Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dim casgliadau sbwriel nac ailgylchu ddydd Llun 19 Medi

Image of bins and recycling boxes in black and white

13 Medi 2022

Image of bins and recycling boxes in black and white
Fel arwydd o barch ar gyfer angladd Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II, mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau na fydd unrhyw sbwriel na gwastraff ailgylchu'n cael eu casglu ddydd Llun, gŵyl y banc, 19 Medi.

"Fel arfer, mae'r criwiau bob amser yn gweithio dros wyliau banc er mwyn osgoi amharu gormod ar y trefniadau casglu," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.  "Ond mae gŵyl y banc hon yn un arwyddocaol iawn.  Rydym yn credu, fel arwydd o barch i'r Frenhines a'r teulu brenhinol, na ddylem fod yn gofyn i'r criw weithio ddydd Llun nesaf."

Bydd y diwrnodau casglu sbwriel a gwastraff ailgylchu wythnos nesaf, gan gynnwys gwastraff gardd, yn symud ymlaen ddiwrnod, gyda'r criwiau'n gweithio ar ddydd Sadwrn 24 Medi i orffen rownd yr wythnos.

Diwrnod arferol       Diwrnod casglu newydd

Llun 19 Medi             Maw 20 Medi
Maw 20 Medi            Mer 21 Medi
Mer 21 Medi              Iau 22 Medi
Iau 22 Medi               Gwe 23 Medi
Gwe 23 Medi            Sad 24 Medi

"Mae'r criwiau bob amser yn gweithio'n ddiwyd, yn arbennig oherwydd prinder staff o fewn y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu.   Maent yn aml yn gweithio oriau hir neu weithiau sifft ddwbwl i sicrhau fod y rowndiau'n cael eu cwblhau a'r biniau'n cael eu gwacau.  Dim ond teg a pharchus yw gadael iddynt gael diwrnod gŵyl y banc i ffwrdd o'r gwaith," ychwanegodd y Cynghorydd Charlton.

Bydd y Canolfannau Ailgylchlu hefyd ar gau ddydd Llun 19 Medi.

I gadarnhau'r newidiadau i'ch diwrnod casglu yr wythnos sy'n cychwyn 19 Medi, neu os nad yw eich sbwriel wedi cael ei gasglu, ewch i: Diwrnod casglu biniau