.  Fodd bynnag, nid yw'n effeithio ar y disgresiwn i gymryd camau cyfreithiol os credir y byddai hyn er lles y cyhoedd.

4.Pryd fyddai'r polisi hwn yn cael ei ddefnyddio?

3.1        Mae'r polisi hwn yn bennaf berthnasol i:

  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Diogelwch bwyd
  • Safonau bwyd
  • Iechyd a diogelwch
  • Masnachu teg
  • Trwyddedu
  • Diogelwch cynhyrchion
  • Rheoli llygredd
  • Clefydau heintus

3.2        Mewn rhai achosion, rydym wedi datblygu polisïau gorfodaeth penodol i faes, yn rhoi gwybodaeth fanwl am sut a phryd y bydd y meysydd gwaith hyn yn cymryd camau gorfodi penodol.  Mae'r polisi canlynol gennym:

 

Atodiad 1 - Polisi Enillion Troseddu

Os bydd unrhyw wrthdaro'n codi rhwng y polisi hwn a'r dogfennau penodol i faes hynny, y Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth cyffredinol hwn fydd yn cael blaenoriaeth.

5. Ein dull o sicrhau cydymffurfio a gorfodi

5.1    Byddwn yn sicrhau y targedir adnoddau ac ymdrechion ble y byddent fwyaf effeithiol drwy asesu'r risg yn erbyn canlyniadau ein rheoleiddio.  Bydd yr asesiadau risg hyn yn goleuo ein dull o reoleiddio, gan gynnwys casglu data, rhaglenni archwilio, cyngor i fusnesau, a sancsiynau gorfodaeth.  Fel rhan o'r asesiad risg hwn, byddwn yn ystyried effaith gyfunol bosib diffyg cydymffurfio ar ganlyniadau ein rheoleiddio a pha mor debygol fydd y diffyg cydymffurfio o ddigwydd eto.

5.2    O dan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, yn ei ffurf ddiwygiedig, rhaid i Gyngor Sir Powys ystyried yr Egwyddorion Rheoleiddio Da pan fydd ein gwasanaethau'n cyflawni eu dyletswyddau gorfodi.

Byddwn yn ymarfer ein gweithgareddau rheoleiddio mewn ffordd sydd:

  • Yn gymesur - bydd ein gweithgareddau'n adlewyrchu lefel y risg i'r cyhoedd a pha mor ddifrifol yw'r trosedd
  • Yn atebol - bydd ein gweithgareddau'n agored i'w craffu gan y cyhoedd, gyda pholisïau clir a hygyrch, ynghyd â threfn gwyno deg ac effeithlon
  • Yn gyson - bydd ein cyngor i'r rhai a reoleiddiwn yn gadarn a dibynadwy a byddwn yn parchu'r cyngor a gawn gan eraill.  Lle bydd amgylchiadau'n debyg, byddwn yn ceisio gweithredu mewn ffordd debyg i awdurdodau lleol eraill
  • Yn dryloyw - byddwn yn sicrhau bod y rhai a reoleiddiwn yn gallu deall beth y disgwylir iddynt ei wneud, a beth y maen nhw yn eu tro'n gallu ei ddisgwyl
  • Wedi eu targedu- bydd ffocws ein hadnoddau ar fusnes a gweithgareddau risg uwch, gan adlewyrchu anghenion lleol a blaenoriaethau cenedlaethol.

5.3    Rydym yn cofleidio'r egwyddorion ar orfodaeth dda a nodir yng Nghod y Rheoleiddwyr, yn ei ffurf ddiwygiedig,  

https://Cod y Rheoleiddwyr - GOV.UK (www.gov.uk).gov.uk/government/publications/regulators-code

 

sy'n nodi y dylai rheoleiddwyr:

·        Cyflawni eu gweithgareddau mewn ffordd sy'n helpu'r rhai a reoleiddir ganddynt i gydymffurfio a thyfu,

·        Cynnig ffyrdd didrafferth o ymgysylltu â'r rhai a reoleiddir ganddynt a gwrando ar eu barn,

·        Seilio eu gweithgareddau rheoleiddio ar risg,

·        Rhannu gwybodaeth am gydymffurfio a risg,

·        Sicrhau bod gwybodaeth, arweiniad a chyngor clir ar gael i helpu'r rhai a reoleiddir ganddynt i gwrdd â'u cyfrifoldebau,

·        Sicrhau bod eu gweithgareddau rheoleiddio'n dryloyw.

 

          Fodd bynnag, mewn rhai achosion gallwn gasglu bod darpariaeth yng Nghod y Rheoleiddwyr naill ai'n amherthnasol neu wedi'i gwrthbwyso gan ddarpariaeth arall.  Byddwn yn sicrhau, os byddwn yn ymadael o'r Cod, bod hynny am y rhesymau iawn ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

 

5.4        Ymrwymwn, ym mhob agwedd ar ei waith, i hyrwyddo cydraddoldeb yn unol â datganiadau a pholisïau Cydraddoldeb ein Cyngor.  I wneud hyn, bydd y Gwasanaeth yn ceisio mabwysiadu'r arfer gorau, gan gynnwys drwy ddarparu cymorth, gwybodaeth a chyngor.  Wrth fonitro ac adolygu ein harferion o dan y polisi hwn, gwnawn yn siŵr bod ein gweithgareddau gorfodaeth yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwn. Mae'r holl waith o brosesu data personol wrth ddarparu'r gwasanaethau, a'r polisi hwn, yn cael ei wneud drwy gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol Ar Ddiogelu Data (GDPR).

 

5.5        Gyda rhai o feysydd gwaith eraill y Cyngor, rydym wedi rhannu'r rôl orfodaeth ag asiantaethau eraill, er enghraifft yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyllid a Thollau EM, a'r Heddlu.  Weithiau bydd yn fwy priodol i asiantaethau gorfodaeth eraill, neu awdurdodau lleol eraill, ddelio ag achosion o dorri'r rheolau. Yn yr amgylchiadau hyn, gallai'r Gwasanaeth basio manylion y troseddu i asiantaethau o'r fath.  Mewn amgylchiadau lle mae'r rôl orfodaeth wedi'i rhannu neu'n ategol, byddwn yn dal i lynu wrth y Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth hwn ond bydd gan yr asiantaethau eraill hawl i gymryd pa bynnag gamau ag y maen nhw'n ystyried i fod yn angenrheidiol.

 

5.6        Pan fyddwn yn cyfnewid gwybodaeth am weithgareddau gorfodi â'n hasiantaethau partner, gwnawn hynny'n unol ag unrhyw ddulliau sefydledig o rannu gwybodaeth, ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol, gan gynnwys Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018 a Deddf Troseddu ac Anrhefn 1998. Byddwn yn gweithio'n agos â gwasanaethau eraill y Cyngor, a gyda rheoleiddwyr allanol priodol, i hyrwyddo cydymffurfio â'r rheoliadau ym mhob maes perthnasol gan gynnwys y ddeddfwriaeth ar fwyd a masnachu teg.

 

6. Cynghori ar y rheolau

6.1    Bydd cyngor i fusnesau'n cael ei roi'n rhagweithiol a hefyd wrth ymateb i geisiadau penodol am arweiniad.  Byddwn yn rhoi'r cyngor hwn mewn ffordd glir ac mewn iaith syml gan ei gadarnhau'n ysgrifenedig os gofynnir am hynny.  Byddwn yn gwahaniaethu'n glir rhwng y gofynion cyfreithiol ac arfer gorau, codau ymarfer, canllawiau, a chyngor arall.

6.2    Anogir swyddogion i hyrwyddo cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol drwy godi ymwybyddiaeth o'r safonau a'r gofynion cyfreithiol perthnasol, a gwneir hyn drwy ryddhau datganiadau i'r cyfryngau, dosbarthu taflenni, ar y cyfryngau cymdeithasol, cyswllt wyneb yn wyneb a thrwy bartneriaethau busnes a chymunedol.

6.3    O ran cynnig cyngor i fusnesau, bydd Powys yn gwneud hynny'n ddiymdroi. Bydd y busnesau y mae gan y Cyngor gytundeb Prif Awdurdod â nhw'n cael blaenoriaeth pan fydd galwadau trwm ar adnoddau staffio prin.  Bydd trefniadau Prif Awdurdod gan awdurdodau lleol eraill yn cael eu parchu.

6.4    Mae'r Gwasanaeth yn cadw at 'reolau aur' y Llywodraeth o ran rhoi arweiniad ar reoleiddio, gan nodi y dylai fod:

  • Yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o ddefnyddwyr
  • Wedi'i ddylunio gyda mewnbwn gan ddefnyddwyr a'u cynrychiolwyr
  • Wedi'i drefnu o gwmpas ffordd y defnyddiwr o feddwl
  • Yn hawdd i ddarpar-ddefnyddwyr ei ddeall
  • Wedi'i ddylunio i roi hyder i ddefnyddwyr gyda sut i gydymffurfio â'r gyfraith (h.y. dim defnyddio ymwrthodiad atebolrwydd cyfreithiol)
  • Cael ei roi mewn da bryd
  • Yn hawdd cael gafael arno
  • Cael ei adolygu a'i wella

6.5    Fel arfer, gall busnesau sy'n cysylltu â'r Gwasanaeth am gyngor ar unrhyw ddiffyg cydymffurfio wneud hynny heb fod ag ofn cychwyn unrhyw gamau gorfodi awtomatig.  Er hynny, bydd adegau yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn 2.4 uchod, neu pan fydd hanes o ddiffyg cydymffurfio neu pan ystyrir bod angen, ac ar ôl ystyried y mater yn ddyledus, pryd y bydd camau gorfodaeth yn anochel.

 

 

7. Gwirio cydymffurfio

7.1     Lle bo'n briodol, bydd gwasanaethau'n defnyddio dull ar sail gwybodaeth o sicrhau bod eu hadnoddau wedi eu targedu'n fwyaf effeithiol. Defnyddir nifer o fframweithiau asesu risg ar draws meysydd gwaith y Cyngor i benderfynu pa mor aml y dylid gwirio cydymffurfio, fydd yn cynnwys archwiliadau ac ymweliadau eraill â safleoedd busnes, cymryd samplau, gwneud pryniannau prawf, ac yn y blaen.

7.2    Byddwn yn asesu cwynion i'r Gwasanaeth am ddiffyg cydymffurfio honedig ar sail pob achos unigol, gyda swyddog priodol yn cael eu dyrannu i ymchwilio / gweithredu ar y mater fel bo angen.

7.3    Ar ôl delio ag unrhyw ddiffyg cydymffurfio drwy roi cyngor, bydd y Gwasanaeth yn ôl-ddilyn i sicrhau bod y materion pryder wedi cael eu cywiro a'r busnes yn cydymffurfio'n llawn.

Lle bydd angen gwneud gwaith i gywiro'r sefyllfa, rhoddir esboniad o'r rhesymau a thros ba amser y mae'n rhaid cwblhau'r gwaith.

8. Ymateb i dorri'r rheolau

8.1     Trosolwg

8.1.1 Wrth ymateb i achosion o dorri'r gyfraith, mae ystod o gamau gweithredu ar gael i'r Gwasanaeth, a ddisgrifir yn 8.4 isod.  Penderfynir ar ba gamau gweithredu priodol i'w cymryd ar ôl ystyried ffeithiau penodol pob achos yn ofalus ac ar ôl ystyried ymagwedd y troseddwr honedig ac unrhyw sylwadau y byddent am i ni eu cymryd i ystyriaeth.

Fel arfer, byddwn yn gweithredu fesul cam ar sail yr hierarchaeth o gamau gorfodi gan symud at gamau ffurfiol pan fydd ymdrechion anffurfiol wedi methu â chael yr effaith a geisiwyd.

Mewn amgylchiadau lle gallai fod amheuaeth bod troseddwr wedi cyflawni troseddau ar draws nifer o ardaloedd awdurdod lleol, gallai fod yn fwy priodol i awdurdod lleol arall y tu allan i'n hardal gymryd camau gorfodi, hyd yn oed os yw'r trosedd wedi'i gyflawni oddi mewn i ardal Cyngor Sir Powys.  

Ond fel arall hefyd, gallai fod adegau pryd y byddai'n fwy priodol i'r Gwasanaeth gymryd camau gorfodi'n ymwneud â throseddau a ddigwyddodd yn rhywle arall.  Yn yr amgylchiadau hyn, gallwn lunio cytundeb cyfreithiol fel bod un awdurdod yn arwain ar y mater, yn ôl yr hyn a fyddai'n briodol, gan ddefnyddio darpariaethau Adran 19 Deddf Llywodraeth Leol 2000, Adrannau 101 a 222 Deddf Llywodraeth Leol 1972, neu unrhyw ddarpariaethau eraill i alluogi hyn, neu ddarpariaethau Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Bydd y rhesymau am y penderfyniadau'n cael eu cofnodi yn y broses gyfreithiol.

8.2     Cynnal ymchwiliadau

8.2.1 Bydd pob ymchwiliad yn cael ei gynnal gan dalu sylw dyledus i'r ddeddfwriaeth ganlynol ac unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer cysylltiedig a fyddai'n berthnasol i Bowys.

  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
  • Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2001
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Deddf Diogelu Rhyddid 2012

Mae'r Deddfau hyn a'u canllawiau cysylltiedig yn rheoli sut y mae tystiolaeth yn cael ei chasglu a'i defnyddio, gan roi amrediad o warchodaeth i ddinasyddion a diffynyddion posib.

8.2.2 Mae ein trefn o holi diffynyddion honedig yn dilyn yr egwyddorion a ddisgrifir yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, yn ei ffurf ddiwygiedig, a'r Codau Ymarfer cysylltiedig perthnasol.

8.2.3 Rhoddir pwerau gorfodaeth i ni o dan y ddeddfwriaeth sy'n awdurdodi ein swyddogion ac mae staff yn defnyddio'r pwerau hyn pan fo angen, ond bob amser mewn ffordd gymesur.  Mae swyddogion yn rhesymol ddisgwyl i bobl gydweithredu ag ymchwiliad i honiadau o dorri'r rheolau a gall fod yn drosedd rhwystro swyddog awdurdodedig yn ystod eu dyletswyddau.

8.2.4 Lle bydd swyddogion yn ymarfer eu pwerau i atafaelu, bydd y person yr atafaelir unrhyw nwyddau neu ddogfennau ganddynt (neu eu cynrychiolydd) yn cael gwybod a rhoddir derbynneb iddynt.  Bydd yr eitemau a atafaelir yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn unol â'r weithdrefn swyddogol.

8.2.5 Nid yw troseddwyr fel arfer yn wynebu'r posibilrwydd o gael eu harestio o dan y gyfraith a orfodir gan wasanaethau Cyngor Sir Powys, ond mae rhai eithriadau i hyn.  Maen nhw'n cynnwys troseddau o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994, a chyfraith arall, lle byddai angen gwneud prawf anghenraid o dan Adran 24 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, er enghraifft os byddai dwyn achos yn cael ei rwystro pe bai'r troseddwr yn diflannu.

8.2.6 Bydd pob ymchwiliad yn cael ei gwblhau'n amserol a thrwy dalu sylw i unrhyw derfynau amser ar gyfer dwyn achos ffurfiol o dan ddeddfwriaeth benodol.

8.2.7 Lle mae gan y Cyngor fudd mewn safle, bydd yn hyrwyddo a blaenoriaethu cydymffurfio yn yr un ffordd ag y byddai'n gwneud ar gyfer safleoedd eraill na fyddai ganddo fudd ynddynt. Bydd hefyd yn sicrhau bod y sylw a roddir yn unol â'r meini prawf a gymhwysir i eraill sydd â dyletswydd i weithredu.

8.3     Cyfathrebu

8.3.1 Mae ein staff bob amser yn cyfathrebu ag unrhyw Brif Awdurdod neu Awdurdod Cartref cyn gynted ag y bo modd mewn ymchwiliad.

8.3.2 Bydd y rhai y bydd gorfodaeth yn effeithio arnynt, gan gynnwys tystion a diffynyddion, yn cael eu diweddaru ar gynnydd yr ymchwiliad mewn ffordd glir, briodol ac amserol.  

8.3.3 Lle bo hynny'n briodol, bydd canlyniadau ein herlyniadau'n cael eu cyhoeddi drwy wahanol gyfryngau a gydag unrhyw bartneriaid a fu'n rhan o'r achos.  Gallwn hefyd dynnu sylw partïon budd at y canlyniadau hyn, yn cynnwys dioddefwyr a thystion.

8.4     Penderfyniadau ar gamau gorfodi

Mae ystod o ganlyniadau gorfodaeth, a ddisgrifir isod, ar gael i'r Gwasanaeth.  Penderfynir ar ba gamau a fyddai'n briodol i'w cymryd ar ôl ystyried amgylchiadau pob achos unigol yn ofalus.

Defnyddiwn gymorth a chyngor ar gydymffurfio fel ymateb cyntaf mewn nifer o achosion o dor-deddfwriaeth sy'n cael eu hadnabod.  Rhoddir cyngor, weithiau drwy anfon llythyr o rybudd, i gynorthwyo unigolion a busnesau i gywiro unrhyw dor-deddfwriaeth cyn gynted ac mor effeithiol â phosib, fel y gellir osgoi unrhyw gamau gorfodi pellach.  Bydd llythyr o rybudd yn egluro beth y dylid ei wneud i gywiro'r tor-deddfwriaeth ac i'w atal rhag digwydd eto.

Os bydd achos tebyg o dor-deddfwriaeth yn digwydd eto, byddwn yn ystyried unrhyw lythyr o rybudd blaenorol wrth feddwl am ba gamau gorfodi a fyddai fwyaf priodol i'w cymryd y tro hwnnw.   Ni ellir cyfeirio at lythyr o'r fath yn y llys fel euogfarn flaenorol, ond mae'n bosib ei gyflwyno fel tystiolaeth o wybodaeth ffeithiol fel rhan o gais cymeriad gwael.

Rydym yn cydnabod, lle mae busnes yn rhan o Bartneriaeth gyda Phrif Awdurdod, y gall y Prif Awdurdod roi cymorth a chyngor ar gydymffurfio, ac y bydd yn ystyried y cyngor hwn wrth feddwl am ba gamau gorfodi a fyddai fwyaf priodol i'w cymryd.  Gallwn drafod gyda'r Prif Awdurdod a oes angen unrhyw gymorth a chyngor ar gydymffurfio.

Byddwn yn cyfeirio at Gôd Ymarfer Erlynwyr y Goron wrth ystyried sut i ymdrin ag unrhyw achos o dor-deddfwriaeth honedig:

Mae nifer o rwymedïau sifil a chamau gorfodi troseddol ar gael i'r Gwasanaeth:

8.4.1 Rhwymedïau sifil

8.4.1.1 Ymrwymiadau gwirfoddol

Gallwn dderbyn ymrwymiad gwirfoddol i gywiro achos o dor-rheolau a / neu ei atal rhag ailddigwydd.  Bydd y Gwasanaeth yn cymryd unrhyw fethiant i anrhydeddu ymrwymiad gwirfoddol o ddifrif a bydd camau gorfodi yna'n debygol.

8.4.1.2 Camau gwaharddeb

Mewn rhai amgylchiadau, gallai'r Gwasanaeth ofyn i'r llys am waharddeb neu orchymyn bod tor-deddfwriaeth yn cael ei gywiro a / neu ei atal rhag ailddigwydd, neu gallai reoli neu wahardd gweithgaredd penodol yn y dyfodol.  Gallai'r llys hefyd gyfarwyddo bod gweithgareddau penodol yn cael eu gohirio tan fydd y tor-deddfwriaeth wedi'i gywiro a / neu ragofalon wedi eu rhoi yn eu lle i atal tor-deddfwriaeth yn y dyfodol.

Bydd methu â chydymffurfio â gwaharddeb yn ddirmyg llys sy'n drosedd difrifol a allai arwain at ddedfryd o garchar.

8.4.1.3 Sancsiynau sifil

O dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddio a Sancsiynau 2008, gall y llywodraeth roi pŵer i awdurdodau lleol orfodi amrywiol sancsiynau sifil newydd.  Yr opsiynau hyn yw:

  • Cyflwyno hysbysiad cosb ariannol benodedig
  • Cyflwyno hysbysiad cosb ariannol amrywiadol
  • Cyflwyno hysbysiad cydymffurfio
  • Cyflwyno hysbysiad adfer
  • Cyflwyno hysbysiad stop
  • Caniatáu i fusnes wneud ymrwymiad gorfodi

O dan rai cyfreithiau, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau i gyflwyno:

Cosbau Ariannol Penodedig

Gall y Gwasanaeth gyflwyno Cosb Ariannol Benodedig, sydd wedi'i chapio ar lefel gymharol isel ac ni fwriedir iddi gael ei defnyddio gydag achosion mwy difrifol o ddiffyg cydymffurfio.  Nid dirwyon troseddol yw Cosbau Ariannol Penodedig ac nid ydynt yn ymddangos ar gofnod troseddol rhywun.  Ni ellir defnyddio Cosbau Ariannol Penodedig ar y cyd ag unrhyw sancsiwn arall.

Gofynion Disgresiynol

O dan ddeddfwriaeth benodol, mae gan y Gwasanaeth bwerau i gyflwyno Cosbau Ariannol Amrywiadol a Gofynion Disgresiynol Di-ariannol. Gellir cyflwyno Cosb Ariannol Amrywiadol hyd at yr uchafswm a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.  Os gwneir Gofyniad Disgresiynol Di-ariannol, rhaid cymryd camau i sicrhau nad yw'r tor-deddfwriaeth yn parhau neu'n ailddigwydd.  Lle mae'r Gwasanaeth yn dewis cyflwyno Gofyniad Disgresiynol Di-ariannol, bydd yn nodi'n glir beth fydd y camau hynny a thros ba gyfnod y mae'n rhaid eu cwblhau.  Bydd methu â chydymffurfio â'r Gofyniad yn debygol o arwain at gosb ariannol.  Gellir defnyddio Cosb Ariannol Amrywiadol a Gofyniad Disgresiynol Di-ariannol mewn cyfuniad â'i gilydd.

Os bydd y Llywodraeth yn rhoi pwerau i'r Gwasanaeth ddefnyddio sancsiynau ychwanegol, byddwn yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol ar eu defnyddio, yn rhoi arweiniad ar sut y defnyddiwn y cosbau hyn, ac yn cyhoeddi manylion unrhyw achos lle defnyddir y sancsiynau hyn.

8.4.2 Camau Gorfodaeth Troseddol

8.4.2.1 Hysbysiadau Statudol

Gyda llawer o achosion tor-deddfwriaeth, mae gan y Gwasanaeth bwerau i gyflwyno hysbysiad statudol. Maen nhw'n cynnwys: 'Hysbysiadau Stop', 'Hysbysiadau Gwahardd', 'Hysbysiadau Gwahardd Brys', a 'Hysbysiadau Gwella'.   Mae'r hysbysiadau hyn yn rhwymo'n gyfreithiol. Gallai methu â chydymffurfio â hysbysiad statudol fod yn drosedd a gallai arwain at erlyn a / neu, lle bo hynny'n briodol, at gyflawni gwaith yn ddiofyn (wele 8.4.4 isod).

Bydd hysbysiad statudol yn nodi'n glir pa gamau sydd i'w cymryd ac erbyn pryd y mae'n rhaid eu cwblhau.  Mae'n debygol o ofyn bod unrhyw dor-rheolau'n cael ei gywiro a / neu ei atal rhag digwydd eto.  Gallai hefyd wahardd gweithgareddau penodedig tan fydd y tor-deddfwriaeth wedi'i gywiro a / neu ragofalon wedi eu rhoi yn eu lle i atal tor-deddfwriaeth yn y dyfodol.  Lle mae hysbysiad statudol yn cael ei gyflwyno, bydd esboniad o'r broses apelio'n cael ei roi i'r derbynnydd.

Gyda rhai hysbysiadau a gyflwynir yng nghyswllt eiddo, gellir eu rhoi ynghlwm wrth yr eiddo a / neu eu cofrestru fel pridiannau tir lleol.

8.4.2.2 Hysbysiad cosb benodedig a hysbysiad cosb am anrhefn

Mae gan y Gwasanaeth bwerau i gyflwyno hysbysiad cosb benodedig am rai achosion o dor-rheolau. Mae'r hysbysiadau hyn yn rhoi cyfle i'r troseddwr osgoi cael eu herlyn drwy dalu'r gosb ariannol benodedig i gydnabod y trosedd.  Mae penderfynu rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig, neu am werthu alcohol i rai dan oed, Hysbysiad Cosb am Anrhefn, yn fater o ddisgresiwn gan y swyddog ymchwilio.  Cyflwynir y rhain dim ond ble y byddai'r dystiolaeth yn ddigon i gefnogi erlyn.

Nid yw talu cosb benodedig yn golygu bod unigolyn yn imiwn rhag cael eu herlyn am dor-deddfwriaeth tebyg neu bellach.  Mewn rhai amgylchiadau, yn enwedig lle mae'r tor-deddfwriaeth mor ddifrifol neu'n ailddigwydd, bydd erlyn efallai'n fwy priodol na chyflwyno hysbysiad cosb benodedig.

8.4.2.3 Ymchwiliadau ariannol ac Atafaelu Asedau

Byddwn yn cynnal ymchwiliad ariannol o dan Ddeddf Enillion Troseddu 2002 a Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cronfeydd (Gwybodaeth am y Talwr) 2017 i gynorthwyo ymchwiliadau a phenderfynu ar lefel y budd troseddol a gafwyd o'r ymddygiad troseddol ac unrhyw asedau sydd ar gael. Byddwn yn cyflwyno gorchmynion datgelu a gorfodaeth i gynorthwyo gyda hyn.  Mewn achosion lle mae'r person dan amheuaeth yn debygol o afradu'r asedau neu lle credwn yn rhesymol ei fod yn gymesur, byddwn yn atal asedau lle mae achos troseddol yn cael ei ystyried.  Ni fyddwn yn penderfynu dod ag achos cyfreithiol dim ond ar y sail o geisio cael gafael ar arian cymhelliad o gamau a gymerir o dan y Ddeddf POCA.

Os derbynnir unrhyw arian o system cymhelliad y Swyddfa Gartref, bydd yr arian yn cael ei gadw mewn cyfrif wrth gefn a'i ail-fuddsoddi mewn gwaith enillion troseddu a strategaethau troseddu ac anrhefn sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a dderbyniodd yr arian, ac mewn cynlluniau cymunedol i leihau troseddu ac anrhefn, a byddwn yn cynhyrchu cynlluniau blynyddol i gwrdd ag archwiliadau'r Swyddfa Gartref o'r gwaith hwn.

8.4.2.4 Gorchmynion Gorfodi

Mewn rhai amgylchiadau gallai'r Gwasanaeth ofyn am orchymyn llys. Bydd methu â chydymffurfio â gorchymyn llys yn ddirmyg llys sy'n drosedd difrifol a allai arwain at ddedfryd o garchar.

Mae'n ofynnol i'r Gwasanaeth wneud cais am orchmynion gorfodi ar ôl cyflwyno rhai hysbysiadau gorfodi, i roi cyfle i'r llys gadarnhau'r cyfyngiadau a orfodir gan yr hysbysiad.  Fel arall, gofynnir am orchymyn llys fel arfer dim ond lle mae pryderon difrifol na fydd y diffynnydd yn cydsynio i, neu'n cydymffurfio ag ymrwymiad gwirfoddol neu hysbysiad.

Mewn rhai achosion, gallai'r Gwasanaeth ofyn i'r Llys am orchmynion fforffedu yng nghyswllt nwyddau neu eitemau a gipiwyd, gyda golwg ar eu dinistrio / atafaelu.

8.4.2.5 Troseddau iechyd a diogelwch

Pan fydd amgylchiadau'n arwain at gamau gorfodi o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, byddwn hefyd yn ystyried Datganiad Polisi Gorfodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

Datganiad Polisi Gorfodaeth

Hefyd, byddai unrhyw benderfyniad gorfodaeth am resymau iechyd a diogelwch wedi'i wneud drwy'r Model Rheoli Gorfodaeth hwn.

Ar gyfer materion Iechyd a Diogelwch, bydd y Panel Heriau Rheoleiddio Annibynnol yn edrych ar gwynion am gyngor a roddwyd a ystyrir i fod yn anghywir neu sy'n fwy na'r hyn sydd ei angen i reoli'r risg yn ddigonol. Mae'r panel her yn gyfrwng annibynnol i unrhyw berson (yn gwmni neu'n unigolyn) gael cwyno am gyngor a roddwyd neu gamau y gorfodwyd iddynt eu cymryd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu reoleiddwyr iechyd a diogelwch Awdurdod Lleol.  Ni fydd yn ystyried camau a gymerwyd, neu gyngor a roddwyd, gan y rheoleiddiwr lle mae trefniadau statudol ar gyfer apelio.  Yn y lle cyntaf, dylai unrhyw un sydd am gwyno geisio datrys y mater yn lleol gyda'r rheoleiddwyr a'u rheolwyr.  Os na fydd hyn yn gweithio, gellir codi cwyn gyda'r panel.  Bydd y panel ond yn canolbwyntio ar brif destun cwyn.  Y Panel Heriau Rheoleiddio Annibynnol (hse.gov.uk) <https://www.hse.gov.uk/contact/challenge-panel.htm>

8.4.2.5 Rhybuddiad Syml

Mae rhybuddiad syml (rhybuddiad ffurfiol o'r blaen) yn opsiwn arall yn lle erlyn, mewn amgylchiadau lle byddai'r rhybuddiad yn debygol o fod yn effeithiol ac mae ei ddefnyddio'n briodol i'r trosedd.  Mae'n gyfaddefiad o euogrwydd, ond nid yw'n ddedfryd, nac ychwaith yn euogfarn droseddol.

Rhoddir rhybuddiadau syml gan uwch-swyddog a dim ond i droseddwr dros 18 oed yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Os nad oes digon o dystiolaeth bod euogfarn yn realistig,
  • Mae'r troseddwr yn cyfaddef eu bod yn euog, a
  • Ystyrir y byddai rhybuddiad syml, yn hytrach na dwyn achos troseddol, o fudd i'r cyhoedd.

Nid oes ymrwymiad cyfreithiol bod yn rhaid derbyn cynnig o rybuddiad syml am drosedd, ond bydd methu ei dderbyn fel arfer yn arwain at erlyn. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol.        

Lle mae'r trosedd yn un sy'n rhaid ei gofnodi, bydd rhybuddiad syml yn ymddangos ar gofnod troseddol y troseddwr.  Mae'n debygol o ddylanwadu ar sut fydd y Gwasanaeth ac eraill yn delio ag unrhyw achosion pellach tebyg o dor-rheolau a gellir cyfeirio ato os yw'n berthnasol i achos yn y dyfodol.  Os rhoddir rhybuddiad syml i unigolyn (yn hytrach na chwmni corfforaethol), gallai fod canlyniadau iddynt os ydynt yn chwilio am rai mathau o gyflogaeth.

Defnyddir rhybuddiadau syml yn unol â'r canllawiau ar rybuddio oedolion sy'n troseddu:

Rhybuddiadau Syml: Canllawiau i'r heddlu ac erlynwyr - GOV.UK (www.gov.uk)

Am bob rhybuddiad syml, bydd y rheolwr yn yr achos yn penderfynu a yw'n rhesymol neu beidio ystyried dirwyo ac anfonebu'r person / busnes / cwmni sy'n destun yr ymchwiliad. Ni fydd hyn yn amodol ar lofnodi'r rhybuddiad ond byddai'n cael ei wneud pan fyddai un o'r canlynol yn digwydd:

  • Lle mae troseddau sylweddol ac mae'r gwasanaeth wedi achosi costau helaeth wrth ymchwilio iddynt, a hefyd
  • Lle mae'r swyddog arweiniol proffesiynol o'r farn y byddai'n gymesur â'r trosedd dan sylw.

8.4.2.6 Erlyn

Gallwn erlyn am dor-deddfwriaeth, yn enwedig yn erbyn rhai sy'n diystyru'r gyfraith neu'n ymddwyn yn anghyfrifol, neu lle mae risg daer i iechyd a diogelwch.  Lle mae mathau eraill o gamau gorfodi, fel ymgymeriadau gwirfoddol, rhybuddiad neu hysbysiadau statudol wedi methu ag arwain at gydymffurfio, bydd erlyn yn fwy tebygol.

Fel gyda'r opsiynau gorfodi blaenorol, bydd nifer o ffactorau'n cael eu hystyried, gan gynnwys ond nid yn unig -  

  • Pa mor ddifrifol yw'r trosedd,
  • Hanes blaenorol y troseddwr,
  • Unrhyw amddiffyniad statudol,
  • Camau a gymerwyd i osgoi ail-ddigwydd,
  • Unrhyw eglurhad a roddir a, lle mae'r gyfraith yn caniatáu, amgylchiadau ac agwedd y troseddwr,
  • Y camau gorau i'w cymryd er budd y cyhoedd,
  • A oes gobaith realistig o sicrhau euogfarn.

Bydd penderfyniad ynghylch ai erlyn a fyddai'r cwrs gweithredu mwyaf priodol mewn achos penodol yn cael ei wneud

  • yn unol â'r polisi hwn,
  • yn unol â'r cod ymddygiad ar gyfer Erlynwyr y Goron Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron (cps.gov.uk)
  • ac yn unol â'r gofynion statudol gan ystyried unrhyw godau ymarfer perthnasol, a heb unrhyw oedi diangen.

Drwy ddilyn y cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, byddwn ond yn dechrau erlyn os yw'r Cyngor yn fodlon bod digon o dystiolaeth i gynnig gobaith realistig o sicrhau euogfarn yn erbyn y diffynnydd neu ddiffynyddion.  Rhaid i'r Cyngor hefyd fod yn fodlon, ar ôl ystyried yr holl ffeithiau perthnasol a'r amgylchiadau yn yr achos, a'r meini prawf o dan y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, y byddai erlyn o fudd i'r cyhoedd.

Ar ôl ystyried yr holl ffeithiau perthnasol ac amgylchiadau'r achos, bydd y Pennaeth Gwasanaeth neu'r Uwch-Reolwr yn penderfynu ar ba gamau y dylai'r awdurdod lleol eu cymryd ar sail argymhelliad Swyddog Arweiniol Proffesiynol y gwasanaeth perthnasol, ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol.

Byddwn yn sicrhau bod cyfansoddiad yr awdurdod yn adlewyrchu'r cynllun dirprwyo ar gyfer dechrau dwyn achos, a'i fod yn cael ei ddiweddaru'n gyson.

Mewn rhai amgylchiadau, yn ymwneud er enghraifft â materion iechyd a diogelwch, bydd achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn enw'r swyddog awdurdodedig a ddynodwyd fel arolygydd priodol.

Bydd erlyniad llwyddiannus yn arwain at gofnod troseddol.  Mae ystod o gosbau ar gael i'r llys gan ddibynnu ar y cyhuddiad, amgylchiadau'r achos, a'r troseddwr.  Maen nhw'n cynnwys rhyddhau, dirwy, gorchymyn cymunedol neu ddedfryd o garchar mewn achosion difrifol.  Gall y llys orchymyn fforffedu a dinistrio'r nwyddau anghydffurfiol a / neu atafaelu unrhyw elw a ddaeth o'r tor-deddfwriaeth. Gallai erlyn hefyd arwain, mewn rhai amgylchiadau, at anghymhwyso unigolion o fod yn gyfarwyddwyr cwmni, neu gadw anifeiliaid, a gallai hefyd achosi canlyniadau i unigolion sy'n chwilio am fathau penodol o gyflogaeth ac o ran enillion troseddu mewn achos troseddol.  Bydd cofnod o'r cwrs gweithredu'n cael ei gofnodi ar systemau mewnol a'i ddatgelu hefyd i unrhyw ddata-basau perthnasol fel y Databas Gwybodaeth Sancsiynau (Safonau Masnach) a lle bo'n berthnasol y PNC/PND.

Gall y Pennaeth Gwasanaeth adolygu unrhyw benderfyniad ac unrhyw ganlyniadau pellach a awgrymir gan gyfreithiwr y diffynnydd / diffynyddion, sy'n ganlyniadau pellach dim ond os ydynt yn cwrdd â'r egwyddorion trosfwaol yn y Cod ar gyfer Erlynwyr.  

Bydd y Gwasanaeth hefyd yn ystyried gofyn am orchmynion eraill lle sicrheir euogfarn, lle bo'n briodol, er enghraifft Gorchymyn Ymddygiad Troseddol.

8.4.3 Rhwymedïau eraill

8.4.3.1 Gwrthod, Atal neu Ddiddymu Trwyddedau

Mae pwerau'n bodoli i adolygu, atal a diddymu gwahanol drwyddedau. Mae rhai o'r pwerau hyn wedi eu dirprwyo i swyddogion sy'n gweithredu o dan adran 113 Deddf Llywodraeth Leol 1972, ond lle mae deddfwriaeth yn rhagnodi neu'r awdurdod wedi cadw'r hawl o dan gynllun dirprwyo, dim ond is-bwyllgor i'r Cyngor perthnasol sy'n gallu cymryd y camau hyn.  Mae gan ddalwyr trwydded hawl i fynychu gwrandawiad a chael gwybod bod ganddynt hawl i apelio yn erbyn penderfyniad.  Wrth ystyried ceisiadau am drwydded yn y dyfodol, bydd unrhyw dor-trwydded a chamau gorfodi blaenorol yn cael eu hystyried.

 

9. Adolygu'r polisi hwn

9.1    Bydd y polisi hwn yn cael ei ddiweddaru a'i ddatblygu fel bo angen gan newidiadau i'r ddeddfwriaeth ac yn cael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau cywirdeb a bod staff yn cadw at y polisi.

9.2    Bydd data ar broffiliau cydraddoldeb y rhai y bo'r polisi hwn yn effeithio arnynt yn cael ei gasglu a'i fonitro am unrhyw wahaniaethu.

10. Sylwadau a Chwynion

10.1  Mae Cyngor Sir Powys yn ymrwymedig i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych am ein gwasanaethau. Ceisiwn roi eglurder ar unrhyw faterion nad ydych yn siŵr amdanynt. Lle gallwn, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriad a wnaethom. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl iddo ac yr ydym wedi methu ei ddarparu. Os gwnaethom unrhyw beth o'i le, byddwn yn ymddiheuro a cheisio cywiro pethau os gallwn. Ceisiwn ddysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn o gwynion i wella ein gwasanaethau.

10.2  Weithiau byddwch yn poeni efallai am faterion nad yw'n berthnasol i'r polisi hwn, e.e. os bydd angen dilyn fframwaith cyfreithiol, ac os felly byddwn yn egluro sut y dylech gyflwyno eich pryderon.

10.3  Weithiau ni fydd y Polisi Cwynion Corfforaethol yn berthnasol i bryder neu gŵyn, er enghraifft:

  • Apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed yn briodol gan y Cyngor,
  • Fel cyfrwng i geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi a wnaed yn briodol,
  • Penderfyniad a wnaed lle gellir gwneud apêl arall, neu lle gellir ei adolygu, e.e. mewn llys ynadon.

10.4  Gallwch fynegi eich pryder mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • Gofyn i'ch cwyn gael ei gofnodi gan y person yr ydych eisoes mewn cysylltiad â nhw.
  • Cysylltu gyda'n Tîm Cwynion Corfforaethol drwy ffonio 01597 827472 os ydych eisiau gwneud eich cwyn dros y ffôn, neu drwy lenwi'r ffurflen ar ein gwefan yn  https://cy.powys.gov.uk/cwynion https://cy.powys.gov.uk/cwynion
  • Gallwch ysgrifennu atom yn y cyfeiriad a roddir yn y rhagarweiniad i'r polisi hwn.

 

 

 

Atodiad 1 - Polisi Enillion Troseddu

Amdan y polisi hwn  

1.1. Mae'r polisi hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Sir Powys yn ymdrin ag Ymchwiliadau Ariannol. Anelir y ddogfen hon yn bennaf at staff sy'n ymchwilio i droseddau a rhai sydd wedi eu hachredu gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol fel Ymchwilwyr Ariannol.  

1.2. Mae Cyngor Sir Powys yn cydnabod bod ymchwilio i droseddau sy'n achosi niwed i ddefnyddwyr a busnesau, a defnyddio pwerau o dan Ddeddf Enillion Troseddu 2002 (POCA), yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i aflonyddu ar weithgareddau troseddol drwy ddefnyddio ymchwiliadau gwyngalchu arian i gynorthwyo a chyd-fynd ag ymchwiliadau troseddol a thrwy adennill asedau troseddol.  

1.3. Mae Cyngor Sir Powys felly'n ymrwymedig i barhau i gynnal ymchwiliadau twyll / ariannol ynghyd ag ymchwiliadau gwyngalchu arian ac atafaelu er mwyn mynd i'r afael â throseddwyr ar bob lefel o weithgaredd troseddol.  

Egwyddorion Cyffredinol  

2.1. Wrth feddwl a oes angen defnyddio'r pwerau o dan POCA, mae Cyngor Sir Powys wedi ystyried:  

  • ei gyfraniad i strategaethau troseddu ac anrhefn lleol, a blaenoriaethau corfforaethol eraill.
  • a oes angen ystyried gorchmynion cyn-euogfarn fel rhan o'r broses erlyn yng nghyswllt ymchwiliadau gwyngalchu arian, ac a oes angen ystyried gorchmynion cyn-euogfarn fel rhan o ymchwiliadau atafaelu,
  • ei rôl mewn delio â 'troseddwyr ffordd o fyw' fel ffugwyr nwyddau, masnachwyr diegwyddor parhaus, a siarcod benthyg arian,
  • bod angen sicrhau nad yw troseddu'n talu ac yn cael ei weld i beidio â thalu,
  • helpu i gwrdd â disgwyliadau defnyddwyr a busnesau cyfreithlon.

2.2. Bydd Cyngor Sir Powys yn hyrwyddo defnyddio ymchwiliadau ariannol fel rhan annatod o ymchwiliadau troseddol a allai arwain at atafaelu. Nid rhywbeth i droseddwyr difrifol yn unig yw atafaelu, ond i bob achos o droseddu meddiangar.  

2.3. Troseddu meddiangar yw troseddau lle mae'r drwgweithredwr yn ennill yn faterol o droseddu. Mae hyn yn cynnwys troseddau fel twyll, clocio ceir, masnachu diegwyddor a ffugio nwyddau.  

2.4. Pan fydd person wedi elwa o'u trosedd, y nod yw sicrhau euogfarn a dileu unrhyw fudd a enillwyd o weithgaredd troseddol. Mae gorchymyn atafaelu o dan POCA yn ffordd effeithiol o wneud hyn.  

2.5. Mae ein hymchwilwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd i gynnal ymchwiliadau atafaelu a gwyngalchu arian, a gynhelir fel arfer gan Ymchwilwyr Ariannol, ac unrhyw gamau y medrant eu cymryd i gynorthwyo'r broses.

2.6. Bydd ymchwilwyr yn cyfeirio achosion addas am ymchwiliad ariannol gan eu hatgoffa y gallai methu â dilyn y polisi hwn, wrth gyfeirio troseddau meddiangar at yr ymchwilydd ariannol penodedig, arwain at beidio â darganfod gwir faint y gweithgaredd troseddol, methu ag erlyn y drwgweithredwyr iawn a lleihau faint o asedau sy'n cael eu hatafaelu a hynny, yn ei dro, yn lleihau'r atal sydd ei angen i leihau troseddu.  

2.7. Lle bo'n ddarbodus gwneud hynny, bydd Powys yn cynnal ymchwiliadau ariannol ar gyfer awdurdodau lleol neu gyrff eraill.

Datganiad polisi  

3.1. Bydd yr ymchwilydd ariannol penodedig yn cynnal ymchwiliad ariannol ym mhob achos o drosedd meddiangar honedig neu lle cafwyd euogfarn, gyda golwg ar wneud cais i'r llys am orchymyn atafaelu gwerth y budd a enillwyd o'r trosedd.

3.2. Bydd cyfeirio at yr ymchwilydd ariannol yn cael ei ystyried ar sail haeddiant ond gan roi blaenoriaeth ar sail un neu fwy o'r ffactorau canlynol:

  • tueddfryd y diffynnydd i gyflawni troseddau ar lefel genedlaethol,
  • lle ystyrir bod y dioddefwyr yn arbennig o fregus neu mewn perygl oddi wrth ymddygiad troseddol y diffynnydd,
  • lle byddai ymchwiliad troseddol yn cael trafferth delio'n effeithiol â'r diffynnydd neu eu troseddu, heb gymorth yr ymchwilydd ariannol,
  • lle bo'r fantais ariannol o droseddu'r diffynnydd yn amlwg yn sylweddol ac asedau o werth eisoes wedi eu hadnabod.

3.3    Mewn amgylchiadau arbennig, e.e. mewn achosion priodol lle bo'r enillion ariannol yn sylweddol ond ni ellir canfod unrhyw asedau, gallai fod yn ddoeth dewis atafaelu er mwyn sicrhau 'gorchymyn enwol' o £1, dyweder. O dan y POCA, gellir ail-ymweld ag achosion yn y dyfodol felly os daw asedau i'r golwg nes ymlaen, gellir ail-gyfrifo'r enillion ariannol i bwrpas bodloni'r gorchymyn, gan ddefnyddio'r asedau sydd newydd eu darganfod. Gallai gorchmynion enwol hefyd atal diffynyddion rhag aildroseddu.

3.4. Bydd Cyngor Sir Powys yn ceisio defnyddio darpariaethau Deddf Enillion Troseddu 2002 i gipio gwerth £1,000 a mwy o arian parod os yw'n cael ei ddarganfod pan fo'r swyddogion yn yr eiddo'n gyfreithiol, neu wrth chwilio unrhyw berson neu gerbyd. Dim ond plismyn a / neu ymchwilwyr ariannol achrededig sy'n gallu cipio arian yn y modd hwn. Bydd yr ymchwilydd ariannol penodedig yn ymchwilio i darddiad unrhyw arian parod a gipiwyd fel hyn er mwyn gofyn i'r Llys Ynadon am gael ei fforffedu.

3.5. Mae ymchwilwyr ariannol yn ymrwymedig i wneud cais i fforffedu o dan POCA; ar ôl i atafaelu o dan POCA gael ei ystyried.  

Goblygiadau'r polisi

4.1. Goblygiadau Ariannol  

4.1.1. Mae gweithredu'r polisi hwn yn llawn yn rhoi cyfle sylweddol i sicrhau bod cyfran o'r enillion a atafaelir o dan POCA yn cael eu dychwelyd i'r Awdurdod o dan y cynllun cymhellion a weithredir gan y Swyddfa Gartref. Rhaid defnyddio unrhyw arian a dderbynnir drwy'r cynllun cymhellion i bwrpasau penodedig.

4.2. Staffio a hyfforddiant  

4.2.1. Mae pob ymchwilydd ariannol yn derbyn hyfforddiant gan Ganolfan Enillion Troseddu'r Asiantaeth Droseddu Genedlaethol a rhaid derbyn yr hyfforddiant hwn cyn cael eu hachredu.

Dylai hyfforddiant ymchwilio ariannol fod yn rhan o raglen arferol y Cyngor o ddarparu hyfforddiant a datblygu ar gyfer staff ymchwilio a rheoli penodedig.  

4.2.2. Nid oes angen i reolwyr dderbyn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth i'r un lefel ag a roddir drwy gyrsiau sy'n delio'n benodol ag ymchwilio ariannol, ond rhaid i'r ddarpariaeth gwrdd â gofynion y system FISS. Fodd bynnag, mae'n hanfodol i Reolwr fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau'n ymwneud ag ymchwiliad ariannol a chael eu dynodi'n Uwch Swyddog Priodol (SAO).

4.3. Cytundebau Partneriaeth  

4.3.1. Mae llawer o asiantaethau gorfodi'r gyfraith sy'n cynnal ymchwiliadau ariannol. Bydd Cyngor Sir Powys yn gweithio'n rhagweithiol â'r asiantaethau hyn er mwyn gipio gymaint o arian ac asedau â phosib o dan POCA.  

4.4. Asesiadau risg  

4.4.1. Mae'r polisi hwn yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithdrefnau iechyd a diogelwch mewnol. Yr asesiad risg ar gyfer Swyddogion Ymchwilio sy'n berthnasol, a bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol.  

Monitro ac adolygu  

5.1. Bydd yr Uwch Swyddog Priodol yn sicrhau yr ymchwilir yn llawn i bob achos a gyfeiriwyd o dan POCA a bod cais i atafaelu neu fforffedu asedau'n cael ei wneud lle bo'n briodol.  

5.2. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu ar yr un pryd â'r polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth gan ystyried unrhyw newid deddfwriaeth, heriau cyfreithiol ac unrhyw anghysondeb a gododd gyda'r polisi.  

Polisïau cysylltiedig a ffynonellau gwybodaeth  

6.1    Mae'r polisïau a'r wybodaeth ganlynol yn rhoi arweiniad ar sut y dylid cynnal ymchwiliadau ariannol:

Sail gyfreithiol

7.1. Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer gweithredu'r polisi hwn ar gael yn:

  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 1993;
  • Deddf Enillion Troseddu 2002;
  • Deddf Terfysgaeth 2000;
  • Gweithdrefn Porth Cyllid a Thollau EM;  
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
  • Deddf Hawliau Dynol 1998;
  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (CPIA);
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA);
  • Deddf Diogelu Data 2018 (DPA);  
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.