Gweithdai gloywi theori gyrru i yrwyr hŷn
22 Medi 2022
Mae cyfle i yrwyr hŷn adolygu a gwella'u sgiliau gyrru trwy fanteisio ar gwrs theori gyrru ar-lein, am ddim, wedi'i drefnu gan y cyngor sir. Bydd y cwrs sydd newydd ei ddiweddaru yn cynnwys y newidiadau diweddar i Reolau'r Ffordd Fawr a sut y mae'r rhain yn effeithio ar ddefnyddwyr y ffordd.
Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal gweithdai gloywi theori gyrru ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mercher 19 Hydref 2022
Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022
Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022
Mae'r cwrs yn weithdy anffurfiol ar-lein dros ddwy awr i ddiweddaru eich gwybodaeth o'r ffyrdd mewn amgylchedd cyfnewidiol iawn, felly'n helpu i wella eich sgiliau gyrru a pharhau i yrru'n ddiogel.
Yn ogystal â chynnwys y newidiadau i Reolau'r Ffordd Fawr, bydd y cwrs hefyd yn cynnwys 'y pump angheuol'; beth i'w wneud wrth ddod ar draws defnyddwyr sy'n agored i niwed ar y ffordd megis beicwyr modur, seiclwyr a cheffylau, gofynion o ran y golwg, cyfreithiau meddyginiaeth ac alcohol, beth i'w wneud mewn damwain a llawer mwy.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth a manylion cyswllt un o'r asesiadau 'Drive-On' am ddim dros awr gyda Hyfforddwr Gyrru Uwch.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae sicrhau fod ein ffyrdd a phobl Powys yn ddiogel yn bwysig iawn i ni. Byddem yn annog gyrwyr hŷn ar draws Powys i fanteisio ar y cynllun gwych hwn. Mae'r gweithdai hyn sydd am ddim mor bwysig gan eu bod yn ein hatgoffa o'r newidiadau diweddar i Reolau'r Ffordd Fawr ac yn gloywi ac yn diweddaru ein sgiliau gyrru hanfodol a allai yn y pen draw, helpu i achub bywydau."
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ar un o'r cyrsiau nesaf, cysylltwch â Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd ar:
Ffôn: 01597 82 6924
E-bost: miranda.capecchi1@powys.gov.uk