Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Costau byw: Help gyda'ch biliau cyfleustodau!

A man adjusting his home thermostat while reading his energy bill

5 Medi 2022

A man adjusting his home thermostat while reading his energy bill
Bydd pob aelwyd ym Mhowys yn derbyn £400 tuag at eu biliau ynni y gaeaf hwn, o ganlyniad i ehangu Cynllun Cymorth Biliau Ynni Llywodraeth y DU.

Bydd y grant hwn yn cael ddidynnu o'r hyn sy'n ddyledus i chi gan eich cyflenwr ynni, dros gyfnod o chwe mis o fid Hydref, os ydych yn gwsmer debyd neu gredyd uniongyrchol; neu bydd yn cael ei gymhwyso i'ch mesurydd trydan neu ei dalu drwy daleb os oes gennych fesuryddion talu ymlaen llaw.

Yn ogystal â hyn, bydd aelwydydd ar amrywiaeth o fudd-daliadau prawf modd yn derbyn taliad o £650 eleni, a fydd yn digwydd mewn dau randaliad;  tra bydd aelwydydd pensiynwyr yn derbyn £300 ychwanegol; a phobl sy'n derbyn budd-daliadau anabledd yn cael taliad unigol o £150 o fis Medi.

Gallwch hefyd gael help os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni, neu ychwanegu arian at eich mesurydd talu ymlaen llaw, drwy siarad â'ch cyflenwr ynni.  Gallai hyn gynnwys help drwy'r Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes, a fydd yn ailagor eto ym mis Tachwedd.

Os ganwyd chi cyn 26 Medi 1956, rydych chi hefyd yn debygol o allu hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf, swm untro blynyddol o rhwng £250 a £600 i'ch helpu i dalu eich biliau gwresogi.

Mae Taliadau Tywydd Oer hefyd ar gael i helpu i dalu am gostau gwresogi ychwanegol pan fydd yn oer iawn, os byddwch eisoes yn cael Credyd pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Cynhwysol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig taliad untro o £200 tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf, sydd yn ychwanegol at y cymorth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU. Mae disgwyl i'r cynllun agor ar 26 Medi a bydd aelwydydd sy'n derbyn ystod ehangach o fudd-daliadau yn gymwys.

Os ydych yn cael trafferth talu eich bil dŵr, dylech gysylltu â'ch cyflenwr. Gallai'r cymorth sydd ar gael gynnwys gostyngiad o £230, os ydych chi'n deulu sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ar brawf modd neu daliad y Cynllun Cymorth Costau Byw.

Os ydych chi'n poeni am dalu eich bil band eang neu ffôn symudol, dylech gysylltu â'ch cyflenwr, gan y gallai'r cyflenwr roi cynllun talu neu gefnogaeth arall ar waith i'ch helpu i gadw mewn cysylltiad.

Os na allwch gadw i fyny â'ch cerdyn credyd, benthyciad neu ad-daliadau morgais, gall eich credydwyr gytuno i wyliau talu tymor byr, neu os siaradwch â chynghorydd dyled proffesiynol mae'n bosibl y gallwch gael mynediad i Lle i Anadlu - pan na ellir cymryd unrhyw gamau gorfodi neu daliadau eu hychwanegu - trwy'r Cynllun Seibiant Dyledion. Gall Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cyngor Sir Powys hefyd eich helpu gydag ymholiadau dyled, drwy ffurflen ar-lein: Oes angen help arnoch chi gyda Chyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan? Neu gallwch ffonio 01874 612153 neu anfon e-bost at: wrteam@powys.gov.uk

Mae cyngor ar ddyledion hefyd ar gael drwy:

Mae rhagor o gyngor am gymorth gyda chostau byw hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cael-help-gyda-chostau-byw