Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn croesawu'r cyhoedd yn ôl i'w gyfarfodydd

Image of County Hall

12 Medi 2022

Image of County Hall
Cyhoeddodd y cyngor sir y bydd menter sy'n rhoi cyfle i drigolion Powys ofyn cwestiynau yn ystod cyfarfodydd y cyngor llawn, yn dychwelyd.

Yn dilyn arbrawf llwyddiannus nôl yn 2017, mae Cyngor Sir Powys yn caniatau ugain munud ar ddechrau cyfarfodydd y cyngor llawn i'r cyhoedd ofyn cwestiynau.

Ond cafodd y fenter ei gohirio oherwydd Covid-19 gyda chyfarfodydd y cyngor yn cael eu cynnal yn rhithiol.

Bydd y fenter yn ei hôl erbyn cyfarfod y cyngor llawn a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Hydref.

Rhaid i gwestiynau ymwneud â Phowys a gwasanaethau'r cyngor sir.  Os bydd Cadeirydd y Cyngor yn eu derbyn, byddant yn cael eu ychwanegu at Agenda'r Cyngor yn y drefn y cawsant eu derbyn.

I gyflwyno cwestiwn ar gyfer cyfarfod cyngor llawn mis Hydref, e-bostiwch publicquestions@powys.gov.uk erbyn 5pm dydd Mercher 21 Medi.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://powys.moderngov.co.uk/ecSDDisplay.aspx?NAME=SD672&ID=672&RPID=523659