Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gwarchod y Cyhoedd Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth

Atodiad 2 - Gorfodi Diogelwch Bwyd

Cyflwyniad

1.1     Mae'r atodiad hwn yn ategu Polisi Cydymffurfio a Gorfodi Cyngor Sir Powys wrth sefydlu dull cyson o orfodi cyfraith diogelwch bwyd.   

1.2      Mae'r atodiad hwn yn berthnasol i bob cam gorfodi a gymerir gan Swyddogion o dan ddeddfwriaeth diogelwch bwyd a rhaid ei ddarllen ar y cyd â'r Polisi Cydymffurfio a Gorfodi cyffredinol.  

1.3     Os oes unrhyw wrthdaro o ran dehongli rhwng yr atodiad hwn a'r Polisi Cydymffurfio a Gorfodi cyffredinol, bydd yr olaf yn cael blaenoriaeth.

Awdurdod Sylfaenol

2.1       Rhaid i bob swyddog sy'n ystyried ymyrryd wirio a yw busnes wedi'i gofrestru fel un sydd mewn partneriaeth Awdurdod Sylfaenol, boed yn ei enw ei hun neu'n rhan o bartneriaeth gyd gysylltiedig drwy drefniant masnachfraint neu gymdeithas fasnach.  Mae'r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) (rhan o'r Adran Busnes a Masnach) yn cydlynu cynllun yr Awdurdod Sylfaenol, gan gynnwys cymeradwyo a chofrestru holl bartneriaethau'r Awdurdod Sylfaenol.  Pan fo Awdurdod Sylfaenol wedi'i gofrestru, rhaid i unrhyw Awdurdod Lleol arall (a elwir yn "awdurdod gorfodi" at ddibenion y cynllun) sy'n bwriadu cymryd camau gorfodi yn erbyn busnes o fewn y cynllun, gysylltu â'r Awdurdod Sylfaenol yn gyntaf oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.  Gall yr Awdurdod Sylfaenol herio camau gorfodi arfaethedig os yw'n credu eu bod yn anghyson â'r cyngor neu'r canllawiau y mae wedi'u darparu o'r blaen.  Bydd OPSS yn penderfynu ar unrhyw anghydfodau sy'n deillio o hynny.

2.2     Ystyr "Awdurdod Sylfaenol" yw  awdurdod sydd  wedi  ymrwymo i gytundeb ffurfiol, mewn perthynas â rheolaethau deddfwriaethol penodedig, i fod yn brif ffynhonnell cyngor ar gydymffurfio â'r gofynion hyn ac i gydlynu camau gorfodi.

Diffiniadau

3.1      At  ddibenion  yr  atodiad hwn, bydd "Swyddog Awdurdodedig" yn golygu Swyddog sydd â'r pwerau dirprwyedig perthnasol i weithredu o dan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, Deddf Diogelwch Bwyd 1990, Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011, Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a'r rheoliadau a gyhoeddwyd o dan y rhain ac sydd wedi eu hawdurdodi yn unol â Chynlluniau Dirprwyo. 

Cymryd Camau Gorfodi

4.1         Mae'r Polisi Cydymffurfio a Gorfodi cyffredinol yn ymwneud â phenderfyniadau ar gamau gorfodi ac yn ystyried yr ystod eang o opsiynau gorfodi sydd ar gael i'r Gwasanaeth. Diben yr adran hon yw nodi'r opsiynau gorfodi ychwanegol sydd ar gael sy'n benodol i weinyddu cyfraith bwyd.  

4.2       Os oes tystiolaeth bod gweithredwr busnes bwyd yn methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd, bydd y camau gweithredu canlynol yn cael eu hystyried a'r rhai mwyaf priodol yn cael eu dewis a'u gweithredu yn unol â'r dogfennau gweithdrefnol, canllawiau ymarfer a'r Cod Ymarfer perthnasol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007:

  • Cydymffurfiaeth, cyngor a chefnogaeth
  • Hysbysiadau cosb benodedig
  • Hysbysiadau statudol
  • Cau'n wirfoddol
  • Mynd â bwyd a'i gadw
  • Rhybuddiad syml
  • Erlyniad
  • Gwneud cais am orchymyn gwahardd at ddibenion hylendid.
  • Nodir y rhain yn fanwl o adran 6 isod.

4.3      Wrth benderfynu ar y math o gamau gorfodi i'w cymryd, rhaid i swyddogion awdurdodedig roi sylw i natur y toriad a hanes cydymffurfiaeth gweithredwr y busnes bwyd.  Oni bai bod amgylchiadau'n dangos risg sylweddol, bydd swyddogion yn gweithredu dull graddedig ac addysgiadol gan symud i gamau mwy ffurfiol lle nad yw gweithredu anffurfiol yn cyflawni'r effaith a ddymunir.  Yn achos busnesau newydd, gwneir asesiad o barodrwydd gweithredwr y busnes bwyd i ymgymryd â'r gwaith a nodwyd gan y swyddog.

4.4         Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth mewn sefydliadau bwyd sy'n cael eu rhedeg gan neu lle mae gan Gyngor Sir Powys fuddiant, bydd y gwasanaeth yn cyflawni ei ddyletswyddau gorfodi yn yr un ffordd yn union ag y mae mewn safleoedd eraill. Ar ben hynny, bydd yn sicrhau bod y sylw a dderbynnir yn unol â'r meini prawf a ddefnyddir yn achos deiliaid dyletswydd eraill.

Cydymffurfiaeth, cyngor a chefnogaeth

5.1        Mae'r Polisi Cydymffurfio a Gorfodi cyffredinol yn ymwneud â darparu cyngor ac arweiniad i fusnesau fel modd o sicrhau cydymffurfiaeth.

5.2        Yn benodol mewn cysylltiad â gweinyddu cyfraith bwyd, gallai camau anffurfiol gynnwys cynnig cyngor, rhoi rhybuddion llafar a gofynion gweithredu drwy ddefnyddio llythyrau anffurfiol ac adroddiadau arolygu hylendid bwyd. 

5.3        Nodwyd yr amgylchiadau canlynol fel y rhai priodol ar gyfer defnyddio camau anffurfiol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaeth diogelwch bwyd neu arfer da o fewn cyfnod rhesymol o amser: 

  • Amgylchiadau lle na fydd canlyniad peidio â chydymffurfio â'r tramgwydd a nodwyd yn peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. 
  • Gweithredoedd neu hepgoriadau nad ydynt yn ddigon difrifol i gyfiawnhau gweithredu ffurfiol. 
  • O hanes blaenorol y gweithredwr busnes bwyd a/neu barodrwydd i ymgymryd â'r gwaith angenrheidiol, gellir disgwyl yn rhesymol y bydd gweithredu anffurfiol yn arwain at gydymffurfio. 
  • Mae hyder wrth reoli'r busnes yn uchel.
  • Achosion cychwynnol o dorri amodau nad ydynt yn arwain at risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd ac sy'n berthnasol i fusnes bwyd sy'n gysylltiedig â sefydliadau gwirfoddol sy'n defnyddio gwirfoddolwyr. 

5.4        Bydd pob achos yn cael ei asesu yn ôl ei deilyngdod ac, os oes angen, mewn ymgynghoriad â swyddog uwch pan fo angen canllawiau neu gyngor. 

5.5        Bydd  llythyr yn cael ei anfon  at y gweithredwr busnes  bwyd bob  tro, a bydd hyn yn gwahaniaethu'n glir rhwng gofynion cyfreithiol a materion a argymhellir fel arfer da. 

Hysbysiadau Cosb Benodedig

6.1        Mae'r  Polisi  Cydymffurfio  a  Gorfodi   cyffredinol  yn   ystyried  defnyddio hysbysiadau cosb benodedig.

6.2         O ran gorfodi  cyfraith  bwyd, mae gan  swyddog  awdurdodedig ddisgresiwn i gyflwyno hysbysiad cosb benodedig am drosedd o dan adran 9 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ynghylch arddangos, neu fethu ag arddangos, sgôr briodol y cynllun sgorio hylendid bwyd. Yn ogystal, gellir codi hysbysiad cosb benodedig am drosedd o dan Reoliad 5 o Reoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hybu Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 o ran methu â chydymffurfio â gofynion ar gyfer hyrwyddo sgoriau ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.

Gellir cyflwyno'r rhain os nad oes esgus rhesymol am beidio â chydymffurfio.

Hysbysiadau Statudol

7.1        Polisi Cyngor Sir Powys yw defnyddio hysbysiadau statudol fel opsiwn i sicrhau cydymffurfiaeth  â deddfwriaeth. Bydd camau o'r fath yn cynnwys  codi'r hysbysiadau canlynol o dan Reoliad penodol Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006: Hysbysiadau Gwella Hylendid o dan Reoliad 6, Hysbysiadau Gwahardd Hylendid a Hysbysiadau Gwahardd Brys at Ddibenion Hylendid o dan Reoliadau 7 ac 8 a Hysbysiadau Camau Adfer a Hysbysiadau Cadw o dan Reoliad 9.

7.2      Hysbysiadau Gwella

7.2.1  Bydd Hysbysiadau Gwella Hylendid/Safonau Bwyd yn cael eu defnyddio i sicrhau cydymffurfiaeth â  gofynion diogelwch  bwyd, o fewn amserlen resymol mewn amgylchiadau lle mae'r swyddog awdurdodedig yn fodlon bod deddfwriaeth diogelwch bwyd wedi'i thorri, ond nad yw'r tramgwydd yn peri risg uniongyrchol i iechyd. Gallai'r amgylchiadau hynny gynnwys. 

  • Ar ôl ystyried y risg i iechyd y cyhoedd, lle gallai'r canlyniadau achosi risg bosibl i iechyd y cyhoedd; neu 
  • Pan fo tramgwyddau sylweddol o ddeddfwriaeth diogelwch bwyd; neu 
  • Pan fo diffyg hyder yn y gweithredwr busnes bwyd i ymateb i ddull anffurfiol; neu 
  • Pan fo cofnod o ddiffyg cydymffurfio yn dilyn defnyddio dull anffurfiol; neu 
  • Pan fo safonau'n wael ar y cyfan heb fawr o ymwybyddiaeth reoli o ofynion statudol neu 
  • Pan fo tramgwydd yn ddigon difrifol i gyfiawnhau erlyn

7.2.2  Nodwyd bod yr amgylchiadau canlynol yn amhriodol ar gyfer defnyddio Hysbysiadau Gwella Hylendid/Safonau Bwyd:   

  • gallai'r tramgwydd fod yn un sy'n parhau a byddai hysbysiad ond yn sicrhau gwelliant ar un adeg, er enghraifft, glanweithdra personol y staff. 
  • Nid yw'r tramgwydd yn peri unrhyw risg i iechyd y cyhoedd. 
  • Mewn sefyllfaoedd dros dro, lle ceir achosion o dorri amodau sy'n peri risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd a lle ystyrir bod angen cymryd camau gorfodi cyflym.  
  • Byddai'n fwy priodol ac er budd iechyd y cyhoedd defnyddio dull anffurfiol. 
  • Pan fo arferion hylendid da wedi'u torri ond heb fethu â chydymffurfio â rheoliad priodol.

7.2.3  Swyddogion awdurdodedig yn unig sy'n cael rhoi Hysbysiadau Gwella Hylendid/Safonau Bwyd. Ni fydd swyddog awdurdodedig yn llofnodi Hysbysiad Gwella Hylendid/Safonau Bwyd oni bai bod y tramgwyddau wedi'u tystio a bod y meini prawf perthnasol a nodir yn y Rheoliadau a'r Canllawiau Ymarfer wedi'u bodloni. 

7.2.4    Bydd pob Hysbysiad Gwella Hylendid/Safonau Bwyd yn cael ei gyflwyno'n unol â'r Cod Ymarfer perthnasol. 

7.2.5   Bydd Hysbysiadau Gwella Hylendid Unigol yn cael eu cyflwynoi gyda nifer addas o atodlenni ynghlwm oni bai bod y swyddog awdurdodedig yn fodlon: 

  • Y bydd apêl yn erbyn un neu fwy o eitemau sydd wedi'u cynnwys yn yr atodlen yn debygol, a all atal yr holl hysbysiad; neu 
  • Fod terfynau amser ar wahân yn fwy priodol ar gyfer y gwahanol eitemau sydd yn yr atodlen; neu 
  • Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd nifer addas o hysbysiadau ar wahân gydag atodlenni unigol ynghlwm yn cael eu cyflwyno. 

7.2.6  Rhaid i swyddogion awdurdodedig osod terfynau amser realistig ar hysbysiadau, gan ystyried y gwaith a bennir ac argaeledd atebion priodol, yn ddelfrydol ar ôl trafodaethau gyda'r gweithredwr busnes bwyd. Mewn unrhyw achos, rhaid rhoi isafswm cyfnod o 14 diwrnod. 

7.2.7      Mae methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella Hylendid yn drosedd a fydd yn gyffredinol yn arwain at argymhelliad i gychwyn achos Llys. Felly, rhaid i swyddogion awdurdodedig fod â digon o dystiolaeth ar gael i gyfiawnhau eu problem, bod yn barod i fynd ar drywydd diffyg cydymffurfiaeth yn y Llysoedd a bod yn fodlon y bydd achos yn debygol o lwyddo. Rhaid i dderbynwyr Hysbysiadau Gwella Hylendid fod yn ymwybodol o'u hawl i apelio a sut a ble i wneud apêl. 

7.2.8    Bydd ceisiadau am estyniad o amser yn cael eu hystyried yn unig os gwneir cais ysgrifenedig a bod derbynwyr hysbysiadau'n cael eu hysbysu am y polisi hwn ar adeg y gwasanaeth. 

7.2.9     Cyn ystyried unrhyw gamau gorfodi, bydd y mater, lle y bo'n briodol, yn cael ei drafod gydag unrhyw awdurdod Sylfaenol, cartref neu wreiddiol perthnasol. 

7.2.10  Bydd y Gwasanaeth yn  hysbysu  cyrff gorfodi  priodol  eraill a phartïon perthnasol eraill sydd â diddordeb am ei gamau gweithredu ynghyd â chyngor yn amlinellu'r camau adfer sy'n angenrheidiol i gydymffurfio. 

7.3   Hysbysiadau Camau Adfer

7.3.1     Hysbysiad Camau Adfer yw hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredwr bwyd perthnasol neu gynrychiolydd awdurdodedig y gweithredwr sy'n:

  • Gwahardd defnyddio unrhyw offer neu unrhyw ran o'r sefydliad a bennir yn yr hysbysiad;
  • Gosod amodau ar neu'n gwahardd unrhyw broses; neu'n
  • Ei gwneud yn ofynnol bod gweithrediad y busnes bwyd yn cael ei atal yn gyfan gwbl neu'n cael ei leihau i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad.

7.3.2   Bydd y swyddog hefyd yn ystyried a ddylid cadw bwyd yn y sefydliad at ddibenion archwilio drwy Hysbysiad Cadw.

7.3.3    Mae'r amgylchiadau a all arwain at gyflwyno Hysbysiad Camau Adfer mewn perthynas â sefydliad yn cynnwys:

  • Methiant unrhyw offer neu ran o sefydliad i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau hylendid bwyd.
  • Problemau traws-halogi.
  • Yr angen i osod amodau ar neu wahardd cynnal unrhyw broses sy'n torri gofynion y rheoliadau neu'n rhwystro archwiliadau iechyd digonol yn unol â'r rheoliadau; neu
  • Pan fo cyfradd gweithredu'r busnes yn niweidiol i'w allu i gydymffurfio â'r rheoliadau.

7.3.4    Rhaid cyflwyno unrhyw Hysbysiad Camau Adfer cyn gynted ag y bo'n ymarferol a rhaid iddo ddatgan pam y mae'n cael ei gyflwyno.  Os bydd y swyddog awdurdodedig yn dibynnu ar unrhyw achos o dorri unrhyw un o ofynion y Rheoliadau Hylendid, rhaid i'r hysbysiad nodi'r toriad a'r camau sydd eu hangen i'w gywiro.

7.3.5   Pan fydd swyddog awdurdodedig yn cyflwyno Hysbysiad Camau Adfer mewn sefydliad sy'n ddarostyngedig i'w gymeradwyo o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004, dylai'r swyddog hefyd ystyried a ddylid cadw bwyd yn y sefydliad at ddibenion archwilio drwy Gyfrwng Hysbysiad Cadw o dan Reoliad 9 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. Mae'r amgylchiadau a allai arwain at gyflwyno Hysbysiad Cadw yn cynnwys pan fo arwyddion neu amheuon nad yw bwyd mewn sefydliad yn ddiogel.

7.3.6   Unwaith y bydd swyddog awdurdodedig yn fodlon bod y camau adfer wedi'u cymryd i gydymffurfio â Hysbysiad Camau Adfer a gyflwynwyd, rhaid iddo dynnu'r hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad pellach yn ysgrifenedig i weithredwr y busnes bwyd neu gynrychiolydd awdurdodedig priodol y gweithredwr busnes bwyd. 

7.3.7  Dylai'r defnydd o Hysbysiadau Camau Adfer a Hysbysiadau Cadw fod yn gymesur â'r risg i iechyd y cyhoedd a lle mae angen gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch bwyd.

7.3.8    Bydd  pob  Hysbysiad Camau Adfer a Hysbysiadau Cadw yn cael eu cyflwyno yn unol â'r Cod Ymarfer perthnasol. Rhaid i dderbynnydd Hysbysiad Camau Adfer fod yn ymwybodol o'r hawl i apelio i'r Llys Ynadon. 

7.4 Hysbysiadau Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid

7.4.1  Nodwyd yr amgylchiadau canlynol fel rhai priodol ar gyfer defnyddio Hysbysiadau Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid ar ôl nodi risg uniongyrchol i iechyd: 

  • Byddai canlyniadau peidio â chymryd camau gweithredu uniongyrchol a phendant i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn annerbyniol.
  • Gellir dangos risg uniongyrchol i iechyd, e.e. tystiolaeth gan arbenigwyr perthnasol megis Dadansoddwr Bwyd neu Arholwr Bwyd. 
  • Mae'r meini prawf cyfarwyddyd a nodir yn y Cod Ymarfer perthnasol, ynghylch yr amodau pan y gallai'r gwaharddiad fod yn briodol, yn cael eu cyflawni. 
  • Mae'r gweithredwr busnes bwyd yn amharod i gadarnhau'n ysgrifenedig unrhyw gynnig a awgrymir o waharddiad gwirfoddol. 

7.4.2  Dim ond Swyddog sydd wedi'i awdurdodi'n briodol i lofnodi a chyflwyno Hysbysiadau Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid, a fydd yn hysbysu eu Rheolwr cyn gynted â phosibl am eu camau gweithredu.

7.4.3   Ni fydd swyddog awdurdodedig yn llofnodi Hysbysiadau Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid oni bai y ceir tystiolaeth o'r sefyllfa a bod y meini prawf perthnasol wedi'u bodloni.

7.4.4    Rhaid i bob Hysbysiad Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid gael eu cyhoeddi yn unol â'r Cod Ymarfer perthnasol. Rhaid i'r derbynnydd fod yn ymwybodol o'r hawl i apelio i'r Llys Ynadon. 

7.4.5    Bydd Cyfreithiwr y Cyngor a'r Rheolwr priodol yn cael eu hysbysu ar unwaith am gyflwyno Hysbysiad Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid. 

7.4.6  Unwaith y bydd Hysbysiad Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid wedi'i gyflwyno, rhaid gwneud cais am Orchymyn Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid i'r Llys Ynadon o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno'r Hysbysiad a rhaid i'r busnes bwyd gael o leiaf un diwrnod o rybudd o'r bwriad i wneud hyn. 

7.4.7    Rhaid  i  weithredwr  busnes  bwyd  sydd  wedi  bod  yn  destun Hysbysiad Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid gael Hysbysiad am Gais am Orchymyn Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid o leiaf un diwrnod cyn dyddiad y cais i Lys Ynadon. Bydd yr hysbysiad yn rhoi manylion am amser a dyddiad y cais. 

7.4.8    Mae methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid yn drosedd a bydd yn arwain at atgyfeirio'r mater i ystyried erlyniad. 

7.4.9   Bydd yr Awdurdod yn hysbysu cyrff gorfodi eraill a phartïon perthnasol eraill sydd â diddordeb am y camau a gymerwyd ganddo. 

Cau Gwirfoddol

8.1    Gellir defnyddio gweithdrefnau gwirfoddol i ddileu amod risg iechyd yn lle cyflwyno Hysbysiad Gwahardd Brys at ddibenion Hylendid. Gallai'r dull hwn fod ar gymhelliad gweithredwr y busnes bwyd neu'r swyddog awdurdodedig. 

8.2    Dylai gweithredwr neu reolwr y busnes bwyd a'r swyddog awdurdodedig gadarnhau unrhyw gytundeb cau gwirfoddol yn ysgrifenedig, gydag ymrwymiad gan weithredwr neu reolwr y busnes bwyd i beidio ag ailagor heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y swyddog. Bydd gweithredwr y busnes bwyd yn cael ei hysbysu bod unrhyw hawl i iawndal yn cael ei golli drwy gynnig cau'n wirfoddol. Ni fydd cytundeb cau gwirfoddol yn atal achos cyfreithiol rhag cael ei gynnal am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd.

Mynd â bwyd a'i gadw

10.1  Os yw'r swyddog awdurdodedig, wrth archwilio bwyd, neu oherwydd gwybodaeth arall o ffynhonnell ddibynadwy, yn credu bod y bwyd yn methu â chydymffurfio â'r gofynion diogelwch bwyd, gall y swyddog gadw neu fynd â'r bwyd o dan Adran 9 Deddf Diogelwch Bwyd 1990. Gall ffynonellau dibynadwy gynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy.

10.2      Gall hefyd fod angen mynd â bwyd a'i gadw ar ôl i'r bwyd gael ei ardystio nad yw'n cael ei gynhyrchu, ei brosesu na'i ddosbarthu yn unol â Rheoliad 27 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. 

10.3     Os oes gan y swyddog awdurdodedig reswm da dros amau nad yw'r bwyd yn bodloni gofynion diogelwch bwyd, gellir cyflwyno hysbysiad cadw bwyd.

10.4     Dim  ond os  yw penderfyniad  i gadw bwyd wedi'i drafod gyda'r perchennog neu'r unigolyn sy'n gyfrifol am y bwyd ac, os yw'n briodol, gyda'r gwneuthurwr y dylid gwneud penderfyniad i gadw bwyd. Pan fo'r swyddog awdurdodedig wedi cyflwyno hysbysiad cadw bwyd, defnyddir barn broffesiynol i benderfynu a ddylid cadw bwyd lle y mae neu ei symud i rywle arall. Os bydd gan y swyddog unrhyw amheuon ynghylch diogelwch neu ofal y bwyd, dylai'r hysbysiad cadw nodi lle y mae'r bwyd i'w symud iddo. Bydd y swyddog yn trefnu monitro'r bwyd o dro i dro drwy gydol y cyfnod cadw.

10.5     Bydd y swyddog awdurdodedig yn gweithredu cyn gynted â phosibl pan fydd tystiolaeth neu wybodaeth yn dangos y gellir rhyddhau bwyd sydd wedi'i gadw, a hynny o fewn 21 diwrnod beth bynnag. Bydd Hysbysiad Tynnu Cadw Bwyd yn ôl yn cael ei gyflwyno.

10.6     Rhagdybir o dan gyfraith bwyd y bwriedir i'r holl fwyd gael ei fwyta gan bobl nes y profir i'r gwrthwyneb. Wrth ystyried a ddylid mynd â bwyd, bydd swyddog yn ystyried a ellir trin neu brosesu'r bwyd dan sylw cyn ei fwyta ac os felly, a fyddai'r bwyd, ar ôl ei drin neu ei brosesu, mewn cyflwr da ac yn iachusol ac yn bodloni gofynion diogelwch bwyd. Gellir mynd â bwyd i'w gondemnio a gedwir yn flaenorol gan swyddog ar ôl derbyn canfyddiadau anffafriol.

10.7     Pan  fydd swyddog  yn  gwneud penderfyniad i fynd â bwyd, bydd hysbysiad rhybudd am gondemnio bwyd yn cael ei gyflwyno i'r unigolyn sydd â gofal am y bwyd, neu i'r perchennog. Bydd yr hysbysiad hwn yn rhoi rhybudd o'r bwriad i fynd â'r bwyd gerbron Ynad Heddwch ac yn gwneud cais am ei gondemnio. 

10.8     Dylai  Ynad Heddwch ymdrin â bwyd yr  aethpwyd ag ef cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, fel arfer o fewn 2 ddiwrnod. Dylid ymdrin ag achosion sy'n cynnwys bwyd darfodus iawn cyn gynted â phosibl. Os oes angen, gellir ymestyn yr amserlen i sicrhau bod partïon a neu eu cynrychiolwyr yn cael cyfle i fynychu. Fodd bynnag, ni fydd oedi wrth weithredu os na ellir olrhain na chysylltu â'r perchennog. 

10.9 Delio â Chyflenwadau, Cyfrannau a Llwythi

10.9.1 Mae angen ystyried yn ofalus y penderfyniad i fynd â neu gadw cyflenwad, cyfran neu lwyth cyn cyflwyno hysbysiad. Bydd y swyddog awdurdodedig yn defnyddio barn broffesiynol a chyngor arbenigol, os oes angen, i benderfynu a ddylid mynd â neu gadw'r cyflenwad, cyfran neu lwyth cyfan neu ran ohono. Bydd y swyddog awdurdodedig yn ystyried:

  • Y dystiolaeth sydd ar gael;
  • Natur yr halogiad;
  • Natur a chyflwr y cynhwysydd sy'n dal y bwyd;
  • Y risg i iechyd;
  • Faint o fwyd sy'n gysylltiedig ag unrhyw samplu sydd wedi wedi'i gynnal.

Iawndal

10.1   Os bydd hysbysiad cadw'n cael ei dynnu'n ôl neu os bydd Ynad Heddwch yn methu â chondemnio bwyd yr aethpwyd ag ef, bydd Cyngor Sir Powys yn ystyried digolledu'r perchennog am unrhyw ddibrisiant yn ei werth o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

Ildio Gwirfoddol

11.1    Gellir defnyddio gweithdrefnau gwirfoddol i dynnu bwyd nad yw'n addas i'w fwyta gan bobl o'r gadwyn fwyd; naill ai ar gymhelliad perchennog y bwyd neu ar awgrym y swyddog awdurdodedig pan fo perchennog y bwyd yn cytuno nad yw'r bwyd yn addas i'w fwyta gan bobl.

11.2     Dylid rhoi derbynneb ar gyfer bwyd sy'n cael ei ildio'n wirfoddol i'r Awdurdod i'w ddinistrio. Dylai'r dderbynneb nodi bod y bwyd wedi'i ildio'n wirfoddol i Gyngor Sir Powys i'w ddinistrio a'i lofnodi a'i gydlofnodi gan y swyddog awdurdodedig a'r unigolyn sy'n ildio'r bwyd yn y drefn honno. 

Dinistrio a Gwaredu 

12.1    Gall Cyngor Sir Powys, drwy gytundeb, godi tâl ar berchennog y bwyd am ddinistrio a gwaredu bwydydd sydd wedi'u hildio'n wirfoddol.

12.2     Fel arfer bydd Cyngor Sir Powys yn gwneud cais i'r Ynad Heddwch am gostau sy'n gysylltiedig â dinistrio a gwaredu bwyd yr eir ag ef.

12.3    Os yw bwyd i gael ei waredu gan Gyngor Sir Powys, bydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn modd addas ac nad oes unrhyw bosibilrwydd y bydd bwyd yn dychwelyd i'r gadwyn fwyd.

Rhybuddiad Syml

13.1     Gweler Polisi Cydymffurfio a Gorfodi cyffredinol Cyngor Sir Powys.

Erlyniad

14.1     Gweler Polisi Cydymffurfio a Gorfodi cyffredinol Cyngor Sir Powys. 

Gorchymyn Gwahardd Hylendid

15.1    Os yw gweithredwr busnes bwyd yn cael ei gollfarnu o drosedd o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a bod y Llys yn fodlon bod yr amod risg i iechyd yn cael ei gyflawni mewn perthynas â'r busnes bwyd o dan sylw, mae gan y Llys y pŵer i osod Gorchymyn Gwahardd at ddibenion Hylendid yn erbyn y gwaharddiad priodol, o dan Reoliad 7 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. 

15.2    Yn dilyn erlyniad llwyddiannus, mae gan y Llys y pŵer i osod y gwaharddiad priodol os yw'n fodlon bod risg o anaf i iechyd fel y'i diffinnir yn Rheoliad 7(2) a (3) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006. Mae'n ofynnol i'r Llys osod Gorchymyn Gwahardd Hylendid priodol a all fod yn ymwneud â gwahardd proses neu driniaeth, neu ddefnyddio mangre neu offer at ddibenion busnes bwyd. 

15.3    Yn dilyn erlyniad llwyddiannus yn erbyn gweithredwr busnes bwyd busnes bwyd, gall y Llys, yn rhinwedd Rheoliad 7(4) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, osod Gorchymyn Gwahardd at ddibenion Hylendid ar y gweithredwr busnes bwyd sy'n cymryd rhan yn y gwaith o reoli unrhyw fusnes bwyd, neu unrhyw fusnes bwyd o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn. 

15.4   Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y Gorchymyn Gwahardd at ddibenion Hylendid, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno copi o'r Gorchymyn Gwahardd at ddibenion Hylendid i weithredwr busnes bwyd y busnes ac yn achos Gorchymyn Gwahardd at ddibenion Hylendid a gyflwynwyd o dan Reoliad 7(1) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, gan osod copi o'r gorchymyn mewn safle amlwg yn y fangre. 

15.5     Mae methu â chydymffurfio â Gorchymyn Gwahardd at ddibenion Hylendid yn drosedd a bydd yn arwain at gael ei anfon ymlaen gyda'r bwriad o erlyniad. 

15.6     Bydd cyrff eraill sydd â diddordeb, gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, yn cael eu hysbysu am y mater o Orchymyn Gwahardd at ddibenion Hylendid a gyhoeddwyd o dan Reoliad 7(4) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.  

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu