Cyhoeddi adroddiad hunan-asesu blynyddol
22 Medi 2022
Mae'r ddogfen, sy'n cwmpasu Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022, yn coladu gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau, gan ddangos sut mae'r Cyngor:
- Yn ymarfer ei swyddogaethau'n effeithiol
- Yn defnyddio adnoddau yn economaidd, yn effeithlon, ac yn effeithiol
- Â llywodraethiant effeithiol yn ei ategu
Nod yr adroddiad yw cyflwyno asesiad gonest a myfyriol o'r modd y mae'r Cyngor wedi perfformio yn ystod y 12 mis diwethaf; beth sydd wedi gweithio'n dda, beth sydd angen ei wella a beth sydd angen ei wneud mewn ffordd wahanol dros bobl Powys.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn manylu ar y ffordd y mae'r Cyngor wedi cyflawni o ran yr amcanion a'r mesurau llesiant sy'n ffurfio Gweledigaeth 2025, y Cynllun Gwella Corfforaethol presennol, a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Agored a Thryloyw: "O dan y ddeddfwriaeth newydd, mae disgwyl i'r Cyngor ddatblygu a chyhoeddi adroddiad hunan-asesu unwaith ym mhob cyfnod ariannol.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae'r Cyngor yn cyflawni ar lefel strategol a sut mae prosesau'n cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn gweithio'n gywir.
"Mae hon yn broses fyfyriol, ac mae arferion da a meysydd i'w gwella wedi'u nodi. Byddant yn cael eu defnyddio i wella ffordd y Cyngor o weithio, ac yn y pen draw, i gynorthwyo pobl Powys.
"Mae hwn hefyd yn adroddiad i bobl Powys, a byddem yn croesawu pawb i rannu eu barn ar ba mor effeithiol rydym fel Cyngor yn eu barn hwy".
Gellir gweld yr adroddiad llawn drwy ddefnyddio y ddolen ganlynol: https://cy.powys.gov.uk/article/13137/Gweledigaeth-2025-Adroddiad-Hunanasesu-Corfforaethol-Blynyddol
I rannu eich barn ar unrhyw adeg, defnyddiwch y ddolen ganlynol: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/sut-rydyn-nin-gwneud