Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweithdai gloywi theori gyrru i yrwyr hŷn

Image of someone driving a car

22 Medi 2022

Image of someone driving a car
Ydych chi dros 65 oed ac yn byw ym Mhowys?

Mae cyfle i yrwyr hŷn adolygu a gwella'u sgiliau gyrru trwy fanteisio ar gwrs theori gyrru ar-lein, am ddim, wedi'i drefnu gan y cyngor sir.  Bydd y cwrs sydd newydd ei ddiweddaru yn cynnwys y newidiadau diweddar i Reolau'r Ffordd Fawr a sut y mae'r rhain yn effeithio ar ddefnyddwyr y ffordd.

Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal gweithdai gloywi theori gyrru ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mercher 19 Hydref 2022
Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022
Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022

Mae'r cwrs yn weithdy anffurfiol ar-lein dros ddwy awr i ddiweddaru eich gwybodaeth o'r ffyrdd mewn amgylchedd cyfnewidiol iawn, felly'n helpu i wella eich sgiliau gyrru a pharhau i yrru'n ddiogel.

Yn ogystal â chynnwys y newidiadau i Reolau'r Ffordd Fawr, bydd y cwrs hefyd yn cynnwys 'y pump angheuol'; beth i'w wneud wrth ddod ar draws defnyddwyr sy'n agored i niwed ar y ffordd megis beicwyr modur, seiclwyr a cheffylau, gofynion o ran y golwg, cyfreithiau meddyginiaeth ac alcohol, beth i'w wneud mewn damwain a llawer mwy.

Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth a manylion cyswllt un o'r asesiadau 'Drive-On' am ddim dros awr gyda Hyfforddwr Gyrru Uwch.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae sicrhau fod ein ffyrdd a phobl Powys yn ddiogel yn bwysig iawn i ni.  Byddem yn annog gyrwyr hŷn ar draws Powys i fanteisio ar y cynllun gwych hwn.  Mae'r gweithdai hyn sydd am ddim mor bwysig gan eu bod yn ein hatgoffa o'r newidiadau diweddar i Reolau'r Ffordd Fawr ac yn gloywi ac yn diweddaru ein sgiliau gyrru hanfodol a allai yn y pen draw, helpu i achub bywydau."

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ar un o'r cyrsiau nesaf, cysylltwch â Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd ar:

Ffôn: 01597 82 6924
E-bost: miranda.capecchi1@powys.gov.uk