Toglo gwelededd dewislen symudol

Paratoi Fframwaith i asesu safleoedd datblygu posibl

Image of housing set in countryside

6 Medi 2022

Image of housing set in countryside
Mae fframwaith i asesu safleoedd datblygu posibl wedi cael ei lunio fel rhan o waith ar strategaeth a fydd yn tywys graddfa a lleoliad datblygiadau newydd yn y sir.

Mae Cyngor Sir Powys wedi dechrau proses tair blynedd a hanner o hyd i baratoi cynllun datblygu newydd a fydd yn cynnwys Powys gyfan, ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (2022-2037) yn cael ei lunio i fod mewn grym o fis Mawrth 2026 pan ddaw'r Cynllun Datblygu Lleol presennol i ben.

Mae'r cyngor erbyn hyn yn gofyn am safbwyntiau ar y fframwaith, a elwir yn Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol, fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu penderfynu pa safleoedd sydd fwyaf addas ar gyfer datblygiad.

Yn ddiweddarach eleni (mis Tachwedd), bydd y cyngor yn galw am safleoedd datblygu posibl ynghyd â safleoedd y gellir eu defnyddio ar gyfer anghenion eraill megis seilwaith gwyrdd, a adwaenir ar y cyd fel Safleoedd Ymgeisiol, i'w cyflwyno ar gyfer ystyriaeth.

Bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio wedi hynny i ystyried a yw'r Safleoedd Ymgeisiol hyn mewn lleoliad priodol ai peidio, a ydynt yn debygol o gael eu cyflwyno o fewn y 15 mlynedd nesaf ac a ydynt yn debygol o fod yn ymarferol a dichonadwy.

Mae'r cyngor erbyn hyn yn gofyn am safbwyntiau ar y fframwaith a rhaid cyflwyno'r holl sylwadau erbyn dydd Llun, 10 Hydref, 2022 trwy fynd at Polisi Cynllunio a chlicio ar y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (2022-2037).

Dywedodd y Cyng. Jake Berriman, yr Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "I bobl sy'n anghyfarwydd gyda'r broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd, gall hyn oll ymddangos i fod yn gymhleth iawn, ond mewn termau syml iawn, rydym yn ymgynghori ar yr hyn rydym yn meddwl sy'n fethodoleg deg a chadarn i brofi safleoedd posibl y gall tirfeddiannwyr geisio eu cynnwys yn benodol o fewn y cynllun newydd. 

"I unrhyw un sy'n dymuno dilyn cynnydd y cynllun yn fwy cyffredinol, fe hoffwn eu hatgoffa y gellir dod o hyd i ddolen i gofrestru eu diddordeb ar wefan y cyngor. Edrychwch ar Polisi Cynllunio a chlicio ar y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (2022 - 2037)."

Mae'r cyngor hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth gychwynnol ar ddau asesiad - y Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - a fydd yn cael eu cynnal ochr yn ochr â'r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (LDP).

Mae'r asesiadau hyn yn ofynion cyfreithiol i sicrhau fod y CDLl Amnewid yn cyflwyno datblygiad cynaliadwy, yn hyrwyddo llesiant, iechyd, yr iaith Gymraeg ac anghenion amgylcheddol.

Gellir gweld cyflwyniadau i'r asesiadau hyn hefyd a gwneud sylwadau arnynt ar Polisi Cynllunio, gan nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu strwythuro'r ddau asesiad.

I weld copïau papur o'r holl ddogfennau ac i gael ffurflen sylwadau i'w dychwelyd trwy'r post, ymwelwch ag un o'r 12 llyfrgell ganlynol:

Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanandras, Rhaeadr Gwy, Y Trallwng ac Ystradgynlais.