Toglo gwelededd dewislen symudol

Powys yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2022

Gas Safety Week

8 Medi 2022

Gas Safety Week
Mae Cyngor Sir Powys wedi addo cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy (12 - 18 Medi 2022).

Dyma ail ddegawd cynnal Wythnos Diogelwch Nwy er mwyn cadw pobl yn ddiogel, ac mae sefydliadau o bob cwr o'r DU yn gweithio gyda'i gilydd i godi ymwybyddiaeth o beryglon offer nwy nad ydynt yn cael eu cynnal a chadw'n iawn, sy'n gallu arwain at nwy yn gollwng, tân, ffrwydrad a gwenwyn carbon monocsid.

Eleni, mae Wythnos Diogelwch Nwy yn canolbwyntio ar y camau y gall defnyddwyr eu cymryd i sicrhau eu bod yn cadw'n ddiogel, gan gynnwys peidio ceisio gwneud gwaith eich hun ar offer nwy a bod yn ymwybodol o arwyddion offer peryglus, megis staeniau tywyll neu huddyglyd o amgylch offer.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel, "Rydym yn falch i gefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2022 a helpu i gadw ein cymunedau ni'n ddiogel.

"Rwy'n annog holl drigolion Powys, yn arbennig yn ystod yr argyfwng ynni presennol, i fod yn wyliadwrus a dilyn canllawiau 'Gas Safe Register'  i geisio sicrhau nad yw eich offer nwy yn gollwng a'u bod yn ddiogel i'w defnyddio.  Os nad yw'n edrych yn iawn, cysylltwch â 'Gas Safe Register' a fydd yn gallu eich helpu chi."

Dywedodd Jonathan Samuel, Prif Weithredwr 'Gas Safe Register': "Ar adegau anodd fel hyn, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion offer nwy peryglus a chysylltu â pheiriannydd sydd wedi cofrestru â Gas Safe os ydych chi'n poeni, yn ogystal â threfnu gwiriad diogelwch nwy blynyddol.  Mae'n braf gweld gymaint o gefnogaeth i Wythnos Diogelwch Nwy eleni, a thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn barhau i addysgu'r cyhoedd am ddiogelwch nwy a cheisio lleihau'r risg o offer nwy peryglus ar draws y wlad, a helpu i gadw'r genedl yn ddiogel."

I gael y diweddaraf o 'Gas Safe Register' a chyngor trwy gydol Wythnos Diogelwch Nwy, dilynwch  @GasSafeRegister ar Facebook, Twitter ac Instagram a chwilio am #GSW22 a #GasSafetyWeek. 

I'ch cadw chi a'r teulu'n ddiogel, dyma rai awgrymiadau gan 'Gas Safe Register':

  • Deall symptomau gwenwyn CO; cur pen, cyfog, diffyg anadl, pendro, llewygu a cholli ymwybyddiaeth.
  • Chwiliwch am arwyddion y gall eich offer fod yn beryglus, megis staeniau tywyll neu huddyglyd o amgylch yr offer, cyddwysiad a'r fflamau peilot yn diffodd yn aml.
  • Cofiwch beidio blocio'r tyllau awyr gan eu bod yno i helpu'r offer weithio'n ddiogel ac yn effeithlon.
  • Os ydych chi'n arogli nwy neu'n ofni bod nwy yn gollwng, galwch rif ffôn brys y gwasanaeth nwy ar 0800 111 999. 
  • Peidiwch byth â cheisio gweithio ar yr offer nwy eich hun, dylech bob amser geisio cymorth peiriannydd cymwys sydd wedi cofrestru â Gas Safe.
  • Os ydych chi'n trefnu eich gwiriad diogelwch blynyddol, defnyddiwch beiriannydd cymwys sydd wedi cofrestru â Gas Safe yn unig.
  • Dylech bob amser gofyn i weld cerdyn ID eich peiriannydd Gas Safe.  Cofiwch edrych ar gefn y cerdyn sy'n nodi ar ba offer nwy y mae ganddynt y cymwysterau i weithio arnynt.

'Gas Safe Register' yw'r gofrestr swyddogol ar gyfer peirianwyr sy'n gymwys yn gyfreithiol. I ddod o hyd i beiriannydd cofrestredig yn eich ardal chi, ewch i wefan Gas Safe Register GasSafeRegister.co.uk