Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwarchod y Cyhoedd Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth

1. Rhagarweiniad

1.1    Mae'r polisi hwn yn berthnasol i wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu a ddarperir ar ran Cyngor Sir Powys. Mae'r gwasanaethau eu hunain yn cynnwys diogelwch bwyd, iechyd a lles anifeiliaid, iechyd a diogelwch, masnachu teg, rheoli llygredd, a phwysau a mesurau. Mae gan y Cyngor hefyd gyfrifoldeb trwyddedu yng nghyswllt ystod o faterion fel alcohol, gamblo a thacsis.

1.2    Mae Cyngor Sir Powys yn ymrwymedig i ddilyn ymarfer gorfodaeth da. Mae datblygiad y polisi hwn yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth, canllawiau a'r codau sydd mewn grym ac yn berthnasol i'r cyd-destun hwn, yn enwedig Cod y Rheoleiddwyr.

1.3    Mae'r polisi hwn yn disgrifio ein dull o gydymffurfio a gorfodaeth a'i fwriad yw sefydlu ffordd gyson o orfodi heb roi baich rhy drwm ar fusnesau a sefydliadau lleol, ac ar y cyhoedd. Rydym bob amser yn croesawu adborth drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.  Byddwn hefyd yn ystyried cynnwys unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella wrth ddiwygio'r polisi yn y dyfodol.

1.4    Wrth fabwysiadu'r polisi hwn, byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol yn gyson a theg, beth bynnag yw'r amgylchiadau.  Ni fydd penderfyniadau gorfodi'n cael eu dylanwadu'n andwyol gan oed, rhywedd, anabledd, iaith, hil, crefydd neu gred, rhyw neu dueddiad rhywiol y gwrthrych, dioddefwyr neu dystion.

1.5    Rydym eisiau ei gwneud yn hawdd i chi dderbyn ein gwybodaeth.  Cyhoeddir y polisi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ein gwefan. Gallwn hefyd gynnig y ddogfen mewn fformatau eraill fel tâp sain, print mawr ac mewn ieithoedd cymunedol, pe bai angen.  Ein cyfeiriad yw Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG. Ein cyfeiriad e-bost yw public.protection@powys.gov.uk.