Adolygu cynlluniau ariannol
26 Medi 2022
Cymeradwyodd y Cyngor Sir Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ym mis Mawrth gan fanylu ar ei gynlluniau gwariant tan 2027 ond mae digwyddiadau diweddar yn y byd wedi golygu y bydd rhaid ail-asesu cynlluniau a'u diwygio ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid; "Mae'r byd wedi newid ers mabwysiadu ein cynllun ariannol tymor canolig diwethaf ac mae'r newidiadau hyn wedi cael effaith sylweddol ar yr hinsawdd economaidd gartref a thramor.
"Cafodd ymosodiad Rwsia ar Wcráin sgil effeithiau mawr ar yr economi fyd-eang, gyda phrisiau nwy ac olew wedi cyrraedd dros 200 a 50 y cant, uwchben eu lefelau diwedd 2021. Ers hynny mae'r prisiau wedi gostwng ond yn para i fod tipyn yn uwch na'r cyfartaledd hanesyddol.
"Mae'r pwysau ar brisiau ynni wedi cael effaith uniongyrchol ar economi'r DU gyda chwyddiant yn codi i dros 10 y cant a'r rhagolygon yn awgrymu y bydd yn aros ar lefelau uwch i'r flwyddyn nesaf. Mae cyfraddau llog wedi cynyddu wrth i Fanc Lloegr geisio mynd i'r afael â chwyddiant cynyddol ac mae ansicrwydd sylweddol yn parhau.
"Ni ellir gorbwysleisio effaith y ddau beth hyn gyda'i gilydd ar gyllideb y Cyngor Sir a'i allu i ddarparu gwasanaethau lleol. Mae'n rhaid i ni adolygu ein cynlluniau ariannol tymor canolig ac ystyried costau cynyddol yn y flwyddyn ariannol hon ac ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
"Bydd yn rhaid i ni roi newidiadau ar waith i reoli'r pwysau ariannol hyn cyn gynted ag y gallwn a bydd y cabinet yn gosod y cyfeiriad ac yn datblygu amcanion dros y misoedd nesaf a fydd yn llunio'r cyngor dros y pum mlynedd nesaf.
"Pan fydd y cynlluniau hyn wedi'u cwblhau bydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru. Bydd y Strategaeth yn manylu ar sut y bydd y cyngor yn darparu gwasanaethau i'n preswylwyr gyda'r adnoddau sydd ar gael.