Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datganiad am Ddyrchafiad i'w gynnal ddydd Sul

Image of County Hall in black and white

9 Medi 2022

Image of County Hall in black and white
Bydd y datganiad sirol am ddyrchafiad Ei Fawrhydi, y Brenin yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir, Llandrindod am 1:30pm ddydd Sul, 11 Medi.

Darllenir datganiad y Brenin gan Uchel Siryf Powys, Tom Jones OBE.

Dilynir hyn gan seremonïau tebyg yn Neuadd y Dref Aberhonddu, Neuadd y Sir yn Llanandras a Neuadd y Dref y Trallwng am 3pm yr un diwrnod.

Estynnir gwahoddiad i aelodau o'r cyhoedd i fynychu'r seremonïau hyn.